A view of the Tenby beach from the water

Darganfod Dinbych-y-pysgod

Wedi’i lleoli ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yng ngorllewin Cymru, mae Dinbych-y-pysgod yn dref harbwr ac yn gyrchfan lan môr llawn hanes. Yma, fe welwch chi siopau, caffis, a bwytai hyfryd, yn ogystal â thraethau hardd gyda dyfroedd glas clir, mur canoloesol, a llawer mwy. Mae cymaint o bethau i’w gwneud yn Ninbych-y-pysgod. Dyma leoliad perffaith ar gyfer treulio’r penwythnos gyda’r teulu cyfan.

 

Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio’r car

Gall ein trenau fynd â chi i rai o'r cyrchfannau arfordirol gorau yn y DU.

Dinbych-y-pysgod yw un o hoff drefi glan môr Cymru gyda thraethau gogoneddus, awyrgylch cynnes a thai Fictoraidd cain.  I gael profiad gwirioneddol o Ddinbych-y-pysgod, mae'n rhaid i chi ymweld â Harbwr Dinbych-y-pysgod - harbwr bach a chyfeillgar lle gallwch fwynhau pysgota, mynd ar daith mewn cwch i Ynys Bŷr gerllaw, ymlacio a dadflino ar y traeth gwych neu eistedd a gwylio pobl yn mynd â dod.

 

Teithio i Ddinbych-y-pysgod gyda Trafnidiaeth Cymru

Dinbych-y-pysgod yw un o’r trefi glan môr gorau yng Nghymru gyda thraethau godidog, awyrgylch cynnes a thai Fictoraidd gwych, sy’n golygu bod yn rhaid i chi ymweld â fan hyn os ydych chi yn yr ardal.

Mae gorsaf drenau Dinbych-y-pysgod yn llai na 10 munud o daith cerdded i’r harbwr a’r traethau hardd. Peidiwch ag oedi cyn mynd ar wibdaith gyda'r teulu - prynwch eich tocynnau heddiw. Mae gennym hyd yn oed gynnig lle am ddim i blant i’ch helpu i arbed arian.