• Pryd alla i brynu tocynnau?
    • Gallwch chi brynu tocynnau SailRail hyd at 3 mis ymlaen llaw.

  • Ble alla i brynu tocynnau?
    • Gallwch chi brynu tocynnau SailRail:

    • Ar-lein

    • Dros y ffôn 03333 211 202

    • O un o’n swyddfeydd tocynnau; neu

    • Gan Asiantaeth Deithio Benodedig y Rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig

    • Sylwer: Dim ond o swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau yn y Deyrnas Unedig (y DU) mae modd casglu tocynnau SailRail, neu gellir eu danfon i gyfeiriad yn y DU. NID OES MODD casglu tocynnau o orsafoedd rheilffordd yn Iwerddon na’u danfon i gyfeiriad yn Iwerddon.

  • Pa fath o docynnau sydd ar gael?
    • Advance – Ar werth tan 18:00 y diwrnod cyn gadael. Rhaid archebu lle ar drenau a llongau a dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly mae’n syniad da archebu tocyn ddigon o amser ymlaen llaw.

    • Standby – Ar gael hyd at ac ar y diwrnod gadael. Rhaid archebu lle ar y llong, felly dim ond drwy swyddfa archebu mae tocynnau ar gael.

  • Sut bydd fy nhocynnau SailRail yn cael eu danfon?
    • Drwy'r post: Dylech ganiatáu 7 diwrnod gwaith i’ch tocynnau gyrraedd os ydych chi’n prynu ar-lein neu dros y ffôn.

    • Dim ond Post Dosbarth Cyntaf rydyn ni’n ei ganiatáu fel dull danfon tocynnau os ydy'r diwrnod rydych chi’n bwriadu teithio arno 7 diwrnod gwaith neu fwy i ffwrdd. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o amser i ddanfon y tocynnau i chi. Os nad ydych chi wedi cael eich tocynnau ar ôl 7 diwrnod gwaith, cysylltwch â ni.

    • Dim ond i gyfeiriadau yn y DU mae modd danfon tocynnau SailRail.

    • O beiriant Hunanwasanaeth: Mae modd casglu tocynnau o unrhyw orsaf yn y DU sydd â chyfleusterau hunanwasanaeth, ni waeth o ba orsaf rydych chi’n teithio. Gallwch chi gasglu unrhyw adeg o ddwy awr ar ôl archebu hyd at amser gadael y trên.

    • Bydd angen y canlynol arnoch chi i’w casglu:

    • Y cerdyn debyd / credyd a ddefnyddiwyd i archebu.

    • Y Cyfeirnod Casglu Tocynnau gawsoch chi wrth archebu.

  • Faint o amser dylwn i ei ganiatáu ar gyfer y cysylltiad rhwng y trên a’r llong?
    • Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 30 munud o leiaf rhwng y teithiau.

  • Sut alla i gyrraedd Canol y Ddinas o’r porthladd wrth deithio gyda Stena Line?
  • Sut alla i gyrraedd Canol y Ddinas o’r porthladd wrth deithio gydag Irish Ferries?
  • Pryd alla i deithio?
    • Chewch chi ddim ond teithio ar y trên a’r llong rydych chi wedi’u harchebu. Hyn a hyn o docynnau sydd ar gael, felly mae’n rhaid archebu ymlaen llaw.

  • Ar ba lwybrau alla i deithio?
    • Yn dibynnu ar amseroedd trenau, gallwch chi deithio o unrhyw orsaf drenau ym Mhrydain fel arfer.

    • I gael gwybodaeth am deithiau i Belfast drwy Stranraer, ewch i wefan ScotRail..

    • I gael gwybodaeth am deithiau i'r Iseldiroedd drwy Harwich, ewch i wefan Stena Line..

  • I ba orsafoedd yn Iwerddon alla i deithio?
    • Mae tocynnau SailRail ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o orsafoedd yn Iwerddon.

