Bydd ein tocynnau symudol yn arbed amser i chi yn yr orsaf.
Byddwn yn anfon eich tocyn yn syth i’ch ffôn Android neu Apple.
Mae angen i chi lwytho’r ap i lawr o’r Siop Apiau neu Google Play a dewis ‘m-ticket’ neu ‘mobile ticket’ fel dewis danfon.
Mae hi’n hawdd defnyddio tocyn symudol. Pan fyddwch chi’n mynd am y platfform, dewiswch ‘Activate’ i ddilysu eich tocyn i’w ddefnyddio. Gallwch chi wedyn sganio cod bar eich tocyn i fynd drwy'r giatiau. Os nad oes gan ein giatiau sganiwr cod bar, dangoswch eich tocyn i aelod o’n tîm a fydd wrth y giât.
Does dim angen signal ffôn symudol er mwyn i’ch tocyn weithio.
Os byddwch chi’n cael problemau gyda’ch tocyn symudol, ffoniwch ni ar 03333 211 202 (dewis 2) a byddwn ni’n barod i’ch helpu.
Rydyn ni'n ymddiheuro nad ydy'r gwasanaeth hwn ar gael yn Gymraeg eto.
Tocynnau Multiflex - Dim ond ar gael ar ein Ap
Multiflex, ein ‘trwydded’ 12 tocyn, yw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau gwahanol.
Defnyddiwch docynnau Multiflex ar ein ap symudol ac fe gewch chi docynnau hyblyg am bris isel iawn - yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr rhan amser neu’r rhai sydd ddim yn teithio’n ddigon rheolaidd i arbed gyda thocyn tymor wythnosol.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith