Mentrwch ymhellach gyda’r tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd. Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 0930 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc)
Prisiau
Oedolyn | Plentyn | Cerdyn Rheilffordd* | |
Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd a Thocyn | £13.50 | £6.70 | £8.90 |
Ble mae prynu Tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd
Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
Map
Map Rheilffyrdd y Cymoedd - Tocyn Crwydro
Ein Partneriaid Bysiau
Dyma restr o’r cwmnïau bysiau yng Nghymru fydd yn derbyn tocyn 'Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd’
- Stagecoach South Wales Bus
- Thomas of Rhondda
Telerau ac Amodau
- Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am ddiwrnod ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
- Ar gyfer teithio rhwng Maesteg - Caerdydd Canolog drwy Bont-y-clun neu Lanilltud Fawr, ynghyd ag Ynys y Barri - Y Barri, Penarth - Grangetown a Chaerdydd Canolog - Treherbert/Merthyr Tudful/Aberdâr/Rhymni/Glynebwy.
- Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
- Dim cyfyngiad ar fysiau.
- Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
- Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
- Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
- Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
- Pris yn ddilys hyd at 31ain Rhagfyr 2020.