Gallwch arbed hyd at 50% oddi ar deithiau rhwng Caerdydd a Manceinion
Angen ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith nesaf? Gyda threnau uniongyrchol yn rhedeg bob awr rhwng Caerdydd Canolog a Manceinion, gallwch arbed arian ar docynnau trên Advance rhwng y ddwy ddinas fywiog hyn, gan fwynhau sawl man cyffrous ar hyd y daith.
Pethau i’w gwneud ym Manceinion
Y ddinas berffaith am benwythnos i ffwrdd ar drên. Mae Manceinion
yn llawn hanes, diwylliant, amrywiaeth ac egni gwefreiddiol. O’i sin
gerddorol gampus a’r timau pêl-droed eiconig i’w siopau syfrdanol
a’i bwytai bendigedig, mae gan Fanceinion rywbeth at ddant pawb.
Gallwch deithio o Abertawe i Fanceinion o £39.40 â thocyn trên
Advance.
Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd
Camwch oddi ar y trên yng Nghaerdydd Canolog ac ymgolli
yng nghanol prifddinas fywiog Cymru. Boed yn crwydro
drwy’r arcedau arbennig llawn siopau annibynnol, yn edrych
drwy hanes yn y castell campus neu’n cael eich hudo gan gêm
chwaraeon yn Stadiwm Principality, mae gan Gaerdydd egni sy’n
anodd ei anwybyddu.
Gallwch deithio o Gaerfyrddin i Gaerdydd o £9.00 â thocyn
trên Advance.
Pethau i’w gwneud yn Yr Amwythig
Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau
ffrâm bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am ddiwrnod
allan neu am benwythnos i ffwrdd. Mae’r Amwythig yn llawn
marchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd bendigedig.
Ewch i gerdded drwy Barc y Chwarel neu fwynhau llif yr afon ar
gwch.
Gallwch deithio o Gaerdydd i’r Amwythig o £21.30 â
thocyn trên Advance. Mae tocyn Dosbarth Cyntaf ar gael ar
wasanaethau penodol hefyd.
Pethau i’w gwneud yn Y Fenni
Mae’r Fenni yn gyrchfan gwych er mwyn archwilio Bannau
Brycheiniog. Mae ei thirweddau prydferth a’i threftadaeth
hanesyddol gyfoethog o hyd yn syfrdanu ymwelwyr. Mae
llwyth o lefydd bwyd ar gael sy’n llawn danteithion lleol, tra bod
y golygfeydd godidog yn sicrhau profiad bythgofiadwy i bob
teithiwr.
*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.
Pethau i’w gwneud ym Manceinion
Y ddinas berffaith am benwythnos i ffwrdd ar drên. Mae Manceinion yn llawn hanes, diwylliant, amrywiaeth ac egni gwefreiddiol. O’i sin gerddorol gampus a’r timau pêl-droed eiconig i’w siopau syfrdanol a’i bwytai bendigedig, mae gan Fanceinion rywbeth at ddant pawb.
Gallwch deithio o Abertawe i Fanceinion o £39.40 â thocyn trên Advance.
Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd
Camwch oddi ar y trên yng Nghaerdydd Canolog ac ymgolli yng nghanol prifddinas fywiog Cymru. Boed yn crwydro drwy’r arcedau arbennig llawn siopau annibynnol, yn edrych drwy hanes yn y castell campus neu’n cael eich hudo gan gêm chwaraeon yn Stadiwm Principality, mae gan Gaerdydd egni sy’n anodd ei anwybyddu.
Gallwch deithio o Gaerfyrddin i Gaerdydd o £9.00 â thocyn trên Advance.
Pethau i’w gwneud yn Yr Amwythig
Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau ffrâm bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am ddiwrnod allan neu am benwythnos i ffwrdd. Mae’r Amwythig yn llawn marchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd bendigedig. Ewch i gerdded drwy Barc y Chwarel neu fwynhau llif yr afon ar gwch.
Gallwch deithio o Gaerdydd i’r Amwythig o £21.30 â thocyn trên Advance. Mae tocyn Dosbarth Cyntaf ar gael ar wasanaethau penodol hefyd.
Pethau i’w gwneud yn Y Fenni
Mae’r Fenni yn gyrchfan gwych er mwyn archwilio Bannau Brycheiniog. Mae ei thirweddau prydferth a’i threftadaeth hanesyddol gyfoethog o hyd yn syfrdanu ymwelwyr. Mae llwyth o lefydd bwyd ar gael sy’n llawn danteithion lleol, tra bod y golygfeydd godidog yn sicrhau profiad bythgofiadwy i bob teithiwr.
*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
-
Castell Harlech Dewch i ddarganfod Harlech Castle
-
Castell Rhaglan Dewch i ddarganfod Raglan Castle
-
Castell Cydweli Dewch i ddarganfod Kidwelly Castle
-