Ble mae fy nhrên?

Gallwch wirio a yw eich trên yn rhedeg ar amser a dod o hyd i fanylion unrhyw newidiadau i’n gwasanaethau ar ap TrC neu wefan Journey Check.

 

Rwy'n cwrdd â rhywun yn yr orsaf. Sut alla i wirio a yw'r trên ar amser?

Gallwch wirio ymadawiadau byw a chyrraeddiad yn ein gorsafoedd.

 

A oes unrhyw waith peirianneg yn effeithio ar fy nhaith?

Gallwch ddod o hyd i fanylion ein gwaith gwella arfaethedig ar y rhwydwaith ar gyfer y 12 wythnos nesaf.

 

Effeithiwyd ar fy nhaith gan aflonyddwch. Sut gallwch chi helpu?

Os byddwch yn cyrraedd eich gorsaf gyrchfan 15 munud neu fwy yn hwyrach nag a drefnwyd oherwydd bod un o'n trenau yn hwyr neu wedi'i ganslo am unrhyw reswm, gallwch wneud cais am iawndal Ad-dalu Oedi.

Wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr aflonyddwch? Gallwch ofyn am ad-daliad yn lle hynny.

 

Angen siarad â ni? Rydyn ni yma i helpu.

Cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid

Gallwn helpu gydag unrhyw beth o ddod o hyd i'r llwybr gorau ar gyfer eich taith i roi gwybod i chi am aflonyddwch i gefnogaeth gyda newid eich tocynnau neu hawlio iawndal.

Ar gyfryngau cymdeithasol

Fel arfer byddwn yn ateb o fewn 10 munud ac rydym yma i'ch helpu saith diwrnod yr wythnos. Gweler ein hamseroedd gwasanaeth isod.

Sgwrsio ar WhatsApp 07790 952 507

Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

X @tfwrail

Dydd Llun i Dydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

Dros y ffôn

Gallwch ein ffonio 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)
Os yw’n well gennych siarad â ni yn Gymraeg, ffoniwch 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 1.
Codir tâl am alwadau i'n rhif ar gyfradd leol o ffôn BT.

 

03333 211 202

Cwestiynau cyffredin

Eisiau gwybod rhagor ynghylch sut rydyn ni’n delio ag achosion o oedi, torri i lawr, newidiadau i wasanaethau, a phroblemau.

  • Pam fod fy nhrên yn hwyr, yn cael ei ganslo neu ei gyfnewid am fws?
    • Gall fod llawer o resymau posibl pam fod eich trên yn hwyr, yn cael ei ganslo neu gyfnewid am fws, a’r rhan fwyaf o’r amser mae hyn y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru.

    • 1. Y tywydd - gall dail, llifogydd ac eira ar y cledrau effeithio ar wasanaethau.
      2. Rhwystr ar y cledrau: Anifeiliaid, Tresmasu, coed wedi cwympo
      3. Fandaliaeth fel ceblau wedi'u dwyn 
      4. Toriad yn y cyflenwad pŵer i offer wrth ochr y rheilffordd. Problem gyda seilwaith gorsafoedd megis toriad yn y cyflenwad pŵer neu dân.
      5. Taro pontydd - cerbyd ar y ffordd yn taro sylfaen a/neu strwythur pont. 
      6. Trenau eraill (cludo nwyddau neu deithwyr) ymhellach i lawr y rheilffordd yn hwyr neu wedi stopio.
      7. Gwaith Peirianyddol yn para’n hirach na’r disgwyl - bydd Network Rail yn aml yn trefnu gwaith peirianyddol ar gledrau ac offer wrth ochr y rheilffordd yn ystod y nos ac ar benwythnosau, a all bara’n hirach o rai oriau.

    • Yn anaml iawn y bydd gwasanaethau trên yn rhedeg yn hwyr neu’n cael eu canslo oherwydd Trafnidiaeth Cymru, gallai hyn fod yn ddiffyg mecanyddol gyda thrên neu brinder staff. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau’r oedi lleiaf bosibl, a dyna pam ein bod yn y 5 uchaf o holl weithredwyr rheilffyrdd y DU o ran prydlondeb a dibynadwyedd.

