Mae’r cwestiynau cyffredin hyn yn darparu gwybodaeth am ein trefniadau presennol ar gyfer helpu teithwyr anabl a theithwyr hŷn i deithio ar ein trenau, gan gynnwys manylion ein cyfleusterau mewn gorsafoedd.

Mae hefyd yn darparu manylion cyswllt defnyddiol a gwybodaeth y gallech chi fod ei hangen i gynllunio’ch teithiau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill, neu os oes angen gwybodaeth am ein polisïau arnoch. Fel arall, ffoniwch ein Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03330 050 501, neu cysylltwch â ni gyda’n ffurflen ar-lein neu casglwch gopi wedi’i argraffu o’n gorsafoedd lle mae staff.

  • Sut mae archebu teithio gyda chymorth?
    • Archebu teithio gyda chymorth a chynllunio’ch taith

      Rydym yn gweithio ar fentrau newydd i helpu cwsmeriaid ag anghenion mynediad i deithio’n gyfforddus, yn ddiogel ac annibynnol. Gallwch ddarganfod mwy yma.

      Rydyn ni eisiau i bawb deithio'n hyderus. Dyna pam, os ydych yn bwriadu teithio gyda gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gallwch ofyn am archeb cymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.

      Cysylltwch â ni drwy:

      • Ffoniwch ein tîm Teithio gyda Chymorth: 03330 050 501

      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf 18001 033 300 50 501 (ar gyfer pobl gydag anawsterau clywed a lleferydd)

      • Ar-lein

      Sylwch mai ein horiau agor yw 24 awr y dydd, ac eithrio Dydd Nadolig.

       

      Alla i archebu teithio gyda chymorth ar ddydd Nadolig i deithio ar Ŵyl San Steffan?

      Mae nifer o wasanaethau rheilffyrdd ar gau ar Ddydd Nadolig. Fodd bynnag, os ydych chi am archebu ar Ddydd Nadolig i deithio ar Ŵyl San Steffan, ffoniwch National Rail Enquiries ar 08000 223 720 (neu ffôn testun 08456 050 600).

       

      Faint o rybudd sydd angen i mi ei roi i archebu teithio gyda chymorth?

      Wrth archebu teithio â chymorth nid oes angen i chi roi mwy na 2 awr o rybudd i ni. Gallwch archebu ymhellach ymlaen llaw os yw'n well gennych. Gall y tîm Teithio â Chymorth:

      • Eich helpu i archebu teithio gyda chymorth a chadw sedd neu ofod cadair olwyn ar gyfer teithiau ledled rhwydwaith National Rail.

      • Ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi am hygyrchedd gorsafoedd neu drenau.

      Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob amser “droi a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.

       

      Pa gymorth sydd ar gael i mi os ydw i’n archebu teithio gyda chymorth?

      Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gallwn drefnu i werthwr tocynnau neu staff gorsaf eich helpu ar ac oddi ar y trên yn ystod yr oriau pan fo trenau i fod i aros ynddyn nhw. Wrth archebu teithio gyda chymorth, gallwn drefnu’r canlynol:

      • Sicrhau bod ramp ar gael i’ch helpu chi ar ac oddi ar y trên.

      • Eich tywys drwy’r orsaf ac ar neu oddi ar y trên.

      • Dod o hyd i’ch sedd ar y trên.

      • Cadw sedd neu ofod cadair olwyn, os yw hyn yn bosibl, ar ein gwasanaethau neu ar wasanaethau cwmnïau rheilffyrdd eraill.

      • Eich helpu i wneud cysylltiadau â chwmnïau trenau eraill mewn un archeb unigol.

      • Cymorth gyda bagiau

       

      Alla i gael cymorth yr un fath, er nad ydw i wedi archebu teithio gyda chymorth?

      Os nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, byddwn yn eich helpu os yw hynny’n bosibl. Siaradwch gydag aelod o staff yr orsaf. Byddan nhw’n eich cynorthwyo i fynd ar y trên roeddech chi’n bwriadu ei ddal neu’r un nesaf sydd ar gael.

      Ceisiwch gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser y trên rydych chi’n bwriadu ei ddal er mwyn i’r staff allu eich tywys i’r platfform mewn da bryd ar gyfer y trên.

      Mewn gorsafoedd lle nad oes staff i’ch helpu, gall ein gwerthwyr tocynnau eich helpu i fynd ar y trên (er enghraifft, trwy ddefnyddio’r ramp ar y trên). Yn yr achos hwn, mae angen i chi fod ar y platfform mewn pryd ar gyfer y trên.

       

      Pa gymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd heb staff?

      Nid oes gan y rhan fwyaf o’n gorsafoedd staff neu dim ond staff swyddfa docynnau sydd yno, na allant ddarparu teithio gyda chymorth.

      Bydd y gwerthwr tocynnau ar y trên yn eich helpu i fynd ar y trên. Os oes angen cymorth arnoch mewn gorsaf heb staff neu orsaf gyda staff swyddfa docynnau yn unig, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth.

      Os ydych chi’n cyrraedd gorsaf heb staff a’ch bod angen cymorth ond heb archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth. Mae’r manylion cyswllt ar y poster gwybodaeth wrth fynedfa’r orsaf.

