Canllawiau teithio o 20 Rhagfyr 2020
O 20 Rhagfyr dim ond os yw eich taith yn hanfodol y dylech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref. A fyddech cystal â gweithio gartref os gallwch
- mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg
- ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol
- darparu gofal hanfodol
Gallwch weld canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Gwiriwch cyn i chi deithio gan y gallai gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhedeg nifer is o wasanaethau a gall rhai gwasanaethau hefyd newid neu gael eu canslo ar rybudd fyr.
Dylech osgoi teithio ar adegau prysurach lle bo hynny'n bosibl a defnyddiwch ein Gwiriwr Capasiti i gynllunio eich taith.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amserlenni bysiau ledled Cymru yma.
Byddwch yn deithiwr cyfrifol a dilynwch ein canllawiau Teithio'n Saffach wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol.
I gael gwybodaeth am gyfnewid tocynnau ac ad-daliadau am docynnau, cliciwch yma.
Teithio i wledydd eraill y DU o 20 Rhagfyr 2020
Os oes angen i chi wneud taith hanfodol rhwng Cymru a rhan arall o'r DU, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Byddwch yn deithiwr cyfrifol a dilynwch ein canllawiau Teithio'n Saffach wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yng Nghymru.
Ni chaniateir teithio y tu allan i'r DU at ddibenion hamdden. Rhaid i chi gael esgus rhesymol dros deithio dramor.
GYDA’N GILYDD FE WNAWN NI GADW CYMRU’N DDIOGE
Hoffem eich sicrhau chi mai diogelwch a llesiant ein holl gwsmeriaid a’n staff yw ein prif flaenoriaeth yn ystod y Coronafeirws (COVID-19). Helpwch ni drwy ddilyn y canllawiau Teithio’n Saffach hyn. Y cyngor diweddaraf ar detihio.
Y cyngor diweddaraf ar detihiol
![]() |
|
|
![]() |
|
|
![]() |
|
|
![]() |
|
|
![]() |
|
Y CYNGOR DIWEDDARAF AR DETIHIO
- Mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb ar drenau ac mewn gorsafoedd oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
- Peidiwch â chyffwrdd arwynebau heb fod angen, golchwch eich dwylo’n rheolaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y camau ychwanegol rydyn ni’n eu cymryd i’ch cadw yn ddiogel.
- Mae’n werth edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio gan fod llai o wasanaethau’n rhedeg ar hyd rhwydwaith trenau Trafnidiaeth Cymru. Mae amseroedd gwasanaethau wedi newid ac er mwyn gweithredu yn y ffordd fwyaf diogel, nid yw ein trenau’n gallu stopio mewn nifer fach o orsafoedd. Bydd y gwaith gwella sydd wedi’i drefnu yn dal i ddigwyd
- Teithiwch yn ystod oriau tawel os gallwch chi (rhwng 0930 a 1600 ac ar ôl 1800) ac edrychwch i weld pa mor brysur mae eich trên yn debygol o fod gyda’n gwasanaeth gwirio capasiti.
- Dilynwch y mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn gorsafoedd ac ar drenau Mae’n bosib y bydd y rhain yn cynyddu amseroedd aros ac fe allant gyfyngu ar faint o bobl fydd yn gallu teithio yn ystod adegau prysur. Bydd ciwiau ar waith mewn lleoliadau allweddol ac os bydd trenau’n llawn, bydd angen i deithwyr aros am y gwasanaeth nesaf fydd ar gael, neu deithio mewn ffordd arall.
- Defnyddiwch ddulliau talu digyswllt, os yw’n bosib: prynwch eich tocynnau ar yr ap sydd gennym ac ar y wefan hon cyn i’ch taith ddechrau. Hefyd, gallwch ddefnyddio ein peiriannau tocynnau ac mae swyddfeydd tocynnau’n dal ar agor i gwsmeriaid sydd angen prynu tocynnau neu ddefnyddio disgownt nad yw ar gael ar beiriant tocynnau. Talwch gyda cherdyn os gallwch chi, ond rydyn ni’n gwybod na fydd hyn yn bosib bob amser, ac mae arian parod yn cael ei dderbyn yn y swyddfeydd tocynnau.
- Archebwch y gwasanaethau Cymorth i Deithwyr fel arfer. Mae hwn yn dal ar gael i’r rheini sydd angen cymorth ychwanegol i deithio. Rydyn ni’n annog teithwyr i archebu'r cymorth cyn teithio – bydd hyn yn ein helpu i gynllunio a gwneud yn siŵr na fydd yn rhaid i chi ddisgwyl yn hir.
- Dim ond ar wasanaethau rheilffordd y Cambrian y mae modd cadw seddi. Os ydych chi’n teithio ar y llwybr hwn, cadwch sedd wrth brynu eich tocyn er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol.
- Dydy gwasanaethau bwyd ddim ar gael ar ein trenau ar hyn o bryd.
-
Er mwyn helpu pawb i gadw pellter cymdeithasol, mae rhai o’r toiledau yn ein gorsafoedd ar gau dros dro. Holwch aelod o staff i’w hagor.
-
Mae toiledau ar gael ar y trenau. Mae toiledau hygyrch ar gael ar ein gwasanaethau Caerdydd a’r Cymoedd ond nid ym mhob cerbyd.
Holwch staff y rheilffordd neu edrychwch ar yr arwyddion ar y drysau i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r rhan iawn o’r trên. -
Mae’r ystafelloedd aros ar gau dros dro fel rhan o’n mesurau cadw pellter cymdeithasol.
- Efallai fod oriau agor y swyddfa docynnau’n wahanol i’r arfer felly holwch eich swyddfa leol.
- I gael gwybodaeth sy’n benodol i deithio ar drenau yn Lloegr, ewch i www.nationalrail.co.uk.
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ionawr 2021
-
Canllawiau’r GIG
-
-
- Ystyriwch eich amgylchiadau iechyd eich hun, gan barchu’r bobl eraill sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a dilyn canllawiau'r GIG.
- Wrth i’r sefyllfa esblygu, rydyn ni’n parhau i ddilyn cyngor gan y Llywodraeth a’r GIG, sydd ar gael yma:https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19
-
-
-
Oeddech chi’n gwybod?Cynllunio Ymlaen Llaw, Cadw LleRydyn ni’n gwneud popeth gallwn ni i helpu pawb i deithio’n saffach ar hyn o bryd.Cadw seddi