  • Oes angen i mi archebu ymlaen llaw?
    • Mae tocynnau SailRail ar gael o hyd at 12 wythnos ymlaen llaw tan 2 awr cyn amser gadael eich trên. Gan mai hyn a hyn o docynnau sydd ar gael, rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

  • Ydy'r tocyn yn amodol ar faint o leoedd sydd ar gael?
    • Ydy. Mae SailRail yn amodol ar faint o leoedd sydd ar gael ar y llong yn unig.

  • Oes angen i mi archebu?
    • Oes, rhaid i chi archebu er mwyn teithio ar wasanaethau Stena Line ac Irish Ferries, ac er mwyn teithio â thocyn trên Advance. Byddwn yn gwneud yr holl archebion ar eich rhan pan fyddwch yn archebu eich tocyn. Os oes gennych chi docyn Standby, rhaid archebu ar gyfer y llong ond nid y trên.

  • Sut alla i gael gwybod a ydy fy nhrên ar amser?
  • Sut allan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithiau llong??
    • Mae Ferrycheck yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am deithiau llong hyd at 24 awr cyn yr amser gadael.

    • Stena Line:

    • Ffoniwch +44 (0) 8705 755 755 os ydych chi’n teithio i Iwerddon;

    • Ffoniwch +353 (0)1 204 77 99 os ydych chi’n teithio i Brydain;

    • Irish Ferries:

    • Ffoniwch +44 (0) 8717 300 400 os ydych chi’n teithio i Iwerddon;

    • Ffoniwch +353 (0)818 300 400 os ydych chi’n teithio i Brydain

  • Pryd mae angen i mi gofrestru?
    • Yn Abergwaun: 30 munud o leiaf cyn amser gadael a gyhoeddir eich llong, neu’n syth ar ôl i’r trên cyswllt gyrraedd, pa un bynnag sy’n hwyrach.

    • Yng Nghaergybi: 30 munud o leiaf cyn amser gadael a gyhoeddir y llong.

    • Yn Nulyn: 30 munud o leiaf cyn amser gadael a gyhoeddir y llong.

    • Yn Rosslare: 30 munud o leiaf cyn amser gadael a gyhoeddir eich llong, neu’n syth ar ôl i’r trên cyswllt gyrraedd, pa un bynnag sy’n hwyrach.

  • Beth sydd ei angen arna i er mwyn cofrestru?
    • Mae Stena Line ac Irish Ferries wedi cyflwyno systemau cofrestru teithwyr. Rhaid i BOB teithiwr lenwi cerdyn hwylio cyn cofrestru.

  • Oes angen fy mhasbort neu gerdyn adnabod arna i?
    • Does dim rhaid i chi ddangos pasbort i deithio i Iwerddon. Ond mae’n rhaid i chi ddangos rhyw fath o ddull adnabod wrth gofrestru ar gyfer y daith. Mae Stena Line ac Irish Ferries yn derbyn y mathau canlynol o ddull adnabod:

    • Trwydded yrru

    • Bil cyfleustodau

    • Cerdyn banc

    • Tystysgrif geni (dim ond i blant o dan 18 oed)

    • Os NAD ydych chi’n breswylydd yn y DU neu nad oes gennych chi basbort y DU, bydd angen i chi ddangos eich pasbort er mwyn cofrestru.

  • Oes modd cael gostyngiadau gyda chardiau rheilffordd?
    • Nac oes.

  • Oes modd cael gostyngiadau i blant?
    • Oes. Mae gostyngiad o 50% ar gael i blant rhwng 5 a 15 oed.

    • Mae plant o dan 5 oed yn cael teithio am ddim, a does dim angen tocyn arnynt. Ond mae’n rhaid iddynt gael archeb er mwyn hwylio i/o Gaergybi ac Abergwaun. Mae modd cael hwn o swyddfa archebu gorsaf neu drwy ffonio’r llinell telewerthu ar 0870 9000773 wrth brynu'r tocynnau Oedolion.