      Gall y tîm Teithio gyda Chymorth drefnu cludiant amgen i chi neu drefnu i werthwr tocynnau eich helpu ar neu oddi ar y trên os gallwch chi gyrraedd y platfform.

      Rydym yn gofalu bod trefniadau penodol ar waith ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth mewn unrhyw orsaf os cynhelir digwyddiad arbennig gerllaw (yn enwedig yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaer).

      Rydym hefyd yn gofalu bod y trefniadau ar gyfer darparu cymorth mewn unrhyw orsaf yn cael eu dangos ar dudalen pob gorsaf ar wefan National Rail Enqiries (www.nationalrail.co.uk).

       

      Oes modd i mi ddefnyddio teithio gyda chymorth i deithio i Ogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon neu ar deithiau rhyngwladol?

      Na. Does dim modd i chi ddefnyddio’r gwasanaeth teithio gyda chymorth ar deithiau rhyngwladol neu deithiau i Ogledd Iwerddon neu i Weriniaeth Iwerddon. Er mwyn teithio ymlaen ar awyren, ar long neu ar Eurostar (i Ewrop), bydd angen i chi gysylltu â’r darparwr trafnidiaeth i drefnu cymorth.

       

      Beth sy’n digwydd os yw pethau’n mynd o chwith? 

      Rydym yn ceisio darparu teithio gyda chymorth dibynadwy ar sail eich anghenion. Ond, os oes rhywbeth yn mynd o’i le, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Byddwn yn ystyried cynnig iawndal priodol (gan gynnwys ad-daliad llawn neu rannol) yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

      Rydym yn croesawu sylwadau ar unrhyw ran o’n gwasanaeth, gan gynnwys pan nad yw cyfleusterau yn gweithio.

      • Ffôn:  03333 211 202 

      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf:  18001 03333 211 202 

      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

      • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

      Gall y tîm anfon copi atoch o’r ddogfen hon neu o’n dogfen bolisi mewn fformat safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim.

      Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

       

      Pa gymorth all TrC ei roi i mi fel person anabl neu gwsmer â nam symudedd (Cynllun Waled Oren). 

      Mae’r Cynllun Waled Oren yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn ceisio helpu pobl, yn enwedig y rhai ar y sbectrwm awtistig, i ymdopi’n haws â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r waled yn cynnwys gofod y gellir ysgrifennu ynddo a’i bersonoli er mwyn helpu teithwyr i gyfathrebu â staff. Gall hefyd fod yn adnodd defnyddiol i bobl â namau cudd (hynny yw, anableddau ac anawsterau nad ydyn nhw’n amlwg o bosibl i eraill). Gallwch gael waled gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

       
  • Trafnidiaeth hygyrch amgen
    • Rydym am sicrhau y gall teithwyr wneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên.

      Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

      • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;
      • os nad yw’r drafnidiaeth yn lle trên yn hygyrch i chi; neu
      • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

      Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

      Ni allwn warantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.

  • Ble alla i gael gwybodaeth i deithwyr
    • Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gywir a chyson er mwyn i deithwyr anabl a hŷn fel y gallan nhw  deithio’n hyderus.

      Mae gwefan National Rail Enquiries (nationalrail.co.uk) a’r canllawiau cynllun gorsafoedd (‘Stations Made Easy’) yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am hygyrchedd cyfleusterau a gwasanaethau mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau hyn ac ar ein gwefan ein hunain.Os oes newidiadau i unrhyw wybodaeth, bydd ein Pennaeth Manwerthu yn diweddaru gwefan National Rail Enquiries o fewn 24 awr.

      Mae hyn yn cynnwys pan fydd:

      • gan orsafoedd nodwedd ffisegol a allai atal rhai pobl anabl rhag eu defnyddio;
      • gwaith dros dro pwysig yn effeithio ar hygyrchedd;
      • newidiadau i orsafoedd yn eu gwneud yn anhygyrch dros dro (er enghraifft, os yw lifftiau neu doiledau gorsaf wedi torri); neu
      • newidiadau’n cael eu gwneud i hygyrchedd ein trenau.

      Rhowch wybod am unrhyw namau sy’n effeithio ar hygyrchedd i staff yr orsaf neu ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      • Ffôn: 03333 211 202
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202 
      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
      • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

      Gall staff gorsaf gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gronfa ddata genedlaethol a darparu’r wybodaeth hon i deithwyr mewn swyddfeydd tocynnau neu Bwyntiau Gwybodaeth.

      Am wybodaeth fanwl am nodweddion hygyrchedd ein gorsafoedd, darllenwch ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael ym mhob gorsaf, drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu’r tîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau uchod neu drwy Hygyrchedd Gorsafoedd. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o’r daflen hon o leiaf unwaith y flwyddyn.

       

      Alla i gael llyfrynnau gwybodaeth mewn gwahanol fformatau?

      Gallwch. Os ydych chi am gael copi o unrhyw daflenni mewn print bras, Braille neu fel fersiwn sain, cysylltwch â Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      • Ffôn: 03333 211 202
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202 
      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
      • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

      Gall y tîm anfon copi atoch o’r ddogfen hon neu o’n dogfen bolisi mewn fformat safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim. Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

       
  • Sut mae prynu tocyn?
    • Gallwch brynu tocyn

      Os na allwch brynu tocyn yn un o’r ffyrdd a nodir uchod, gallwch brynu’ch tocyn gan werthwr tocynnau ar y trên neu yn yr orsaf lle daw eich taith i ben. Ni fydd unrhyw gosb a gallwch ddal i gael unrhyw ostyngiad sy’n berthnasol i chi. Mae cyfres o ostyngiadau amrywiol ar gael i deithwyr hŷn neu anabl.