    • Rydyn ni’n wynebu costau ariannol am unrhyw oedi a achosir gennym, ac rydyn ni hefyd yn cydnabod yr effaith a gaiff hyn ar ein teithwyr gwerthfawr. Gellir gweld diweddariadau byw ar holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, lle y gallwch hefyd gofrestru i gael rhybuddion am ddim ar e-bost a gwasanaethau eraill.

  • Beth yw eich polisi o ran darparu cludiant amgen?
    • Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn trefnu cludiant ar y ffyrdd ar eich cyfer, ac yn talu amdano, os bydd yn mynd â chi i’ch cyrchfan yn gynt o lawer na’r trên nesaf.

    • Bws neu dacsi a ddarperir fel arfer, os oes un ar gael sy’n cwrdd â’n safonau diogelwch a hygyrchedd. Yn aml mewn ardaloedd diarffordd ac ar amseroedd prysur, fel amser danfon i’r ysgol, mae’n anodd trefnu bws yn gyflym. Mae ein gwaith yn rhagori ar y rhwymedigaethau a nodir yn Amodau Teithio National Rail, y mae pob Cwmni Trên yn cydymffurfio â nhw. Mae’r manylion ar gael yma.

  • Ydy eich trenau bob amser yn aros am gysylltiadau?
    • Ydy i raddau

    • Mae gennym dîm o reolwyr sy’n rheoli effeithiau problemau, ac maen nhw’n cysylltu’n rheolaidd â chriw’r trenau, gorsafoedd a rheolwyr cwmnïau trenau eraill.

    • Bydd rheolwyr yn gwneud penderfyniadau o funud i funud ar bob cysylltiad ac maen nhw’n ystyried gweithrediad y rhwydwaith yn gyffredinol yn ogystal ag anghenion ein teithwyr.

    • Mae’r ffactorau y mae’n rhaid iddyn nhw eu hystyried yn cynnwys oedi i deithwyr sydd eisoes ar drên sy’n gorfod aros, y posibilrwydd o golli cysylltiadau eraill, pa gysylltiadau gwahanol sydd, a chanlyniadau eraill yn deillio o aros.

    • Rydyn ni hefyd yn ystyried y ffaith bod ein llwyddiant yn cael ei fesur gan lawer o bobl yn nhermau prydlondeb, yn syml iawn, ac felly mae cydbwysedd da rhwng cynnal cysylltiadau a chynnal ein prydlondeb yn rhywbeth rydym yn ymdrechu i’w gyflawni.

    • Teithio ymlaen neu ddigwyddiadau

    • Dylai teithwyr adael digon o amser ar gyfer teithio ymlaen neu ar gyfer cyrraedd/gadael digwyddiadau.

    • Os ydych chi'n dal awyren, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n caniatau digon o amser. Ar gyfer hedfan, rydym yn cynghori gofyn i'ch cwmni hedfan faint o amser sydd ei angen arnoch ar gyfer cofrestru.

  • Sut ydych chi'n delio â phroblemau ar wasanaethau?
    • Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwybod bod darparu gwybodaeth am wasanaethau trên sy’n cael problemau yn flaenoriaeth i gwsmeriaid, ac mae’n faes rydyn ni’n canolbwyntio arno.

    • Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cynhyrchu Cod Ymarfer Cymeradwy, sy’n nodi canllawiau lefel uchel ac arferion da o ran darparu gwybodaeth i gwsmeriaid yn ystod problemau. Mae Trenau Arriva Cymru’n defnyddio’r Cod Ymarfer hwn fel fframwaith ar gyfer darparu gwybodaeth amserol, gywir a chyson i gwsmeriaid yn ystod problem er mwyn iddyn nhw wneud penderfyniadau teithio ar sail gwybodaeth.

    • Gallwch ddarllen rhagor am hyn a sut mae’r diwydiant yn gwella’r ffordd mae’n darparu gwybodaeth i deithwyr yn ein Cynllun Lleol ar gyfer Gwybodaeth i Deithwyr yn ystod Problemau.

    • Gellir gweld canllawiau ac arfer da Cymdeithas y cwmnïau trên yn y Cod Ymarfer Cymeradwy.

  • Sut mae dail ar y rheilffordd yn effeithio ar drenau?
    • Meddyliwch am ddail ar y rheilffordd fel rhew du ar ffyrdd ac fe fyddwch chi’n dechrau deall natur y broblem.

    • Dydyn ni ddim yn sôn am dwmpathau o ddail crin, ond haen lithrig sy’n glynu i’r cledrau ac sy’n anodd iawn cael gwared â hi.

    • Yn fyr, dyma beth sy’n digwydd:

      • caiff dail eu sgubo ar y cledrau gan sgilwynt trenau sy’n mynd heibio
        glaw ysgafn yn disgyn

      • olwynion trên yn gwasgu’r dail gwlyb ar bwysedd o dros 30 tunnell y fodfedd sgwâr

      • mae hyn yn cywasgu ac yn carboneiddio’r dail, gan ffurfio haen galed, tebyg i Teflon, ar y cledrau.

    • Oherwydd hynny, rhaid i drenau deithio’n arafach i sicrhau diogelwch a lleihau’r posibilrwydd i’r olwynion lithro a throelli. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i yrwyr frecio’n gynt ar gyfer gorsafoedd a signalau a symud ymlaen eto yn arafach. O ganlyniad, gall fod oedi i wasanaethau trên. Os na all trên symud am na all yr olwynion gydio yn y cledrau, yn aml does dim llwybr amgen, felly bydd oedi i’r trenau sy’n dilyn, neu bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu canslo.

    • Yn ogystal ag achosi problemau difrifol i gwsmeriaid, mae’r difrod a achosir i olwynion trenau yn ystod llithro a throelli ar gledrau’n sylweddol ac mae’n golygu fod yn rhaid i rai trenau gael eu hatal rhag gweithredu er mwyn gwneud gwaith atgyweirio drud. Gall y cledrau hefyd gael eu difrodi gan gostio miloedd o bunnoedd i’w hatgyweirio bob blwyddyn.

    • Gall dail sydd wedi cwympo darfu’n arw iawn ar wasanaethau rheilffordd - nid yma ym Mhrydain yn unig, ond ledled Ewrop ac yng Ngogledd America. Mae maint y broblem o ddail wedi cwympo a chost cadw gwasanaethau i redeg yn llyfn yn enfawr:

      • mae gan goeden aeddfed wrth ochr y rheilffordd rhwng 10,000 a 50,000 o ddail

      • bydd miloedd o dunelli o ddail yn cwympo ar reilffyrdd bob blwyddyn

      • mae 20,000 o filltiroedd o gledrau i'w cadw’n glir ym Mhrydain

      • mae’r gost flynyddol o atgyweirio difrod i drenau a chledrau o ganlyniad i ddail wedi cwympo dros £10 miliwn

      • mae rheoli llystyfiant wrth ochr rheilffyrdd yn costio dros £5 miliwn bob blwyddyn

      • mae torri coed mawr i lawr yn costio rhwng £20,000 a £50,000 y filltir.

    • Mae’n amhosibl rhagweld yn union pa bryd y bydd tymor cwympiad y dail yn dechrau nac am ba hyd y bydd yn para ond gall y tywydd fod yn arwydd o ba bryd y mae’n debygol o ddechrau a pha mor ddifrifol y mae’n debygol o fod ar gyfer y rheilffordd.

