Tocynnau a disgowntiau

Mae llawer o ffyrdd i chi brynu eich tocynnau a llawer o ddisgowntiau ar gael i ateb anghenion amrywiol.

Gallwch chi brynu tocyn:

  • o’n gwefan;
  • drwy ffonio 033 300 50 501;
  • mewn unrhyw orsaf lle mae swyddfa docynnau; neu
  • o beiriant tocynnau mewn gorsaf.

Os nad ydych yn gallu prynu tocyn drwy un o’r ffyrdd hyn am resymau hygyrchedd, gallwch brynu eich tocyn gan y tocynnwr ar y trên neu yn yr orsaf ar ben eich taith. Ni fydd cosb a byddwch yn dal i gael unrhyw ddisgownt sy’n berthnasol i chi.

 

Cardiau Rheilffordd

Gallech arbed arian ar eich tocynnau trên drwy brynu cerdyn rheilffordd.

Os ydych chi’n anabl, fe allech chi fod yn gymwys i gael 1/3 o ostyngiad ar bris tocynnau (i chi a ffrind) gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Anabl.

I’r rhai sy’n 60 oed neu’n hŷn, fe allech chi fod yn gymwys i gael 1/3 o ostyngiad ar brisiau tocynnau gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Hŷn.

 

Disgowntiau heb Gerdyn Rheilffordd

Os ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall ac yn teithio gyda chyd-deithiwr, neu os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn, gallwch gael gostyngiad heb Gerdyn Rheilffordd Pobl Anabl.

 

Teithio Rhatach

Os oes gennych Gerdyn Teithio Rhatach oddi wrth un o Awdurdodau Lleol Cymru, gallwch deithio am ddim ar lawer o’n trenau.

 

Tocynnau Tymor ar gyfer Teithwyr sydd â Nam ar eu Golwg

Os ydych chi wedi cofrestru bod gennych nam ar y golwg, mae tocyn tymor yn golygu bod cyd-deithiwr yn cael teithio am ddim gyda chi. Gall fod yn gyd-deithiwr gwahanol bob tro y byddwch chi’n teithio. Gallwch brynu’r tocynnau tymor hyn mewn swyddfa docynnau.