       

      Pa deithio â gostyngiadau sydd ar gael i berson anabl a chydymaith? 

      Mae cerdyn rheilffordd Person Anabl yn arbed o leiaf 1/3 i chi a chydymaith oddi ar bris tocyn trên ledled Prydain. Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais, gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt amrywiol isod.

      • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
      • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

      Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      Neu trwy gysylltu â’r Cerdyn Rheilffordd Person Anabl 

       

      Does gen i ddim Cerdyn Rheilffordd Person Anabl, ga’ i ostyngiad yr un fath?

      Mae gan rai teithwyr anabl hawl awtomatig i ostyngiadau felly gallai fod yn werth i chi wirio hyn cyn prynu cerdyn rheilffordd.

      Mae’r gostyngiadau fel a ganlyn:

      • 34% oddi ar docynnau sengl Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
      • 50% oddi ar docynnau dwy ffordd dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
      • 34% oddi ar docynnau dwy ffordd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd

      Mae gennych chi hawl i’r gostyngiadau hyn os ydych chi’n:

      • ddefnyddiwr cadair olwyn sy’n aros yn eich cadair olwyn yn ystod y daith (mae’r gostyngiad hefyd yn gymwys i un person sy’n teithio gyda chi); neu
      • os oes gennych chi nam ar y golwg (dall neu rannol ddall) ac yn teithio gydag un person arall. Mae’n rhaid i chi fod yn teithio gyda rhywun arall i fod â’r hawl i’r gostyngiad hwn. Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o’ch nam ar y golwg i gael y gostyngiad.
      • Mae gan blant sy’n defnyddio cadair olwyn yr hawl i gael 75% oddi ar y tocynnau hyn.

      Noder:- mewn rhai achosion gallai fod yn rhatach prynu tocyn amser tawel pris llawn neu docyn ymlaen llaw; ac ni allwch brynu’r tocynnau hyn ar-lein nac o beiriannau tocynnau, dim ond o swyddfeydd tocynnau neu gan werthwyr tocynnau.

       

      Alla i gael tocyn trên rhatatch os ydw i’n 60 oed neu’n hŷn? (Cerdyn Rheilffordd Person  Hŷn)

      Gallwch. 60 oed neu hŷn? Mae’r rhain yn arbed 1/3 i chi ar y rhan fwyaf o docynnau trên. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

       

      Pa gardiau rheilffordd eraill sydd ar gael?

      Mae gwahanol fathau o gardiau rheilffordd ar gael sy’n addas ar gyfer cwsmeriaid amrywiol. Ewch i trc.cymru neu cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid:-

      • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
      • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

       

      Mae gen i nam ar y golwg. Alla i gael tocyn trên rhatach?

      Os ydych chi wedi’ch cofrestru fel rhywun sydd â nam ar y golwg, gallwch brynu tocyn tymor i oedolion sy’n gadael i gydymaith deithio gyda chi am ddim. (Gallwch gael cydymaith gwahanol bob tro y byddwch chi’n teithio). Gallwch brynu’r tocynnau tymor hyn mewn swyddfeydd tocynnau.

       
  • Gwasanaethau mewn gorsafoedd
    • Dydyn ni ddim yn cau mynedfeydd neu glwydi gorsafoedd pe bai gwneud hynny yn cyfyngu ar fynediad teithwyr anabl i unrhyw blatfform neu gyfleusterau mewn gorsafoedd, oni bai ein bod wedi gwneud y canlynol:

      Ymgynghori â’r Adran Drafnidiaeth, Transport Focus a grwpiau mynediad lleol, ac wedi cael cymeradwyaeth i wneud hynny gan yr Adran Drafnidiaeth.
      Rydym yn ystyried anghenion teithwyr anabl a hŷn cyn cau neu gyfyngu ar bwyntiau mynediad dros dro mewn gorsafoedd.

       

      Sut mae gwybodaeth am wasanaethau trenau a chyhoeddiadau yn cael eu gwneud  mewn Gorsafoedd?

      Mae’r rhan fwyaf o’n gorsafoedd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau trenau. Gallai hyn fod ar sgriniau gwybodaeth electronig neu ar ffurf cyhoeddiadau, neu’r ddau. Darperir Pwyntiau Gwybodaeth mewn rhai gorsafoedd.

      Mae sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid wedi’u gosod ym mhob gorsaf. Rydym yn darparu cyhoeddiadau clir neu wybodaeth weledol (neu’r ddau) o amseroedd gadael trenau a negeseuon perthnasol arall.

      Os oes oedi a tharfu ar wasanaethau, am ragor o wybodaeth a chymorth siaradwch ag aelod o staff neu defnyddiwch Bwynt Gwybodaeth.

       

      Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth yn yr Orsaf? 

      Yn ein gorsafoedd mawr rydym yn darparu Pwyntiau Gwybodaeth wedi’u marcio’n glir a bydd staff yno pan fydd y swyddfa docynnau ar agor. Mae’r rhain yn yr orsaf.