    • Bydd tymor difrifol o ddail yn cwympo yn dilyn haf gwlyb yn aml. Mae’n dechrau gyda rhew caled, yn cael ei ddilyn gan wyntoedd uchel a chyfnod o dywydd sych, sy’n achosi i lawer iawn o ddail gwympo dros gyfnod byr. Ond yn draddodiadol, mae’r hydref yn dymor o niwl a thywydd mwyn, sy’n ymestyn cwympiad y dail dros gyfnod hwy ac yn lleihau difrifoldeb y broblem.

Gwneud gwelliannau

Gallwch wirio manylion unrhyw waith arfaethedig a allai effeithio ar eich taith.

  • Beth ydych chi’n ei wneud i wella dibynadwyedd y seilwaith?
    • Rydyn ni’n trafod y seilwaith yn ddyddiol â Network Rail, sy’n ei ddarparu a’i gynnal, ac mae gennym gontract gyda nhw sy’n darparu iawndal pa fydd pethau’n mynd o chwith.

    • Mae iawndal yn ein helpu ni i dalu costau cludiant arall ac iawndal i’n teithwyr. Gellir gweld manylion y prosesau iawndal yn ein Siarter Teithwyr.

    • Rydyn ni’n disgwyl gweld gwerth am arian am ein taliadau i gael mynediad at y cledrau, ac rydyn ni eisiau gweld mwy o deithwyr yn cael eu denu gan ddibynadwyedd, yn hytrach nac iawndal gan Network Rail. Rydyn ni eisiau gweld dibynadwyedd gwell a gwelliannau eraill gydag offer hŷn yn cael ei ddisodli gan offer modern cyfatebol. Bydd pob digwyddiad unigol o ddiffyg dibynadwyedd yn cael ei nodi gennym ni a’i drafod â Network Rail, yn aml ar lefel uchel iawn.

    • Mae’r gwelliannau mawr hyn yn enghraifft wych o Network Rail yn gweithio'n galed i wella dibynadwyedd a chapasiti seilwaith y rheilffyrdd.

  • Pam mae eich trenau’n torri i lawr a beth ydych chi’n ei wneud ynghylch hyn?
    • Mae trenau’n beiriannau mecanyddol hynod gymhleth sydd â diogelwch o safon uchel iawn.

    • Bydd ein trenau yn cael yr hyn sy’n cyfateb i brawf “MOT” bob tri diwrnod, a llawer iawn o waith cynnal a chadw ataliol. Er hynny, maen nhw’n teithio hyd at 1000 o filltiroedd y diwrnod ac felly maen nhw weithiau’n torri i lawr, er eu bod wedi’u dylunio a’u hadeiladu i wneud milltiroedd o’r fath. Rydyn ni’n rhoi’r lle blaenaf i ddiogelwch bob amser, ac oherwydd hynny bydd trên weithiau’n cael eu tynnu o wasanaeth teithwyr am reswm a allai ymddangos yn eithafol i yrrwr car, fel sychwr ffenest diffygiol, er enghraifft.

    • Mae llawer o nodweddion diogelwch wedi’u cysylltu â drysau, signalau a brecio, a gallai unrhyw un o’r rhain achosi i drên gael ei dynnu o wasanaeth teithwyr os yw’n ddiffygiol. Er gwaethaf hynny, rydyn ni’n parhau i redeg un o’r fflydoedd mwyaf dibynadwy yn y DU gyda’r mathau o drenau yn ein fflyd yn perfformio orau yn y wlad yn rheolaidd, yn ôl y mesur ‘milltiroedd fesul diffyg’, sy’n edrych ar gyfartaledd y milltiroedd y mae trenau o fathau arbennig yn rhedeg cyn iddyn nhw dorri i lawr. Rydyn ni’n ennill gwobrau ‘Sbaner Aur’ y Diwydiant Rheilffyrdd yn rheolaidd am ddibynadwyedd ein fflyd.

  • Pam mae Network Rail yn cynllunio ac yn gwneud gwaith peirianyddol ar y rhwydwaith?
    • Mae Network Rail yn gyfrifol am y cledrau ac am y signalau sy’n ffurfio rhan o seilwaith y rheilffyrdd.

