Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Gallwch chi grwydro Cymru ar y trên gyda thocyn Rover neu Ranger. Cewch deithio faint fynnwch chi am ddiwrnod a gallwch chi ddewis pa ran o’r rhwydwaith rydych chi am ei chrwydro. A does dim angen cynllunio ymlaen llaw. Gallwch chi eu prynu ar y diwrnod o un o’n swyddfeydd tocynnau neu ar y trên.

 

  • Pas Archwilio Cymru
    O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru. Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Pas Gogledd a Chanolbarth Cymru
    O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.  Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Pas De Cymru
    O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.  Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Crwydro Gorllewin Cymru
    Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yng Ngorllewin Cymru rhwng Caerfyrddin, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun gyda’n tocyn Diwrnod Crwydro Gorllewin Cymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Crwydro Arfordir y Cambrian
    Mwynhewch y golygfeydd ar hyd Arfordir godidog y Cambrian gyda thocyn diwrnod Crwydro’r Cambrian. Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 0914 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc) o Bwllheli i Aberystwyth a Machynlleth.
    Rhagor o wybodaeth
  • Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd a Thocyn
    Mentrwch ymhellach gyda’r tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd. Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 0914 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc)
    Rhagor o wybodaeth
  • Crwydro'r Brifddinas
    Am £4.50 yn unig, cewch fwynhau teithio di-ben-draw ar yr un diwrnod ar drenau yn ardal Caerdydd a Phenarth, yn ystod cyfnodau tawelach, gyda'n tocyn trên diwrnod, Crwydro'r Brifddinas.  Mae'n fwy hyblyg ac mae'n cynnig gwell gwerth am arian na phrynu tocyn dwyffordd neu wahanol gyfuniadau o docynnau unffordd pan fyddwch chi'n teithio yn ystod cyfnodau tawelach.
    Rhagor o wybodaeth
  • Tocyn Cylch Ffestiniog
    Y Tocyn Cylch ydy eich tocyn ar Reilffordd Ffestiniog o orsafoedd yng Ngogledd Cymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Cylch Calon Cymru
    Mae ein Ranger Cylch Calon Cymru yn caniatáu i chi deithio ar hyd Rheilffordd Calon Cymru ar lwybr cylchol dros 1 neu 2 ddiwrnod.
    Rhagor o wybodaeth
  • Rover Gogledd Cymru
    Mae ein tocynnau Ranger a Rover yn rhoi hyblygrwydd llwyr i chi a dydy Rover Gogledd Cymru yn ddim gwahanol. Gallwch chi ddewis teithio mewn unrhyw ddau neu dri pharth neu’r Cyan. Edrychwch ar y daflen hon am restr o’r cwmnïau bysiau fydd yn derbyn tocyn Rover Gogledd Cymru.
    Rhagor o wybodaeth
  • Tocyn Min Nos y Cymoedd
    Min nos, gallwch chi fynd i Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr neu unrhyw le ar reilffyrdd y Cymoedd gyda’n tocyn Min Nos y Cymoedd, lle gallwch chi deithio ar ôl 1830 o ddydd Llun i ddydd Sul.
    Rhagor o wybodaeth

Oeddech chi’n gwybod?

  • Oeddech chi’n gwybod?
    Tocynnau Multiflex
    Yw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaidd
    Dim ond ar gael ar ein Ap
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Mae gan Gymru lawer i’w gynnig
    Darganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru
    Archwiliwch ein Rhwydwaith
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Dim ffioedd archebu
    Archebwch yn uniongyrchol gyda ni i arbed arian ar eich siwrnai
    Amseroedd trenau a thocynnau