      Gall staff wrth y Pwyntiau Gwybodaeth:

      • ddarparu gwybodaeth ar gyfleusterau, gwasanaethau a hygyrchedd yn ein holl orsafoedd, a’r rhai a ddarperir gan gwmnïau rheilffyrdd eraill;

      • rhoi cyfarwyddiadau i drafnidiaeth gyhoeddus a gwestai lleol;

      • darparu gwybodaeth am wasanaethau trenau, amserlenni, prisiau a chysylltiadau;

      • cadarnhau trefniadau a wnaed ar gyfer archebu teithio gyda chymorth; a

      • darparu gwybodaeth am oedi a ffactorau a allai effeithio ar eich taith.

      Mae Pwyntiau Gwybodaeth hefyd yn bwyntiau cyfarfod ar gyfer teithwyr sydd wedi archebu teithio gyda chymorth.

      Mewn gorsafoedd heb Bwynt Gwybodaeth, bydd angen i deithwyr fynd i’r swyddfa docynnau.

      Mae gan bob swyddfa a Phwyntiau Gwybodaeth gyda staff ddolenni anwytho ar gyfer pobl sy’n gwisgo teclynnau clyw, ac mae gan lawer o leiaf un cownter isel neu gownter y gellir addasu ei uchder. Os yn bosibl, bydd ein hamserlenni, posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu gosod fel y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn a theithwyr sy’n sefyll allu eu defnyddio.

      Arddangosir amserlenni a phosteri ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ yn yr orsaf neu ger mynedfa pob gorsaf. Gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau trên o orsafoedd sydd â Phwyntiau Cymorth. Stondinau gyda botwm y gallwch ei bwyso i siarad gyda swyddog – dyna yw’r Pwyntiau Cymorth. Gallwch siarad gyda rhywun rhwng 6am a 10pm, neu gallwch gysylltu â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)

      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202

      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

      • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

      Neu National Rail Enquiries

      Am wybodaeth am amseroedd, prisiau a’r gwahanol fath o docynnau trên, cyngor cyffredinol neu gymorth i gynllunio’ch taith.

       

      Ydy peiriannau tocynnau hunanwasanaeth yn hygyrch?

      Darperir peiriannau tocynnau hygyrch yn ein holl orsafoedd lle mae rhwystrau tocynnau. Gall y peiriannau hyn roi tocynnau gyda gostyngiadau Cerdyn Rheilffordd Person Anabl os yw’r swyddfa docynnau ar gau. Allan nhw ddim rhoi  tocynnau gyda’r gostyngiad awtomatig ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn na chwsmeriaid gyda nam ar eu golwg. Dim ond mewn swyddfa docynnau neu ar y trên y gallwch brynu’r tocynnau hyn. Os na allwch chi brynu tocyn cyn i chi deithio, gallwch brynu tocyn:

      • ar-lein o’n gwefan neu o wefannau cwmnïau eraill sy’n gwerthu tocynnau;

      • drwy ffonio 03330 050 501;

      • mewn unrhyw orsaf gyda swyddfa docynnau; neu

      • o beiriant tocynnau mewn gorsaf.

      Os na allwch chi brynu tocyn gan ddefnyddio un o’r ffyrdd uchod, gallwch brynu’ch tocyn gan werthwr tocynnau ar y trên neu yn yr orsaf ar ddiwedd eich taith.

      Ni fydd cosb a gallwch gael y gostyngiad sy’n gymwys i chi o hyd. Mae gostyngiadau amrywiol ar gael i deithwyr hŷn ac anabl.

       

      Oes clwydi yn yr orsaf? Mae gen i nam symudedd, sut galla i fynd trwodd?

      Mae gan rai o’n gorsafoedd rwystrau tocynnau awtomatig. Mae gan y rhain o leiaf un glwyd fwy llydan ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ac maen nhw’n cael eu rheoli gan staff. Os nad yw’r clwydi’n cael eu staffio, maen nhw’n cael eu cloi ar agor.

       

      Pa gymorth sydd ar gael i mi os oes gen i fagiau?

      Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, bydd staff yr orsaf neu’r gwerthwr tocynnau yn eich helpu i gael eich bagiau ar ac oddi ar y trên. Does dim angen talu am y gwasanaeth hwn. Os oes gan orsaf staff cymorth ar ddyletswydd, yna gallant eich helpu gyda bagiau i ac o fynedfa’r orsaf. Os oes angen cymorth gyda’ch bagiau arnoch ond nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, bydd staff yn ceisio’ch helpu gyda’ch bagiau, ond bydd yn dibynnu ar a oes staff ar gael.

      Bydd yn rhaid i bwysau, maint a nifer y bagiau fod yn ddiogel i’n staff eu cario ar ac oddi ar y trên ac o fewn yr orsaf. Ni chaiff un bag bwyso mwy na 23kg. Mae Amodau Teithio National Rail yn nodi, fel rheol gyffredinol, y gallwch fynd â hyd at dri bag teithio ar y trên.

       

      Oes gennych chi gyfleusterau cadw bagiau?

      Na. Dydyn ni ddim yn darparu cyfleusterau gadael bagiau mewn unrhyw orsaf. Fodd bynnag, mae gan Gaergybi gyfleuster sy’n cael ei redeg gan gwmni arall ac mae cyfleusterau cadw bagiau yn Manchester  Piccadilly a Birmingham New Street. Mae’r gorsafoedd hyn yn cael eu rhedeg gan Network Rail.

       

      Oes rampiau ar gael i fy helpu i fynd ar y trên?

      Mae rampiau ar gael ym mhob gorsaf gyda staff platfform ac ar ein holl drenau. Mae staff gorsafoedd yn defnyddio’r rhain i’ch helpu ar ac oddi ar drenau, waeth pa gwmni  trenau rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae gwerthwyr tocynnau yn defnyddio’r rampiau ar y trenau mewn gorsafoedd lle nad oes staff, waeth a ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw ai peidio.

      Mae gan lawer o’n gorsafoedd risiau neu dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Hefyd, mewn rhai gorsafoedd efallai y bydd llethr y ramp rhwng y trên a’r platfform yn rhy serth i ddefnyddio ramp yn ddiogel. Er mwyn osgoi anhwylustod ar eich taith, gwiriwch hyn cyn teithio. Gweler y canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael mewn gorsafoedd drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu Dîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau yma. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn.

      Neu cysylltwch â’n Tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

      Os nad yw gorsaf yn hygyrch i chi, byddwn yn trefnu trafnidiaeth amgen. Rydym am sicrhau y gall teithwyr wneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên. Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

      • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;

      • os nad yw’r drafnidiaeth yn lle trên yn hygyrch i chi; neu

      • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

      Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

      Ni allwn warantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.

       

      Ydy’r holl gyfleusterau mewn gorsafoedd yn hygyrch? (Ydy cyfleusterau’n cael eu darparu gan gwmnïau eraill). 

      Mae manwerthwyr trydydd parti yn darparu gwasanaethau arlwyo mewn gorsafoedd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw gytundebau tenantiaeth newydd neu a adnewyddir yn cynnwys ymrwymiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2020. Ni fydd lleoliad safleoedd manwerthwyr yn effeithio ar hygyrchedd yr orsaf neu ei chyfleusterau.

       

      Oes staff ymhob gorsaf? 

      Nid oes gan y rhan fwyaf o’n gorsafoedd staff neu dim ond staff swyddfa docynnau sydd yno na allant ddarparu teithio gyda chymorth. Bydd y gwerthwr tocynnau ar y trên yn eich helpu ar y trên.

      Os oes angen cymorth mewn gorsaf heb staff arnoch, neu mewn gorsaf gyda staff swyddfa docynnau yn unig, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth. Mae’r manylion cyswllt ar y poster gwybodaeth wrth fynedfa’r orsaf. Gall y tîm Teithio gyda Chymorth drefnu trafnidiaeth amgen i chi neu drefnu i werthwr tocynnau eich helpu ar ac oddi ar y trên os ydych chi’n gallu cyrraedd y platfform. Rydym yn gofalu bod trefniadau penodol ar waith ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth mewn unrhyw orsaf os cynhelir digwyddiad arbennig gerllaw (yn enwedig yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaer).

      I osgoi anhwylustod ar eich taith, holwch ymlaen llaw. Gweler ein canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael mewn gorsafoedd drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu Dîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau uchod drwy Hygyrchedd gorsafoedd. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o’r daflen hon o leiaf unwaith y flwyddyn.

      Neu cysylltwch â’n Tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

      Rydym hefyd yn gofalu bod y trefniadau ar gyfer darparu cymorth mewn unrhyw orsaf yn cael eu dangos ar dudalen pob gorsaf ar wefan National Rail Enquiries.

      Neu cysylltwch â National Rail Enquiries.

      Am wybodaeth am amseroedd, prisiau a’r gwahanol fath o docynnau trên, cyngor cyffredinol neu gymorth i gynllunio’ch taith

       
  • Ar y trên
    • A oes cyhoeddiadau a gwybodaeth ar gael ar y trên?

      Mae offer wedi'u gosod ar bob un o'n trenau er mwyn i'n tocynwyr allu gwneud cyhoeddiadau. Gwneir cyhoeddiadau clir pan fo tarfu, oedi neu fater y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohono.

      Dylai teithwyr sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw ofyn i aelod o staff am help wyneb yn wyneb.

      Gwneir cyhoeddiadau mewn da bryd i ganiatáu i deithwyr hŷn ac anabl baratoi i adael y trên.

      Mae gan ein trenau Dosbarth 158 sy'n gweithredu ar wasanaethau pellter hir sgriniau gwybodaeth sy'n dangos mannau galw a'r orsaf y bydd y trên yn stopio ynddi nesaf.  Os nad oes sgrin ar gael, mae ein dargludyddion yn gwneud cyhoeddiadau.

       

      A fyddaf bob amser yn cael sedd ar drên?

      Rydym bob amser yn gwneud ein gorau i helpu teithwyr hŷn ac anabl i gael sedd. Darperir o leiaf un sedd flaenoriaeth ddynodedig ar bob trên.

      Gallwch gadw sedd flaenoriaeth ar wasanaethau trên pellter hir. Gallwch hefyd gadw lle cadair olwyn ar lawer o'n gwasanaethau trên pellter hir.

      Os nad ydych wedi cadw sedd flaenoriaeth neu le i gadair olwyn ymlaen llaw, efallai na fyddant ar gael os yw teithiwr arall eisoes yn defnyddio'r sedd neu'r gofod neu ei fod wedi'i gadw ar gyfer teithiwr yn ddiweddarach yn y daith. Os nad oes seddi blaenoriaeth ar gael, bydd ein staff yn gwneud eu gorau i'ch helpu i ddod o hyd i sedd yn rhywle arall.

      Os oes gennych ddyfais symudedd fel cymorth cerdded, bydd staff yn eich helpu i ddod o hyd i'r lle mwyaf cyfforddus a chyfleus i eistedd.

       

      Rwy'n ddefnyddiwr cadair olwyn, a oes lle i mi?

      Mae lle i ddwy gadair olwyn ar bob trên (ac eithrio'r cerbyd sengl Dosbarth 153, sydd â lle i un). Gallwn ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn gyda dimensiynau hyd at 700mm x 1200mm (gan gynnwys platiau troed), gyda radiws troi o 900mm, ac uchafswm pwysau cyfunol (cadair olwyn a theithiwr) o 300kg.

      Gwiriwch faint eich cadair olwyn i osgoi siom os na ellir eu cario ar y trên. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn sydd â phŵer, gallwch ddefnyddio'r rampiau heb gymorth ond bydd staff yn goruchwylio. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn â llaw, gall staff eich helpu os oes dolenni ar eich cadair.

      Gallwch gadw lle cadair olwyn, trwy ein tîm teithio â chymorth, ar gyfer llawer o'n gwasanaethau trên pellter hir. Cysylltwch â'n tîm teithio â chymorth i weld a allwch gadw lle i gadair olwyn ar gyfer taith benodol.

      Gweler ein ‘Gwneud y rheilffordd yn hygyrch: Helpu teithwyr hŷn ac anabl’.  Gellir dod o hyd iddo mewn gorsafoedd neu drwy gysylltu â'n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu dîm teithio â chymorth. Byddwn yn argraffu copïau wedi'u diweddaru o'r daflen hon o leiaf unwaith y flwyddyn.

      Gallwch gysylltu â’n tîm teithio â chymorth cyn i chi deithio:

      Gallwch ofyn am apwyntiad cymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i'ch taith ddechrau, unrhyw adeg o'r dydd. Gallwch archebu ymhellach ymlaen llaw os yw'n well gennych.

      Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob amser “droi a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.

      Mae'r manylion cyswllt yn:

      • Gwefan teithio â chymorth
      • Dros y ffôn: ffoniwch ein tîm Passenger Assist ar 03330 050 501. Oriau agor 24/7 bob dydd ond rydym ar gau ar Ddydd Nadolig.
      • Gwasanaeth testun y Genhedlaeth Nesaf: 18001 03330 050 501 Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig)

      Sylwch na allwch gadw lle ar gyfer cadair olwyn neu sgwteri ar y gwasanaethau canlynol:

      • Rhwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd
      • Llinell Wrecsam i Bidston
      • Lein Dyffryn Conwy
      • Gwasanaethau lleol rhwng Doc Penfro ac Abertawe
      • Gwasanaethau lleol rhwng Maesteg, Caerdydd a Cheltenham Spa

      Gallwch gadw lle i gadeiriau olwyn ar rai trenau sy’n mynd rhwng Caergybi, Manceinion a Chaerdydd, ond nid oes gan y gwasanaethau hyn doiledau hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ganddynt ddrysau y mae’n rhaid eu hagor â llaw. Gall y tîm teithio â chymorth ddweud wrthych pa drenau yw'r rhain. Os nad oes toiled hygyrch ar y trên yr ydych ei eisiau, bydd y tîm teithio â chymorth yn dweud hyn wrthych pan fyddwch yn archebu a gallan nhw awgrymu gwasanaethau eraill i chi. Am fwy o wybodaeth am ein trenau cliciwch yma

      Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, efallai na fydd yn bosibl i chi fynd ar drên os yw'r gofod cadair olwyn yn cael ei ddefnyddio. Rhoddir blaenoriaeth i deithwyr sydd wedi archebu lle.

       

      A allaf fynd â fy sgwter symudedd ar y trên?

      Mae gan gwmnïau trenau reolau gwahanol ar gludo sgwteri felly gwiriwch cyn i chi deithio.

      Gallwn ddarparu ar gyfer sgwteri hyd at 700mm x 1200mm, gyda radiws troi o 900mm ac uchafswm pwysau cyfun (sgwter a theithiwr) o 300kg.

      Dilynwch y canllawiau isod:

      • Gwiriwch faint eich sgwter i osgoi siom os na ellir ei gario
      • Cadwch gyflymder eich sgwter ar gyflymder cerdded yn ein gorsafoedd ac o'u cwmpas, gan gynnwys ar y platfform
      • Cadwch yn glir o ymyl y platfform nes bod y trên wedi dod i stop
      • Dadlwythwch unrhyw fagiau neu eitemau o gefn y sgwter cyn mynd i fyny neu i lawr y ramp
      • Dilyn cyfarwyddiadau gan ein staff bob amser.

      Os gellir plygu eich sgwter yn rhannau, gallwch ei gario ymlaen fel bagiau. Rhaid i chi neu rywun sy'n teithio gyda chi ei gario ymlaen.

      Os ydych yn defnyddio sgwter, a'ch bod yn gallu ac yn gyfforddus i wneud hynny, byddwn yn gofyn ichi symud o'ch sgwter i sedd, os oes un ar gael gerllaw.

      Ni allwn gario beiciau tair olwyn ar ein trenau nac unrhyw gludiant arall (gan gynnwys tacsis), ac ni allwch eu defnyddio yn ein gorsafoedd, oherwydd eu maint a'u dyluniad.

      Ni allwn warantu y gellir darparu cludiant hygyrch amgen ar gyfer sgwteri.

       

      Pa gefnogaeth sydd gennych chi i ddefnyddwyr cŵn cymorth?

      Os oes gennych chi gi cymorth gallwch gael cerdyn amldro i'w roi yn y daliwr archeb ar ben y sedd drws nesaf i'ch un chi. Mae hwn yn gerdyn gweladwy iawn sy'n hysbysu cwsmeriaid eraill bod y gofod o flaen y sedd honno wedi'i neilltuo ar gyfer ci cymorth.

      Mae'r cardiau yn rhad ac am ddim gan ein tîm cysylltiadau cwsmeriaid. Ar gyfer gwasanaethau y gallwch gadw seddau arnynt, gall y tîm Teithio â Chymorth gadw dwy sedd - un i chi a'r llall i gi cymorth orwedd o'i flaen.

      Cysylltwch â'n tîm cysylltiadau cwsmeriaid:

      Sylwch mai ein horiau agor yw 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

       

      A yw eich holl drenau yn hygyrch?

      Rydym yn defnyddio sawl math gwahanol o drenau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein fflyd.

       
  • Sicrhau’r cysylltiadau
    • Mae angen i mi gysylltu â chwmnïau trenau eraill yn ystod fy nhaith. Alla i gael cymorth?

      Trwy archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gyda ni neu gwmni trenau eraill, gallwn ein helpu i gysylltu â threnau eraill yn ein gorsafoedd, os yw’r trên yn un o’n rhai ni neu beidio. Mae hyn yn cynnwys pan fydd trenau yn newid platfformau neu pan fydd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud ar fyr-rybudd. Os oes gennych chi nam ar y golwg, gallwn eich tywys i ddal eich trên cyswllt nesaf. Rydym bob amser yn darparu teithio gyda chymorth pan fo modd i ni wneud hynny, ond gall gymryd amser i’w drefnu. Felly, rydym yn argymell eich bod yn archebu teithio gyda chymorth ar gyfer gorsafoedd heb eu staffio lle byddwch chi angen cymorth i newid trenau.

      Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gallwn drefnu i werthwr tocynnau neu staff yr orsaf eich helpu ar ac oddi ar y trên yn ystod yr oriau pan fo trenau i fod i aros ynddyn nhw. Wrth archebu teithio gyda chymorth, gallwn drefnu’r canlynol

      • Sicrhau bod ramp ar gael i’ch helpu chi ar ac oddi ar y trên
      • Eich tywys drwy’r orsaf ac ar neu oddi ar y trên
      • Dod o hyd i’ch sedd ar y trên
      • Cadw sedd neu ofod cadair olwyn, os yw hyn yn bosibl, ar ein gwasanaethau neu ar wasanaethau cwmnïau rheilffyrdd eraill
      • Eich helpu i wneud cysylltiadau â chwmnïau trenau eraill mewn un archeb unigol
      • Cymorth gyda bagiau

       

      Archebu teithio gyda chymorth a chynllunio’ch taith

      Mae sawl ffordd y gallwch chi archebu teithio gyda chymorth.

      • Ffoniwch ein tîm Teithio gyda Chymorth: 03330 050 501
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 (ar gyfer pobl gydag anawsterau clywed a lleferydd):
      • Ewch i’n gwefan
      • Oriau agor: 8am i 8pm bob diwrnod (heblaw am Ddydd Nadolig)

      Neu cysylltwch â’n tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

      • Gwefan Teithio gyda Chymorth
      • Ffôn: 03330 050 501
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 Oriau agor: 8am i 8pm bob diwrnod (heblaw am Ddydd Nadolig)

       

      A fydd staff gorsafoedd yn fy helpu i dacsi neu i ddull trafnidiaeth arall?

      Mewn gorsafoedd gyda staff cymorth, gallan nhw helpu teithwyr i dacsis neu i’r man casglu dynodedig. Os nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth, gofynnwch i aelod o staff y platfform. Byddan nhw’n hapus i helpu, ond efallai y bydd oedi. Yng ngorsaf Caergybi, gallwn eich helpu i ddesg docynnau y fferi.

  • Alla i gael gwybodaeth mewn fformatau hygyrch amgen?
    • Rydym yn deall sut y gall tarfu ar wasanaethau gael effaith waeth ar deithwyr anabl neu deithwyr hŷn.

      Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i barhau gyda’ch taith yn gyfforddus, yn ddiogel a heb fawr ddim anhwylustod.

      Rydym yn darparu gwybodaeth glir i’ch cyfeirio at unrhyw drafnidiaeth amgen. Os bydd unrhyw darfu ar wasanaeth yn golygu bod y gwasanaeth yn anhygyrch i chi, byddwn yn darparu trafnidiaeth hygyrch amgen. Darperir hyn fel rhan o’r daith lle darperir trafnidiaeth amgen yn lle trên, neu caiff ei ddarparu ar gyfer y daith gyfan pe bai hynny’n golygu y byddai angen gwneud sawl newid fel arall rhwng tacsi a thrên.

      Rydym am sicrhau bod teithwyr yn gallu gwneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên. Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

      • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;
      • os nad yw’r drafnidiaeth yn lle trên yn hygyrch i chi; neu
      • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

      Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

      Allwn ni ddim gwarantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.

      Pan fo trenau’n cael eu symud i wahanol blatfform ar fyr-rybudd, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cael ar eich trên cyn iddo adael.

      Lle bynnag y bo’n bosibl, os ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw a’n bod yn gwybod y bydd tarfu ar y gwasanaeth, byddwn yn ceisio cysylltu â chi ac, os oes angen, byddwn yn gwneud trefniadau amgen ar gyfer eich taith.

      Byddwn hefyd yn ceisio ail-drefnu eich taith gyda chymorth os nad oeddech chi’n gallu mynd ar eich taith oherwydd unrhyw darfu. Gweler adran 4 am wybodaeth am sut rydym yn cyfathrebu’r diffyg mynediad at nodweddion fel lifftiau a thoiledau. Rhowch wybod am unrhyw broblemau fel hyn (yn enwedig mewn gorsafoedd heb staff) i’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

      Cysylltwch â Cysylltiadau Cwsmeriaid

      • Ffôn: 03333 211 202
      • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
      • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
      • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

      Mae gwybodaeth am ein gweithdrefnau ar gyfer helpu teithwyr anabl mewn argyfwng ar gael yn ein canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’. Gallwch hefyd gael copi o’r canllawiau gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Gellir darparu’r ddogfen hon neu ein dogfen bolisi ar gais ar ffurf safonol neu amgen (er enghraifft print bras) am ddim.

      Mae gan ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid gyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

       

  • Pa docynnau teithio rhatach sydd ar gael ar gyfer pobl â nam ar y golwg?
    • Tocynnau Teithio Rhatach

      Tocynnau teithio rhatach i gwsmeriaid dall neu sydd â nam ar y golwg nad oes ganddyn nhw Gerdyn Rheilffyrdd Person Anabl ac sy’n teithio gyda chydymaith yng Nghymru a Lloegr (mae tocynnau teithio rhatach ar gael yn yr Alban):

      Os ydych chi wedi’ch cofrestru yn ddall neu gyda nam ar y golwg ac yn teithio gyda pherson arall, mae’r tocynnau teithio rhatach a ddangosir isod yn gymwys i chi a’ch cydymaith. Allwch chi ddim cael y gostyngiad os ydych chi’n teithio ar eich pen eich hun. Mae’r gostyngiad yn gymwys i brisiau teithio oedolion yn unig.

      I dderbyn y gostyngiad, cyflwynwch dystiolaeth o’ch nam ar eich golwg, megis  dogfen o sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (yr hen RNIB) neu Blind Veterans UK wrth brynu eich tocyn a gwneud eich taith. Gallwch brynu tocynnau o swyddfeydd tocynnau gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio ac ar y trên.

       

      Mae gostyngiadau tocynnau teithio rhatach fel a ganlyn:

      • 34% oddi ar docynnau sengl neu ddwy ffordd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
      • 34% oddi ar docynnau sengl dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
      • 50% oddi ar docynnau dwy ffordd dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd

       

      Cerdyn Rheilffordd Person Anabl

      • 1/3 i chi a chydymaith oddi ar docynnau trên ledled y DU. 
      • Mae’r cerdyn yn costio £20 y flwyddyn neu £54 am 3 blynedd
      • Gellir gwneud cais am y Cerdyn Rheilffordd drwy’r post neu ar-lein. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys yr amodau defnydd ar gael yma.

       

      Tocynnau Tymor

      Gall cwsmeriaid sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg hefyd brynu un tocyn Tymor i oedolyn, sy’n galluogi cydymaith i deithio gyda nhw ar wasanaethau National Rail yn unig am ddim cost ychwanegol. Does dim rhaid i’r un person deithio gyda nhw bob tro.

      Dylai cwsmeriaid fynd â thystiolaeth o’u nam ar y golwg, fel dogfen gan sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, eich Awdurdod Lleol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) neu St Dunstans wrth brynu eu tocyn a mynd ar eu taith. Gellir prynu’r tocynnau hyn o swyddfeydd tocynnau mewn gorsafoedd National Rail sy’n cael eu staffio.

       

      Deiliaid Tocynnau Bws Rhatach Llywodraeth Cymru

      Gall cwsmeriaid gyda thocyn bws rhatach a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru deithio am ddim ar y trên neu ar y llwybrau canlynol:

      • Wrecsam i Bont Penarlâg – gydol y flwyddyn
      • Machynlleth i Bwllheli rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ni ellir defnyddio’r tocynnau ar y 06.10 Pwllheli - Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn, y 07.34 Pwllheli - Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech, y 12.56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Pwllheli a Harlech a Phenrhyndeudraeth a’r 14:56 Machynlleth - Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw.
      • Llandudno i Flaenau Ffestiniog – gydol y flwyddyn
      • Amwythig i Abertawe drwy Lanymddyfri - rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (ddim yn ddilys ar gyfer teithiau rhwng Amwythig a Bucknell a Llanelli ac Abertawe)

      Mae’r manylion llawn ar gael yma.