    • Er mwyn cynnal eu safonau uchel o ddiogelwch a dibynadwyedd, bob hyn a hyn mae’n rhaid iddyn nhw atal trenau rhag rhedeg fel y gall eu timau fynd ar y cledrau ac atgyweirio ac uwchraddio'r seilwaith. Gwneir hyn yn y modd mwyaf cyfleus bosibl ar gyfer y mwyafrif helaeth o deithwyr, ac mae’n golygu llawer iawn o shifftiau nos.

    • Bob hyn a hyn, fodd bynnag, bydd darn o waith arbennig o fawr, fel yr angen i osod pont newydd neu gledrau newydd, a dyma pryd y bydd cwmnïau trenau’n rhedeg bysus er mwyn rhoi’r amser i Network Rail wneud eu gwaith pwysig. Bydd amseriad unrhyw waith sylweddol yn cael ei gynllunio ochr yn ochr â’r cwmnïau trenau er mwyn creu cyn lleied o broblemau â phosibl. Rydyn ni’n hysbysebu newidiadau i’n hamserlen ymhell cyn unrhyw waith peirianyddol.

Cynllunio amserlen

  • Pam nad yw trenau’n stopio mewn rhai gorsafoedd?
    • Wrth i ni gynllunio ym mha orsafoedd y bydd trenau’n stopio, rydyn ni’n ystyried anghenion teithwyr sydd eisiau ymuno â gwasanaethau, ond hefyd hyd taith yn ei chyfanrwydd.

    • Hyd yn oed os bydd stopio unwaith yn ychwanegol yn cymryd dim ond dau funud, os byddwch chi’n adio pob arhosiad ar hyd y llwybr, er enghraifft, rhwng Aberdaugleddau a Manceinion Piccadilly, gallai hyn olygu oriau o amser teithio ychwanegol. Mae cydbwyso anghenion teithwyr sydd eisiau teithio o orsafoedd llai a dymuniad y teithiwr am amser teithio byrrach yn rhywbeth rydyn ni’n meddwl yn ofalus amdano bob tro byddwn yn newid ein hamserlen.

    • Mae rhai rhannau penodol o’r rhwydwaith mor brysur fel nad oes digon o le yn yr amserlen yn aml ar gyfer stopio ym mhobman y byddem yn hoffi stopio. Rydyn ni’n gwrando ar yr adborth ac yn edrych ar newidiadau o ran poblogaeth i’n helpu ni i gyflawni anghenion cynifer o’r teithwyr presennol a theithwyr posibl ag y gallwn.

  • Pwy sy’n penderfynu ar amseroedd ac amlder y gwasanaethau rydych chi’n eu rhedeg?
    • Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym yn eu gweithredu yn rhan o’n ‘Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr’ ac felly maen nhw wedi’u nodi dan delerau ein contract.

    • Nid yw'r Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr yn atal newid, ond yn cyfyngu ar y newidiadau mae modd eu gwneud i agweddau ar wasanaeth megis amlder, amseroedd teithiau, aros mewn gorsafoedd, gwasanaethau cynnar a hwyr a threnau yn ystod yr oriau brig.

    • Fel rhan o’n Cytundeb Masnachfraint, mae’r Gofynion Gwasanaeth i Deithwyr yn ddogfen gyhoeddus ac ar gael o swyddfa cofnodion cyhoeddus.

    • Gallwn wneud mân newidiadau ac addasu ein hamserlen ar sail y galw gan deithwyr a diddordeb rhanddeiliaid yn ogystal â rhedeg rhagor o drenau sy’n ychwanegol at yr hyn a nodwyd yn y contract, ond mae hyn yn dibynnu ar gost rhedeg y gwasanaethau hyn ac a oes digon o drenau ar gael i’w darparu.

    • Ar hyn o bryd, mae oddeutu 20% o’n gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gofynnir i ni eu darparu fel rhan o’n Gofynion Gwasanaeth Cyhoeddus.