Newid tocynnau ac ad-daliadau

Os hoffech chi newid eich tocyn neu gael ad-daliad, mae’r broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar y math o docyn sydd gennych.

Oeddech chi’n gwybod os ydych chi’n cyrraedd yr orsaf lle’r oeddech chi’n bwriadu gorffen eich taith 15 munud neu fwy yn hwyr am fod un o’n trenau’n hwyr neu wedi cael ei ganslo am unrhyw reswm, gallwch wneud cais am Ad-daliad am Oedi?

  • Cafodd fy nhrên ei ganslo neu ei ddal yn ôl felly wnes i ddim teithio, alla i gael ad-daliad?
    • Gallwch gael ad-daliad am unrhyw docyn os oeddech chi wedi penderfynu peidio â theithio am fod eich trên wedi’i ganslo neu’n hwyr.

    • O dan Amodau Teithio National Rail, os oedd eich trên wedi cael ei ganslo neu’n hwyr a'ch bod yn penderfynu peidio â theithio oherwydd hynny, gallwch hawlio ad-daliad ar gyfer tocynnau heb eu defnyddio. Ni chodir ffi weinyddol arnoch chi.

    • I ofyn am ad-daliad, dilynwch un o’r opsiynau isod, yn dibynnu ar eich math o docyn a ble y daethoch â’ch tocyn.

Dewiswch opsiwn isod i gael gwybod mwy am newid tocynnau ac ad-daliadau:

 

Tocynnau Advance

Ni allwch gael ad-daliad am docynnau Advance oni bai eich bod wedi penderfynu peidio â theithio am fod eich trên wedi’i ganslo neu’n hwyr.

Os oes angen i chi newid y diwrnod neu’r amser rydych chi’n teithio, gallwch chi newid eich tocyn hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn teithio.

Bydd y broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar ble wnaethoch chi brynu eich tocyn a pha opsiwn danfon roeddech chi wedi’i ddewis:

  • Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan
    • Os wnaethoch chi brynu tocyn Advance ar ein ap neu wefan, ni chodir ffi arnoch ar hyn o bryd am newid eich taith o dan ein cynllun Archebu gyda hyder. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os oes gwahaniaeth pris rhwng eich tocyn presennol a’r tocyn newydd.

    • Cam 1: Prynwch docyn newydd ar gyfer y dyddiad a’r amser newydd y byddwch chi’n teithio. Rhaid iddo fod ar gyfer yr un tarddiad, cyrchfan, a llwybr.

    • Cam 2: Dilynwch y broses isod i ofyn am ad-daliad ar eich tocyn gwreiddiol:

    • Tocynnau symudol neu e-docynnau

      • Ffoniwch Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 2.

      • E-bostiwch eich cyfeirnod archebu newydd TrC ynghyd â chyfeirnod archebu eich taith i’w had-dalu, eich rheswm dros newid eich tocyn, eich enw a’r e-bost yr oeddech yn arfer archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

    • Tocynnau papur
      Os prynoch chi'ch tocynnau ar-lein ac wedi eu casglu, gallwch chi:

      • E-bostiwch eich cyfeirnod archebu newydd TrC, llun o’r tocynnau i’w had-dalu wedi’u torri yn eu hanner, eich rheswm dros newid eich tocyn, eich enw a’r e-bost yr oeddech yn arfer archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

      • Postiwch eich cyfeirnod archebu newydd, eich tocynnau i’w had-dalu, eich rheswm dros newid eich tocyn, eich enw a’r e-bost yr oeddech yn arfer archebu i:
        Rhadbost
        CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

  • Prynais fy nhocyn o beiriant tocynnau yn yr orsaf drenau neu o swyddfa docynnau
    • Ar gyfer tocynnau papur, ni chodir ffi arnoch ar hyn o bryd am newid taith o dan ein cynllun Archebu gyda hyder. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os oes gwahaniaeth pris rhwng eich tocyn presennol a’r un newydd.

    • Ymweld â swyddfa docynnau
      Y ffordd gyflymaf i newid eich tocyn papur yw mynd ag ef i swyddfa docynnau eich gorsaf agosaf.

  • Prynais fy nhocyn gan fanwerthwr arall
    • Tocynnau papur - ewch i swyddfa docynnau
      Gallwch newid eich tocyn drwy fynd ag ef i swyddfa docynnau eich gorsaf agosaf. Efallai y codir £10 arnoch i’w newid.

    • Tocynnau symudol neu e-docynnau
      I newid tocynnau symudol neu e-docynnau, cysylltwch â’r manwerthwr lle gwnaethoch brynu’r tocynnau.

 

Tocynnau Unrhyw Bryd, Cyfnodau Tawelach a Chyfnodau Tawelach Fyth

Gellir newid a chael ad-daliad ar gyfer tocynnau Unrhyw Bryd, Cyfnodau Tawelach a Chyfnodau Tawelach Fyth.

Os wnaethoch chi brynu eich tocynnau ar ein ap neu wefan, ni chodir ffi arnoch am newid eich taith neu ganslo eich tocyn.

Ar gyfer tocynnau papur, gallwch wneud newidiadau'n rhad ac am ddim o dan ein cynllun Archebu gyda hyder. Fodd bynnag, efallai y codir £10 arnoch am ad-daliadau.
 

Newidiadau i docynnau

I newid eich tocyn, yn gyntaf archebwch docyn newydd ar gyfer eich dyddiadau teithio newydd a dilynwch y broses isod i gael ad-daliad ar y tocyn gwreiddiol.

Codir tâl arnoch am unrhyw wahaniaeth pris rhwng eich tocyn a'r tocyn newydd. Gallwch newid eich tocyn hyd at ymadael.
 

Cais am ad-daliad:

Rhaid gwneud ceisiadau am ad-daliad o fewn 28 diwrnod.

I ofyn am ad-daliad, mae'r broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar ble prynoch chi'ch tocyn a pha opsiwn dosbarthu a ddewisoch:

  • Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan
    • Tocynnau symudol neu e-docynnau

      • Ffoniwch Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 2.

      • E-bostiwch eich cyfeirnod archebu newydd TrC ynghyd â chyfeirnod archebu eich taith i’w had-dalu, eich rheswm dros newid eich tocyn, eich enw a’r e-bost yr oeddech yn arfer archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

    • Tocynnau papur
      Os prynoch chi'ch tocynnau ar-lein ac wedi eu casglu, gallwch chi:

      • E-bostiwch ffotograff o'r tocynnau i'w had-dalu wedi'u torri yn eu hanner, eich cyfeirnod archebu newydd TrC (newid tocynnau yn unig), eich rheswm dros ofyn am ad-daliad, eich enw a'r e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio i archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

      • Postiwch eich tocynnau gwreiddiol, eich cyfeirnod archebu newydd TrC (newid tocynnau yn unig), eich rheswm dros ofyn am ad-daliad, eich enw a’r e-bost y buoch yn arfer archebu i:
        Rhadbost
        CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

  • Prynais fy nhocyn o beiriant tocynnau yn yr orsaf drenau neu o swyddfa docynnau
    • Ymweld â swyddfa docynnau - newidiadau ac ad-daliadau
      Y ffordd gyflymaf o ad-dalu neu newid eich tocyn papur yw mynd ag ef i'ch swyddfa docynnau agosaf â staff mewn gorsaf.

    • Trwy'r post - ad-daliadau yn unig
      Postiwch eich tocyn, eich rheswm dros ofyn am ad-daliad ynghyd â'ch enw a'ch cyfeiriad i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

  • Prynais fy nhocyn gan fanwerthwr arall
    • Tocynnau papur - Ymweld â swyddfa docynnau
      Gallwch o hyd newid eich tocyn drwy fynd â’ch tocyn papur i swyddfa docynnau eich gorsaf agosaf. Efallai y codir £10 arnoch i’w newid.

    • Tocynnau symudol neu e-docynnau
      I newid tocynnau symudol neu e-docynnau cysylltwch â’r manwerthwr lle gwnaethoch brynu’r tocynnau.

 

Archebu gyda hyder

Mae ein cynllun archebu gyda hyder wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth 2024. Mae’n caniatáu i chi newid bob math o docynnau, gan gynnwys tocynnau Advance, a brynwyd ar-lein neu mewn gorsaf, heb dalu unrhyw ffi.

  • Gweler y manylion llawn
    • Nid yw’r opsiwn i gyfnewid tocyn Advance am daleb teithio ar gael erbyn hyn.

