Amseroedd trenau a thocynnau trên

Ydych chi’n chwilio am amseroedd trenau a thocynnau trên? Cafodd ein cynllunydd teithiau isod ei gynllunio i’ch helpu i fynd o A i B mor gyflym, effeithlon a rhad â phosibl. P’un ai ydych chi’n teithio o Fanceinion, Abertawe, Caerdydd neu unrhyw le yn y DU, rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod eich taith chi’n un braf.

 

Tocynnau trên rhad

Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid fanteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau, a dyna pam rydyn ni wedi gweithio i wneud yn siŵr bod prisiau ein trenau mor rhad â phosibl. Os byddwch chi’n dewis teithio gyda ni, fyddwch chi ddim yn talu ffioedd archebu na thaliadau cerdyn a byddwn ni bob amser yn ceisio dod o hyd i’r tocyn a’r llwybr rhataf posibl i chi. 

 

Gwiriwr Capasiti

Defnyddiwch ein Gwiriwr Capasiti i helpu i gynllunio eich taith, i weld pa drenau sy’n debygol o fod â digon o seddi ar gael, a pha drenau i’w hosgoi oherwydd capasiti uchel. Sylwch, er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer pob teithiwr, os nad ydych chi’n archebu tocyn trên ymlaen llaw a bod yr holl gerbydau’n llawn, efallai y bydd gofyn i chi deithio ar adeg pan fydd modd cadw sedd. Peidiwch â cholli’r cyfle i archebu tocyn trên gyda ni heddiw. 

 

Tocynnau tymor

Ydych chi’n teithio gyda ni’n rheolaidd? Beth am gael Tocyn Tymor? Mae amrywiaeth o docynnau tymhorol ar gael gennym, gan gynnwys tocynnau wythnosol, misol, blynyddol ac addasu, i nifer o gyrchfannau gan gynnwys mannau poblogaidd fel Amwythig a Chaerdydd. Mae pob un o’n Tocynnau Tymor ar gael i’w prynu gyda cherdyn rheilffordd hefyd.

 

Amseroedd trenau

Mae ein trenau’n rhedeg drwy’r dydd, o ben bore tan ddiwedd y nos. Felly, p’un a ydych chi’n cymudo i’r gwaith, yn mynd i siopa yn y ddinas neu’n mwynhau noson allan gyda ffrindiau, rydyn ni yma i wneud yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd yno ac yn cyrraedd adref yn ddiogel.

Am beth ydych chi’n aros? Archebwch docyn trên gyda ni heddiw.