Mae calon dinas enedigol The Beatles yn curo â diwylliant a threftadaeth
Mae mwy o amgueddfeydd ac orielau yn Lerpwl nag yn unrhyw le arall yn y DU ar wahân i Lundain ac mae’n ddinas ddelfrydol ar gyfer gwyliau. Mae’n gartref i nifer o grwpiau cerddorol, dau glwb pêl-droed o uwchgynghrair Lloegr a Chwrs Rasio Aintree felly mae’n cynnig llawer mwy na chelf, mae Lerpwl yn ddinas ddelfrydol ar gyfer gwyliau.
Gwasanaethau trenau TrC uniongychol i Lerpwl yn dechrau o 19eg Mai 2019
- Uniongyrchol rhwng Caer a Lerpwl Lime Street - o 45 munud, fel
arfer yn gadael pob awr. - Uniongyrchol rhwng Wrecsam Cyffredinol a Lerpwl Lime Street -
o 1 awr 05 munud, fel arfer yn gadael dwywaith y dydd. - Caerdydd Canolog i Lerpwl Lime Street - o 3 awr 15 munud (gydag un newid o'r trên yn unig))
- Llandudno i Lerpwl Lime Street - o 1 awr 45 munud (gydag un
newid trên yn unig)
Gwerth eu Gweld
- The Beatles Story a The Cavern - Dysgwch am hanes The Beatles yn y dathliad anhygoel hwn gydag arddangosfeydd, eitemau cofiadwy, canllawiau sain, ffotograffau a mwy yn yr atyniad yma sydd wedi ennill gwobrau. Wedyn beth am fynd draw i The Cavern, sydd wedi cael ei alw’n ‘y clwb enwocaf yn y byd’. Mae wedi bod yn ganolbwynt i gerddoriaeth yn Lerpwl ers dros 60 o flynyddoedd.
- Oriel Gelf Walker - Cartref i waith gan David Hockne a Lucian Freud yn ogystal â champweithiau o’r Dadeni a chasgliadau o gelf Cyn-Raffaëlaidd. Mae’r Oriel yma wedi bod yn un o’r goreuon yn Ewrop ers dros 130 o flynyddoedd.
- Anfield a Goodison Park - Cyrchfan ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau pêl-droed. Mae’r ddau gawr yma wedi croesi’r ddinas i chwarae ei gilydd yn fwy na neb arall ar y lefel uchaf ym mhêl-droed Lloegr
Penwythnos yn Lerpwl
Cadeirlan Lerpwl ydy’r gadeirlan fwyaf yn y DU. Dechreuwyd adeiladu Cadeirlan Lerpwl yn 1904 ac ni chafodd y gwaith ei orffen tan 1978, 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Tate Liverpool - yn noc Royal Albert gallwch fwynhau arddangosfeydd modern a chyfoes Prydeinig a rhyngwladol yn yr oriel yma. Agorwyd Tate Liverpool yn 1897 ac ar hyn o bryd mae’n arddangos dros 70,000 darn o gelf.
British music experience - Agorwyd yr atyniad yma yn 2017 ac mae’n defnyddio dillad, offerynnau ac eitemau cofiadwy perfformwyr i adrodd hanes cerddoriaeth dros y blynyddoedd. Mae hyd yn oed cyfle i chi roi cynnig ar chwarae gitâr neu daro drymiau.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Rhowch gynnig arni
Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau
Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!
-
Caer Dewch i ddarganfod
-
Llandudno Dewch i ddarganfod
-
Manceinion Dewch i ddarganfod
-