Annwyl gwsmeriaid,
Wrth i ni barhau i geisio byw ein bywydau gyda Covid-19 yn ein mysg, mae’n galonogol gweld bod cynnydd yn cael ei wneud a bod ambell eginyn o normalrwydd yn dychwelyd.
Diolch i bawb sydd wedi deall yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu wrth geisio rhedeg gwasanaeth trenau yn ystod cyfnod Covid-19, ac i’r rheini sydd wedi gweithio gyda ni i ddilyn y ffyrdd newydd rydyn ni’n eu defnyddio i deithio bellach.
Mae’r gofynion newydd hyn yn seiliedig ar gyngor gan y llywodraeth a sefydliadau iechyd y byd, ac maent wedi’u llunio i gyfyngu ar y risg o ledaenu Covid-19 a lleihau’r gyfradd heintio. Fel y gwyddom, ac fel rydyn ni wedi’i weld mewn rhai ardaloedd ledled y DU, mae’n rhaid i bawb chwarae ei ran i leihau’r gyfradd heintio, ac os na wnawn ni hynny, bydd y cyfraddau heintio’n cynyddu a bydd y llywodraeth yn rhoi rhagor o gyfyngiadau symud ar waith.
Rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan a pharchu eraill wrth i ni ddechrau dychwelyd i’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘normal newydd’ wrth i siopau a chyfleusterau cyhoeddus eraill ddechrau ailagor.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl. I baratoi, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod ein trenau a’n gorsafoedd mor ddiogel â phosibl. Os nad ydych chi wedi teithio gyda ni ers tro, fe sylwch chi fod ychydig o newidiadau o gwmpas y gorsafoedd a’r trenau. Mae llawer o arwyddion a gwybodaeth o gwmpas llwybrau cerdded, mae systemau unffordd ar waith, ac mae hylif diheintio dwylo mewn sawl man. Mae nodweddion i wneud pethau’n hwylus ac yn ddiogel i chi, ac i ddiogelu’r bobl ddewr sy’n gweithio’n galed i gadw gwasanaethau i symud ac sydd ar gael i roi help i chi pan mae ei angen arnoch.
Ar sail canllawiau diweddaraf y llywodraeth, mae ychydig o fanylion mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn eich helpu chi gyda’ch profiad teithio:
- Mae gorchuddion wyneb yn hanfodol wrth deithio. Nodwch fod rhaid i’r rhain fod yn orchuddion ‘3 haen’ (neu fanyleb uwch) yng Nghymru e.e. masgiau llawfeddygol untro. Os ydych chi’n teithio drwy Gymru a Lloegr, mae’n well defnyddio opsiwn 3 haen oherwydd bydd yn cydymffurfio ar bob rhan o’n rhwydwaith.
Nodwch fod eithriadau meddygol i hyn, felly efallai y byddwch yn dod ar draws bobl heb orchudd wyneb; fodd bynnag, disgwylir i’r niferoedd hyn fod yn fach.
- Er mwyn i chi allu cadw’ch masg amdanoch, rydyn ni’n gofyn i chi beidio â bwyta nac yfed oni bai fod hynny am reswm meddygol. Yn yr un modd, rydyn ni’n gofyn i chi beidio â defnyddio ffonau symudol oni bai fod hynny’n hanfodol
- Fe welwch fod marciau cadw pellter cymdeithasol clir ar ein trenau ac rydyn ni’n gofyn i chi barchu’r rhain – maen nhw yno i’ch diogelu chi.
- Rydyn ni’n symud tuag at wasanaeth archebu ymlaen llaw ar nifer o’n gwasanaethau er mwyn gallu rheoli niferoedd yn well. At yr un diben, rydyn ni hefyd yn monitro ac yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n cael teithio ym mhob trên, felly efallai na fydd yn bosib mynd ar y trên bob amser.
- Tarwch olwg ar eich taith ymlaen llaw a chynllunio digon o amser ar gyfer eich taith lle bo hynny’n bosibl.
- Efallai y bydd system unffordd yn ein gorsafoedd prysurach er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol. Edrychwch ar yr arwyddion cyn dilyn eich llwybr arferol.
- Mae gweithdrefnau glanhau ychwanegol ar waith yn ein holl drenau a gorsafoedd, ac mae peiriannau hylif diheintio dwylo wedi’u gosod mewn mannau amrywiol. Golchwch eich dwylo’n rheolaidd; mae’n fesur diogelu syml ac effeithiol
- Defnyddiwch ddulliau digyswllt i dalu am eich tocynnau lle bo hynny’n bosib.
Er gwaethaf Covid-19, rydyn ni’n dal yn gweithio’n galed i wella eich rheilffyrdd, ac mae gennym ni lawer o brosiectau buddsoddi ar y gweill
e.e. peiriannau tocynnau digyswllt newydd, technoleg Cardiau Clyfar, a mannau ychwanegol i storio beics, sydd i gyd yn mynd rhagddynt ochr yn ochr â llu o welliannau eraill. Felly, efallai y byddwch chi’n gweld contractwyr o gwmpas eich gorsaf leol. Byddan nhw’n gweithio’n ddiogel yn unol â’n rheoliadau newydd wrth i ni ymdrechu i wella profiadau cwsmeriaid ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Rwy’n ymwybodol y byddai llawer o'r mesurau hyn yn od ac yn ddiangen dan amgylchiadau arferol, ond dydy hwn ddim yn gyfnod arferol. Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ffynnu fel cymdeithas, gan sicrhau bod ein diogelwch ein gilydd yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.
Parchwch y mesurau hyn; maen nhw yno i’n diogelu ni i gyd.
Yn olaf, dangoswch y parch maen nhw’n ei haeddu i’n cydweithwyr sy’n gweithio’n galed ar y rheilffyrdd. Nid swyddogion gorfodaeth ydym ni; rydyn ni yma i’ch helpu chi, i'ch cynghori chi ac i ddarparu gwasanaeth trenau i chi.
Drwy weithio gyda ni, gallwch chi ein helpu ni i ganolbwyntio ar eich cael chi o A i B mor ddiogel â phosib.