Ein fflyd yn y dyfodol ar gyfer Metro De Cymru
Rydyn ni’n brysur y tu ôl i'r llenni yn adeiladu trenau newydd a mwy cyfforddus i ddarparu gwasanaethau Metro modern ac effeithiol lle gallwch chi gyrraedd a mynd. Byddwch chi'n dechrau gweld y rhain ar waith yn 2022.
Bydd y trenau hyn yn cynyddu ein capasiti yn fawr, ac yn trawsnewid y profiadau mae ein cwsmeriaid yn eu cael wrth deithio. Byddant hefyd yn cynnig llawer o nodweddion newydd, gan gynnwys mynediad gwastad, mwy o le i feiciau, a system awyru.
Ein Fflyd yn y Dyfodol
Cliciwch ar y fideo hwn i weld sut rai fydd y trenau newydd sbon hyn.
Click on this video fly-through to see what these brand new trains will be like.
Stadler FLIRT (TMMU)
Byddwn yn defnyddio trenau tri-modd aml-uned arloesol (diesel, trydan, batri) sy’n llawer mwy gwyrdd ar gyfer yr amgylchedd. Mae Stadler yn eu hadeiladu yn y Swistir ar hyn o bryd.
Gallwch gael taith rith-ryngweithiol o’r trên yma
Stadler FLIRT (DEMU)
Trenau diesel a thrydan â phedwar cerbyd, yn debyg i’n trenau tri-modd.
-
Tarwch olwg ar sut bydd ein trenau FLIRT yn edrych
-
Stadler Citylink
Gallwch ddisgwyl gweld yr unedau hyn ar y rheilffyrdd ac ar dramffyrdd ar strydoedd. Mae sbardun cyflym i’r tram-drenau trydan/batri hyn, sy’n cael eu hadeiladu yn Valencia gan Stadler, ac maent yn ecogyfeillgar.
-
Tarwch olwg ar sut bydd ein trenau Citylink yn edrych
-
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Rhowch gynnig arni