  • Gaiff plentyn 15 oed deithio ar ei ben ei hun?
    • Na. Ni chaiff plant 15 oed neu iau deithio ar long ar eu pen eu hunain, ac ni fyddant yn cael mynd ar y llong.

  • Gaiff plentyn o dan 18 oed deithio ar ei ben ei hun?
    • Caiff plant 16 ac 17 oed deithio ar eu pen eu hunain dim ond os oes ganddynt lythyr caniatâd gan riant neu warcheidwad. Fel arall, ni fyddant yn cael mynd ar y llong.

  • Oes modd cael gostyngiadau i grwpiau?
    • Nac oes.

  • Alla i uwchraddio i Ddosbarth Cyntaf?
    • Does dim modd uwchraddio tocynnau SailRail. Os ydych chi am deithio Dosbarth Cyntaf rhaid i chi brynu tocynnau ar wahân i’r trên a’r llong.

  • ‘Nes i ddim defnyddio fy nhocyn SailRail – Alla i gael ad-daliad?
    • Does dim modd cael ad-daliad ar gyfer tocynnau Advance SailRail oni bai fod eich trên neu long yn cael ei ganslo ac rydych chi’n penderfynu peidio â theithio.

    • Mae modd cael ad-daliad ar gyfer tocynnau unffordd SailRail sydd heb gael eu defnyddio. Byddwn yn codi ffi ad-dalu weinyddol o £10 ar gyfer pob tocyn.

  • Mae angen i mi newid dyddiad neu amser fy nhocyn SailRail – Alla i wneud hynny?
    • Gallwch, cyhyd â’ch bod yn cysylltu â ni erbyn 20:00 ar y diwrnod cyn gadael. Byddwn yn codi ffi weinyddol o £10.

  • Alla i dorri fy nhaith?
    • Na. Does dim modd torri teithiau heblaw pan fyddwch yn cysylltu o un trên i'r llall.

  • Alla i ddod â beic?
    • Trafnidiaeth Cymru: Gallwch, ond rhaid i chi archebu. Gallwch chi archebu lle i’ch beic am ddim yn eich swyddfa docynnau agosaf.

    • Stena Line: Gallwch chi ddod â’ch beic ar y llong am £5.00 bob ffordd, i'w dalu yn nherfynfa’r llong. Does dim angen i chi archebu.

    • Irish Ferries: Gallwch chi ddod â’ch beic ar y llong am £9.00 bob ffordd, i'w dalu yn nherfynfa’r llong. Does dim angen i chi archebu.

    • Irish Rail: Ewch www.irishrail.ie/travel-information/bicycle-information-for-rail-travel am fwy o wybodaeth.

  • Alla i ddod â ci?
    • Trafnidiaeth Cymru: Gallwch, cyhyd â bod eich ci yn ymddwyn yn dda a’i fod yn cael ei gadw ar dennyn neu mewn basged bob amser. Caiff cŵn tywys a chŵn cymorth deithio ar bob gwasanaeth trên heb gyfyngiad.

    • Irish Ferries: Na, dim ond cŵn tywys sy’n cael eu caniatáu yn yr ardal i deithwyr.

    • Stena Line HSS: Na, dim ond cŵn tywys sy’n cael eu caniatáu yn yr ardal i deithwyr.

    • Stena Line Super Ferry: Mae cŵn tywys yn cael eu caniatáu yn yr ardal i deithwyr. Bydd unrhyw gi arall yn cael ei roi mewn ardal llety cŵn pwrpasol ar y dec ceir.

    • Irish Rail: Gallwch, cyhyd â bod eich ci yn ymddwyn yn dda a’i fod yn cael ei gadw ar dennyn neu mewn basged bob amser. Caiff cŵn tywys a chŵn cymorth deithio ar bob gwasanaeth Intercity, Commuter a DART Iarnród Éireann heb gyfyngiad.

    • I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.irishrail.ie/contact-us/faqs