Os oes gennych chi Docyn Teithio Rhatach gan un o Awdurdodau Lleol Cymru, bydd modd i chi deithio am ddim ar lawer o’n trenau.

Gallwch chi deithio rhwng:

Bydd yn rhaid i chi gael tocyn am ddim o'r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau yn yr orsaf, neu ei bod hi wedi cau, bydd modd i chi gael eich tocyn gan yr Archwiliwr Tocynnau ar y trên.

Hefyd, byddwch yn cael  1/3 o ostyngiad ar docynnau i deithio ar rwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd ar ôl 0930 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.

Sylwch os gwelwch yn dda: Yn ddilys yn flaenorol ar wasanaethau sy'n cyrraedd Caerdydd Canolog ar ôl 0929. Bellach dim ond yn ddilys o'r orsaf wreiddiol o 0930.

 

Gallwch deithio i’r llefydd hyn:

Wrecsam i Bont Penarlâg

Gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:

Pont Penarlâg, Shotton, Penarlâg, Bwcle, Penyffordd, Yr Hôb, Caergwrle, Cefn-y-Bedd, Gwersyllt a Wrecsam Cyffredinol

 

Machynlleth i Bwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian)

Bob blwyddyn, rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth, mae modd i chi deithio rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:

Pwllheli, Abererch, Penychain, Cricieth, Porthmadog, Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llandecwyn, Talsarnau, Tygwyn, Harlech, Llandanwg, Pensarn, Llanbedr, Dyffryn Ardudwy, Tal-y-bont, Llanaber, Abermaw, Morfa Mawddach, Fairbourne, Llwyngwril, Tonfannau, Tywyn, Aberdyfi, Penhelig, Cyffordd Dyfi, Machynlleth.

Dydyn ni ddim yn derbyn tocynnau rhatach ar y trenau canlynol yn ystod tymhorau ysgol:

  • 06.29 Pwllheli – Machynlleth rhwng Abermaw a Thywyn

  • 07.24 Pwllheli – Machynlleth rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech

  • 12.51 Machynlleth – Pwllheli rhwng Harlech a Phenrhyndeudraeth

  • 14.56 Machynlleth – Pwllheli rhwng Tywyn ac Abermaw

 

Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)

Gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:

Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, Y Bont Rufeinig, Blaenau Ffestiniog.

 

Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru)

Bob blwyddyn, rhwng 01 Hydref a 31 Mawrth, mae modd i chi deithio rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:

Amwythig, Church Stretton, Craven Arms, Broome, Hopton Heath, Bucknell, Trefyclo, Cnwclas, Llangynllo, Ffordd Llanbister, Dolau, Pen-y-bont, Llandrindod, Ffordd Llanfair-ym-Muallt, Cilmeri, Garth (Powys), Llangamarch, Llanwrtyd, Pen y Fâl, Cynghordy, Llanymddyfri, Llanwrda, Llangadog, Llandeilo, Ffair-fach, Llandybie, Rhydaman, Pantyffynnon, Pontarddulais, Llangennech, Bynea, Llanelli, Tre-gŵyr, Abertawe.

Dydyn ni ddim yn darparu tocynnau am ddim ar gyfer teithiau cyfan rhwng Amwythig a Bucknell a rhwng Llanelli ac Abertawe.