Fel rhan o lu o fentrau Hygyrchedd a Chynhwysiant sy'n cael eu datblygu a'u gweithredu ar hyn o bryd gan Dîm Hygyrchedd a Chynhwysiant Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru; crëwyd y ddogfen hon mewn partneriaeth â'r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd a Chwmnïau Gweithredu Trenau Cenedlaethol eraill.

Pwrpas y ddogfen hon yw hysbysu partïon â diddordeb, yn fewnol ac yn allanol i'r Diwydiant Rheilffyrdd, am yr amrywiaeth o Ganllawiau, Deddfwriaeth a Chydymffurfiaeth berthnasol sy'n effeithio ar y Diwydiant Rheilffyrdd yn gyffredinol heddiw.

Er y cydnabyddir nad yw'r ddogfen hon yn cwmpasu popeth, mae'n darparu trosolwg ac adnoddau mewn perthynas â'r llu o ffactorau a deddfwriaeth y mae'n rhaid eu hystyried a gweithredu'n briodol arnynt yn achos yr holl Gwmnïau Gweithredu Rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr.

  • Manylebau technegol

    • Manylebau Technegol ar gyfer y gallu i ryngweithredu

      Mae manylebau technegol ar gyfer y gallu i ryngweithredu yn diffinio’r safonau technegol a gweithredol y mae’n rhaid eu bodloni i gwrdd â’r ‘gofynion hanfodol’ ac i sicrhau ‘rhyngweithrededd’ system reilffyrdd Ewrop. Mae’r Manylebau hefyd yn nodi'r lefelau perfformiad disgwyliedig

      Mae Rheoliadau Rheilffyrdd (Rhyngweithredu) 2011 yn nodi'r gofynion hygyrchedd ar gyfer rheilffyrdd trwm ar ffurf manyleb dechnegol ar gyfer y gallu i ryngweithredu ar gyfer unigolion sydd â symudedd is.

      Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Rheilffordd (System Reilffyrdd na ellir ei Rhyngweithredu) 2010 (RVAR 2010) yn nodi'r safonau hygyrchedd y mae'n rhaid i gerbydau newydd nad ydynt yn rhai sydd ar y brif reilffordd (a cherbydau rheilffyrdd hŷn wrth iddynt gael eu hadnewyddu) gydymffurfio â hwy.

      Rhaid i gerbydau a gwmpesir gan RVAR 2010 neu'r fanyleb dechnegol ar gyfer y gallu i ryngweithredu ar gyfer unigolion sydd â symudedd is ddarparu nifer o nodweddion sy'n ei gwneud hi'n haws i'w defnyddio, fel rheiliau llaw, arddangosfeydd gwybodaeth i deithwyr, seddi â blaenoriaeth a darpariaeth ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r Fanyleb hefyd yn pennu safonau hygyrchedd ar gyfer gorsafoedd newydd neu ar gyfer gorsafoedd lle mae gwaith mawr yn digwydd.

      Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR)

      Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i Gwmnïau Gweithredu Trenau gan fod angen iddynt sicrhau bod y cerbydau a ddefnyddir fel gwasanaethau yn lle trenau yn hygyrch. Mae’r Rheoliadau yn berthnasol i bob cerbyd gwasanaeth cyhoeddus newydd (bysiau neu goetsis):

      • a gyflwynwyd ers 31 Rhagfyr 2000
      • sydd â lle i fwy na 22 o deithwyr
      • a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth lleol neu wedi ei drefnu

      Mae PSVAR yn gymwys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a chyfrifoldeb yr Adran Drafnidiaeth yw hyn. Mae Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno rheoliadau ar wahân. Cyfrifoldeb yr Adran Datblygu Rhanbarthol yw'r rhain.

      Hygyrchedd Cerbydau Rheilffyrdd

      Amlinelliad o'r ddeddfwriaeth hygyrchedd rheilffyrdd a orfodir gan Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd.

      Canllawiau ar Ryngwyneb Trenau a Phlatfformau

      Mae digwyddiadau yn y rhyngwyneb rhwng trenau a phlatfformau yn cyfrif am bron i hanner cyfanswm y risg o farwolaeth i deithwyr ar rwydwaith y prif reilffyrdd, a thua un rhan o bump o'r risg o farwolaeth ac anafiadau wedi eu pwysoli i deithwyr yn gyffredinol. Mae tudalen Canllawiau ar Ryngwyneb Trenau a Phlatfformau y Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd yn darparu mynediad at gyhoeddiadau, offer ac ymchwil amrywiol ar y pwnc hwn.

  • Safonau/polisïau hygyrchedd y diwydiant

  • Deddfwriaeth trafnidiaeth

    • Deddf Trafnidiaeth 1985

      Crëwyd Deddf Trafnidiaeth 1985 fel ymateb i bryder cynyddol am yr effaith amgylcheddol roedd cludiant preifat yn ei chael a gwrthwynebiad y cyhoedd i gynnydd mewn adeiladu ffyrdd. Ymrwymodd y Ddeddf hefyd i ostwng y swm roedd y cyhoedd yn ei dalu am wrthrychau masnachol.

      Pwyllgor Cynghori ar Drafnidiaeth Pobl Anabl

      Pwyllgor arbenigol a sefydlwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth 1985, i ddarparu cyngor i'r llywodraeth ar anghenion trafnidiaeth pobl anabl. Mae holl weithgareddau’r Pwyllgor yn cyd-fynd â’i ddatganiad gweledigaeth, sef ‘y dylai pobl anabl gael yr un mynediad at drafnidiaeth â phawb arall, er mwyn gallu mynd lle mae pawb arall yn mynd a gwneud hynny yn hawdd, yn hyderus a heb gost ychwanegol’.

