Am £4.60 yn unig, cewch fwynhau teithio di-ben-draw ar yr un diwrnod ar drenau yn ardal Caerdydd a Phenarth, yn ystod cyfnodau tawelach, gyda'n tocyn trên diwrnod, Crwydro'r Brifddinas.
Mae'n fwy hyblyg ac mae'n cynnig gwell gwerth am arian na phrynu tocyn dwyffordd neu wahanol gyfuniadau o docynnau unffordd pan fyddwch chi'n teithio yn ystod cyfnodau tawelach.
Ble gallaf ei ddefnyddio?
Mae ein tocynnau trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ddilys i'w defnyddio yn ardal Caerdydd a Phenarth rhwng unrhyyw rai o'r gorsafoedd hyn:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|

Telerau ac Amodau
- Nid yw'n ddilys cyn 0930 na rhwng 1600 a 1830 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Mae'n ddilys unrhyn dro ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
- Arbedwch hyd at 1/3 gyda Cherdyn Rheilffordd.
- Mae plant rhwng pump a phymtheg oed yn cael 50% oddi ar bris tocyn oedolyn safonol.
- Caiff plant pedair oed ac iau deithio am ddim gyda deiliad tocyn.
Ble mae prynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas
Mae modd I chi brynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ein swyddfeydd tocynnau neu ar y trên os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau pan fyddwch chi'n cychwyn eich taith.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruExplore our Network