Cardiff Bay

Ar lan y dŵr yng Nghaerdydd ceir tai bwyta heb eu hail, atyniadau ac adloniant o safon fyd-eang.

Reid fer ar y trên o ganol dinas Caerdydd, gallwch fwynhau sioe yng Nghanolfan y Mileniwm, mynd am reid ar gwch neu ymweld ag adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Trenau i Fae Caerdydd:

 

Gwerth eu gweld

  • Canolfan Mileniwm Cymru - cartref cenedlaethol y celfyddydau perfformio - yn cyflwyno sioeau cerdd y West End, opera, bale, syrcas a dawns gyfoes, ynghyd â rhaglen enfawr o berfformiadau am ddim
  • Y Senedd - Y Senedd yw prif adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dyma galon datganoli a democratiaeth yng Nghymru. Mae ar agor i aelodau’r cyhoedd i wylio’r trafodaethau o’r oriel gyhoeddus, cael paned yn y caffi neu fwynhau un o’r arddangosfeydd, perfformwyr neu weithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal yn aml drwy'r flwyddyn.
  • Techniquest - Techniquest yw'r lle i blant o bob oed sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth. Y ganolfan gwyddoniaeth sydd wedi bodoli hiraf yn y DU, ei chenhadaeth yw "gwreiddio gwyddoniaeth yn niwylliant Cymru drwy ymwneud rhyngweithiol".

 

Penwythnos ym Mae Caerdydd

Yr Ŵyl Fwyd - bob haf, mae Roald Dahl Plass yng nghanol Bae Caerdydd yn croesawu stondinau bwyd, bariau a gwerthwyr bwyd stryd. Peidiwch â methu’r dathliad godidog hwn o ddanteithion coginio.

Morglawdd - Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn cysylltu’r Bae â thref gyfagos Penarth. Gallwch gerdded ar hyd y palmant gwastad a mwynhau’r parciau a’r lociau ar hyd y ffordd neu ddal tacsi dŵr ar draws. Fe ddysgwch am hanes Scott o’r Antarctig drwy’r arddangosfa am y Terra Nova anlwcus a hwyliodd o harbwr Caerdydd yn 1910.

Yr Eglwys Norwyeg - Bellach yn ganolfan i’r celfyddydau ac yn siop goffi, arferai’r eglwys hon weithredu fel man cyfarfod i forwyr o Norwy. Dyma hefyd y man lle cafodd yr awdur llyfrau plant enwocaf erioed, Roald Dahl, ei fedyddio.