      Deddf Rheilffyrdd 1993:

      Creodd y ddeddfwriaeth hon drefn reoleiddio newydd ar gyfer y rheilffyrdd, drwy sefydlu Rheoleiddiwr Rheilffyrdd (i ddelio ag elfennau trechol a monopoli y diwydiant, yn bennaf Railtrack (Network Rail bellach)) a'r Cyfarwyddwr Masnachfreinio Rheilffyrdd i Deithwyr, oedd yn gwerthu rhyddfreintiau rheilffyrdd i deithwyr i'r sector preifat. Disodlwyd y Cyfarwyddwr Masnachfreinio Rheilffyrdd i Deithwyr yn 2001 gan yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol. Pan ddiddymwyd yr Awdurdod yn 2006 cymerwyd y cyfrifoldeb dros ryddfreinio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Diddymwyd sefyllfa statudol y Rheoleiddiwr Rheilffyrdd ym mis Gorffennaf 2004 a chymerwyd ei swyddogaethau gan y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd. Deddf Rheilffyrdd 1993

  • Ystadegau’r diwydiant rheilffyrdd

  • Deddfwriaeth defnyddwyr

    • Deddf Cydraddoldeb 2010

      Deddf Seneddol y Deyrnas Unedig yw Deddf Cydraddoldeb 2010, gyda'r prif bwrpas o gydgrynhoi, diweddaru ac ategu'r Deddfau a'r Rheoliadau blaenorol niferus, a oedd yn sail i gyfraith gwrth-wahaniaethu ym Mhrydain.

      Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

      Mae Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 yn rhoi’r hawl i chi hawlio iawndal gan gynhyrchydd cynnyrch diffygiol os yw wedi achosi difrod, marwolaeth neu anaf personol.

      Mae'r ddeddf hefyd yn cynnwys prawf atebolrwydd caeth ar gyfer cynhyrchion diffygiol yng Nghyfraith y Deyrnas Unedig sy'n golygu bod cynhyrchydd y cynnyrch hwnnw'n atebol yn awtomatig am unrhyw ddifrod a achosir.

      Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

      Daeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i rym ar 25 Mai 2018, ac fe’i cynlluniwyd i foderneiddio deddfau sy’n amddiffyn gwybodaeth bersonol unigolion.

      Mae’r Canllaw hwn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhan o'i Ganllaw ar Ddiogelu Data, sydd wedi ei anelu at Swyddogion Diogelu Data ac eraill sydd â chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddiogelu data.

      Mae'n esbonio'r drefn gyffredinol ar ddiogelu data sy'n berthnasol i'r mwyafrif o fusnesau a sefydliadau'r Deyrnas Unedig. Mae'n cwmpasu'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data fel mae'n berthnasol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei deilwra gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

      Deddf Camliwio 1967

      Deddf Seneddol y Deyrnas Unedig yn y Deyrnas Unedig yw Deddf Camliwio 1967 a ddiwygiodd egwyddorion camliwio cyfraith gwlad. Cyn y Ddeddf, roedd y gyfraith gyffredin yn nodi bod dau gategori o gamliwio: twyllodrus a diniwed.

  • Perthynol i gymru yn benodol

    • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

      Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn unigryw i Gymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

      Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

      Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig yw Deddf yr Iaith Gymraeg, sy'n rhoi'r Gymraeg ar sail gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru.

  • Ystadegau cyffredinol yn gysylltiedig ag anabledd

    • Arolwg Adnoddau Teulu’r Adran Gwaith a Phensiynau

      Mae'r Arolwg Adnoddau Teulu yn arolwg parhaus o aelwydydd, sy'n casglu gwybodaeth am sampl gynrychioliadol o aelwydydd preifat yn y Deyrnas Unedig. Mae'r cyhoeddiadau blynyddol hyn yn darparu ystadegau a sylwebaeth ar:

      • incwm o bob ffynhonnell
      • deiliadaeth tai
      • anghenion a chyfrifoldebau gofal
      • anabledd
      • cyfranogiad mewn pensiwn

      Scope

      Elusen cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru a Lloegr, ffeithiau a ffigurau allweddol ar anabledd

      Leonard Cheshire

      Elusen cydraddoldeb anabledd fyd-eang, ffeithiau a ffigurau allweddol ar anabledd

 

Fformatau amgen

Mae ein holl ddogfennaeth yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg / Deddf yr Iaith Gymraeg ac maent ar gael yn ddwyieithog. Fodd bynnag, fe allai gwefannau cysylltiedig fod yn Saesneg yn unig.

Mae fformatau amgen ein holl ddogfennau ar gael yn rhad ac am ddim, gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Gall y tîm ddarparu fformatau amgen fel print bras, Braille neu fersiynau sain.

Byddwn yn darparu'r ddogfen print bras cyn pen saith diwrnod ar ôl derbyn eich cais, ac unrhyw fformat arall cyn gynted â phosibl.

Os hoffech gael copïau o'r canllawiau hyn neu unrhyw gyhoeddiad arall gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru mewn fformat arall, cysylltwch â ni yn y ffyrdd a ganlyn:

  • Y Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202
  • Neu cysylltwch â ni gyda’n ffurflen ar-lein
  • Neu ysgrifennwch atom
    FREEPOST
    TFW RAIL CUSTOMER RELATIONS