Teithio'n Saffach gyda thocynnau tymor ar Gerdyn Clyfar
Teithiwch yn ddigyswllt mor aml ag y dymunwch ac arbed arian gyda Thocynnau Tymor wythnosol, misol a blynyddol.
- Prynwch eich tocyn tymor ar ein ap neu ar ein gwefan
- Llwythwch docynnau ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei daro ar darllenydd Cerdyn Clyfar mewn gorsaf neu ar eich ffôn clyfar.
- Rydych chi’n barod i fynd!
Sut mae Cerdyn Clyfar yn gweithio?
1. Prynu eich Tocyn
- YGallwch brynu tocynnau ar-lein, yn unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau o 1 Ebrill 2020 ymlaen, a gallwch eu prynu yn y rhan fwyaf o swyddfeydd gwerthu tocynnau.
- Os ydych chi wedi prynu eich tocyn ar-lein drwy ein gwefan neu’r ap, dewiswch ‘Cerdyn Clyfar’ fel y dull danfon
-
Mae rhai Wythnosol, Misol a Blynyddol ar gael ar y llwybrau canlynol:
-
Llwybr Ar gael ar Gerdyn Clyfar o Caerdydd* - Penarth 1 Ebrill 2019 Caer - Amwythig 1 Ebrill 2019 Caerdydd* - Rhymni 1 Medi 2019 Caerdydd* - Ynys y Barri 1 Medi 2019 Caerdydd* - Abertawe 1 Medi 2019 Caerdydd* - Aberdâr 1 Tachwedd 2019 Caerdydd* - Treherbert 1 Tachwedd 2019 Caerdydd* - Parcffordd Glynebwy 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Maesteg 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Bae Caerdydd 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Merthyr Tudful 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Abertawe** / Cyffordd Twnnel Hafren 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Pen-y-bont ar Ogwr (via Y Barri) 1 Ionawr 2020 City Line (Coryton - Radur) 1 Ionawr 2020 Caerdydd* - Amwythig 1 Mehefin 2020 Abertawe - Caerfyrddin 1 Mehefin 2020 Amwythig - Manchester Piccadilly 1 Mehefin 2020 Caerfyrddin - West Wales 1 Mehefin 2020 Caer - Caergybi 1 Mehefin 2020 Aberystwyth - Amwythig 1 Mehefin 2020 Lydney 1 Mehefin 2020 * Caerdydd Canolog a Caerdydd Heol y Frenhines
**7 Diwrnod Dosbarth Cyntaf hefyd ar gae
-
-
2. Llwytho eich Tocynnau
- Os byddwch chi’n prynu o unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau, llwythwch eich tocyn ar eich cerdyn pan fydd yn gofyn i chi wneud hynny - Dewiswch cerdyn clyfar o’r hafan a dal eich cerdyn wrth y darllenydd cardiau.
- Swyddfa Docynnau – Bydd y cerdyn clyfar yn cael ei roi ar y darllenydd a bydd y tocyn yn cael ei lwytho pan fydd y cerdyn yn cael ei ddarllen
- Bydd eich tocyn ar gael i’w lwytho ar eich cerdyn clyfar, a fydd yn rhoi mynediad i’r giât i chi
- Os bydd tocynnau tymor yn cael eu harchebu drwy'r wefan, mae modd eu llwytho ar gerdyn clyfar drwy ddefnyddio ein ap pan fyddwch chi wedi cysylltu â WiFi. Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio eich ffôn
-
Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio'ch ffôn
- 1) Newid ar NFC.
- 2) Mewngofnodwch i Ap TrC a chlicio ar yr eicon hafan.
- 3) Cliciwch ar yr eicon clyfar.
- 4) Bydd y sgrin yn gofyn i chi ddangos eich cerdyn clyfar.
-
- Mae modd i docynnau tymor sy’n cael eu harchebu drwy'r wefan gael eu llwytho ar gerdyn clyfar ym man cychwyn y daith ac o'r dyfeisiau canlynol (pan fyddant ar gael)
- Gatiau – Daliwch y cerdyn clyfar wrth y darllenydd cardiau melyn
- Dilyswyr Platfform – A fydd yn cael eu gosod yn ystod 2020
3. Tapio a Mynd
- Mae eich Cerdyn Clyfar yn barod i’w ddefnyddio. Dangoswch eich Cerdyn Clyfar i’r darllenydd wrth y gatiau tocynnau, a’i dapio wrth y gatiau pan fyddwch yn gadael yr orsaf ar ddiwedd eich taith. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn i gael ei archwilio pan fydd y goruchwyliwr yn dod o gwmpas
Pam Dewis Cerdyn Clyfar?
- Teithio’n Gyflymach – Gwibio drwy’r Orsaf Gallwch brynu eich tocyn yn un o’n peiriannau gwerthu tocynnau a thapio i mewn ac allan mewn gorsafoedd.
- Gwydn a dibynadwy – Cewch ffarwelio â thocynnau papur wedi’u difrodi ac oedi wrth y gatiau tocynnau. Mae popeth wedi'i lwytho ar eich Cerdyn Clyfar gwydn.
- Tawelwch meddwl – wedi colli eich Cerdyn Clyfar? Rydyn ni yma i chi. Ffoniwch ein tîm ar 0333 3211 202 a byddwn yn anfon cerdyn newydd atoch, a bydd yr holl docynnau nad ydych chi wedi’u defnyddio yn barod i’w llwytho arno.
- Treial am ddim – mae Cerdyn Clyfar TrC yn rhad ac am ddim! Ewch i gael un yma
Adborth
Hoffem glywed eich adborth yn ystod y treial hwn; llenwch y ffurflen yma
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith