Ddim yn Gleient Busnes eto?
Dyma fanteision ymuno
Rydyn ni’n cynnig llu o fanteision pan fyddwch yn archebu eich tocynnau teithiau busnes gyda ni.
- Nid ydym yn codi ffioedd archebu neu dalu
- Nid oes gennym gostau sefydlu
- Gallwch chi gasglu eich tocynnau o unrhyw beiriant tocynnau trên yn y DU
- Gallwn ni bostio tocynnau i’ch swyddfa am ddim (codir ffioedd ar gyfer Post Cofnodedig neu Bost Arbennig)
- Rydyn ni’n darparu gwybodaeth reoli am eich archebion trên
Tocynnau tymor corfforaethol
Helpwch eich gweithlu i arbed arian ar eu tocyn tymor. Gallwch gynnig benthyciad di-log i brynu tocyn tymor blynyddol sy’n cael ei ad-dalu drwy ddidynnu’r symiau o’r cyflog misol. Gall hwn fod yn ychwanegiad deniadol i’ch cynllun buddion i weithwyr.
Ymysg y buddion mae:
- Cewch 12 wythnos o deithio am ddim o gymharu â phrynu tocynnau misol ar wahân
- Gallwch chi eu defnyddio ar unrhyw adeg, unrhyw ddiwrnod, rhwng y ddwy orsaf sydd ar y tocyn.
- Mae posib cael gostyngiad o 5% ar docynnau tymor Trafnidiaeth Cymru wrth eu prynu drwy sefydliad (ar gael ar lwybrau Trafnidiaeth Cymru yn unig).
Gallwch darganfod wrth ymweld a tudalen Tocynnau Tymor Corfforaethol.
Tocynnau tymor addysgol
Rydym yn cynnig gostyngiadau i ysgolion a cholegau pan maent yn prynu casgliad o docynnau drwy’r tîm Teithiau Busnes
- Gostyngiad o 5% ar gael i fyfyrwyr 18 oed a hŷn
- Gostyngiad o 55% ar gael i fyfyrwyr dan 18 oed
- Gostyngiad estynedig – sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael cadw’r gostyngiad cyfradd plant am 2 flynedd ychwanegol (cyfradd oedolyn yn berthnasol yn 16 oed fel rheol)
- Gellir archebu tocynnau’n flynyddol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd neu fesul tymor
- Caniateir teithio gyda’r nos ac ar benwythnosau
- Hwylus i archebu gyda’i gilydd i gyd i ysgolion/colegau neu awdurdodau lleol
- Cyfrif anfonebu ar gael
Cysylltu â ni
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0844 856 0688 neu anfonwch e-bost i Business.Bookings@tfwrail.wales
Cofrestrwch Eich Diddordeb
-
Oeddech chi’n gwybod?Tocynnau MultiflexYw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaiddDim ond ar gael ar ein Ap