TEITHIO AR DRÊN I LANDUDNO.
Llandudno, gyda’i glan y môr hyfryd, y Gogarth a’r pier mawr yw ateb Cymru i Dde Ffrainc.
Mae glan y môr Fictoraidd Llandudno sydd wedi’i gadw’n berffaith, gyda’i westai lliw golau a phensaernïaeth glan y môr draddodiadol yn golygu ei fod yn un o’n prif lefydd i ymweld â nhw yng Ngogledd Cymru. Ewch ar daith 200 metr uwchben y môr i’r Gogarth, sy’n dirnod arfordirol rhyfeddol, i fwynhau golygfeydd o’r ardal. Efallai y dewch ar draws ambell i afr yno hefyd. Rydyn ni’n darparu trenau i Landudno ac i Gyffordd Llandudno. Os ydych chi’n ymweld â’r môr, ewch ar y trên i Landudno. Gallwch fynd i lan y môr drwy deithio ymlaen o Gyffordd Llandudno. Cynlluniwch eich ymweliad gyda’n Cynlluniwr Teithiau.
TRENAU I LLANDUDNO::
PETHAU I’W GWELD YN LLANDUDNO:
- Y Gogarth - Mae’r mynydd calchfaen hwn i’r gogledd-orllewin o Landudno. Hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo fel cerdded i’r copa ar gyfer y golygfeydd godidog, gallwch fwynhau Tramffordd y Gogarth neu’r mwyngloddiau copr.
- Pier a Phromenâd Llandudno – Ni fyddai unrhyw daith i Landudno yn gyflawn heb fynd am dro ar hyd y promenâd ac yna i’r pier, lle gallwch ddod o hyd i siopau a bwytai a mwynhau pysgod a sglodion tra’n edrych allan ar y môr.
- Dilynwch y gwningen wen – Pan fyddwch chi yn Llandudno, mae llawer o gymeriadau Alys yng Ngwlad Hud ar wasgar ar hyd y lle. Mae map o Lwybr Alys yng Ngwlad Hud ar gael gan Croeso Conwy neu gallwch ddilyn olion traed efydd y Gwningen Wen o amgylch y dref.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Let's try it
Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau
Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!
-
Caer Dewch i ddarganfod
-
Manceinion Dewch i ddarganfod
-
Caerdydd Dewch i ddarganfod
-