A view of the Aberystwyth landscape

Teithio i Aberystwyth ar y trên

Teithiwch i Aberystwyth yn rhwydd o amrywiaeth o gyrchfannau ar hyd a lled Cymru a’r gororau. Dewch i fwynhau popeth sydd gan y dref hardd hon i’w cynnig yma.

Tref farchnad brydferth ar arfordir Ceredigion, gorllewin Cymru, yw Aberystwyth, neu ‘Aber’ fel y gelwir ar lafar gwlad. Mae hefyd yn dref prifysgol sy’n adnabyddus am ei diwylliant, ei threftadaeth a’i thirweddau.

P’un a ydych yn cerdded ar hyd y pier hynaf yn y wlad neu’n edrych drwy'r camera obscura ar ben Craig Glais, mae yna olygfeydd bendigedig o’r promenâd a’r arfordir o gwmpas Aber.

 

Teithio i Aberystwyth ar Drên

Gallwch deithio i Aberystwyth yn rhwydd ar ein rhwydwaith trenau sydd wedi’i gysylltu’n dda ledled Cymru a’r gororau. Mae gan orsaf drenau Aberystwyth ddau blatfform ac mae’n croesawu trenau o amrywiaeth o gyrchfannau, gan gynnwys yr isod:

 

Pam ymweld ag Aberystwyth?

Mae gan y dref lan môr Sioraidd rywbeth at ddant pawb. Mae’r dref yn llawn dop o atyniadau diwylliannol ac yn ffenestr i ddiwylliant Cymreig gyda llenyddiaeth, ffilm, celf, sain a mwy. Dewch i ddarganfod rhai o’r lleoliadau diwylliannol mwyaf poblogaidd ar ein rhestr o bethau i’w gwneud yn Aberystwyth gyda rhywbeth i’r teulu cyfan.