    • Gallwch o hyd ail-archebu eich tocyn Advance o fewn ein cyfnod archebu o chwe wythnos.

    • Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol os oeddech chi wedi prynu eich tocyn ar gyfer TrC:

      • Newid taith heb ffi - bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw wahaniaeth yn y pris a rhaid gwneud newidiadau erbyn 18:00 ar y diwrnod cyn teithio; rhaid gadael yr un orsaf a chyrraedd yr un orsaf â’r daith wreiddiol, ond caniateir i chi newid y dyddiad a’r amser er mwyn teithio ar wasanaeth neu ddiwrnod arall.

      • Bydd newidiadau i docynnau Advance ar ôl y cyfnod hwn yn destun y telerau ac amodau arferol ynghylch newid eich taith; caniateir newidiadau hyd at amser gadael y gwasanaeth cyntaf a archebir, ond bydd ffioedd arferol yn berthnasol a bydd unrhyw newidiadau a wneir i docynnau Advance ar ôl i’r gwasanaeth cyntaf a archebir adael yn annilys.

      • Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar bolisïau ad-daliadau. Mae’r newid hwn yn caniatáu cyfnewid tocynnau Advance am daith wahanol. Ni cheir ad-daliad ar docynnau Advance oni bai fod y gwasanaeth gwreiddiol yn hwyr neu’n cael ei ganslo a’ch bod yn penderfynu nad ydych chi eisiau teithio oherwydd hynny.

      • Gallwch barhau i newid tocynnau nad ydynt yn rhai Advance i deithio ar adeg arall heb dalu ffi.

 

Tocynnau Dosbarth Cyntaf

Os ydych wedi prynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar gyfer un o'n gwasanaethau trên Dosbarth Cyntaf ac am ryw reswm, dyw'r gwasanaeth hwnnw heb gael ei ddarparu, gallwch hawlio ad-daliad.

Bydd gennych hawl i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng pris y tocyn Dosbarth Cyntaf a'r pris tocyn Dosbarth Safonol.

 

Cais am ad-daliad:

Cadwch eich tocyn i hawlio'ch ad-daliad rhannol a gwneud hynny o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y daith.

I ofyn am ad-daliad, mae'r broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar ble prynoch chi'ch tocyn a pha opsiwn dosbarthu a ddewisoch:

  • Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan
    • Tocynnau symudol neu e-docynnau

      • Ffoniwch Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 2.

      • E-bostiwch eich chyfeirnod archebu eich taith i’w had-dalu, eich rheswm dros ofyn am ad-daliad, eich enw a’r e-bost yr oeddech yn arfer archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

    • Tocynnau papur
      Os prynoch chi'ch tocynnau ar-lein ac wedi eu casglu, gallwch chi:

      • E-bostiwch ffotograff o'r tocynnau i'w had-dalu wedi'u torri yn eu hanner, eich rheswm dros ofyn am ad-daliad, eich enw a'r e-bost y gwnaethoch ei ddefnyddio i archebu i customersupport@tfwrail.wales. Ein nod yw ymateb o fewn 2-5 diwrnod gwaith.

      • Postiwch eich tocynnau gwreiddiol, eich rheswm dros ofyn am ad-daliad, eich enw a’r e-bost y buoch yn arfer archebu i:
        Rhadbost
        CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

  • Prynais fy nhocyn o beiriant tocynnau yn yr orsaf drenau neu o swyddfa docynnau
    • Ymweld â swyddfa docynnau - ad-daliadau
      Y ffordd gyflymaf o ad-dalu eich tocyn papur yw mynd ag ef i'ch swyddfa docynnau agosaf â staff mewn gorsaf.

    • Trwy'r post - ad-daliadau
      Postiwch eich tocyn, eich rheswm dros ofyn am ad-daliad ynghyd â'ch enw a'ch cyfeiriad i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

 

Tocynnau tymor

  • Gellir cael ad-daliad am docynnau tymor ar unrhyw adeg. Byddwn yn cyfrifo faint i’w ad-dalu yn ôl y gwerth sydd ar ôl ar eich tocyn.
  • Mae unrhyw ad-daliad yn cael ei gyfrifo o'r dyddiad y dychwelir y tocyn Tymor atom neu'r dyddiad y gwnaethom ganslo'r tocyn Tymor i'w ddefnyddio ymhellach.
  • Rydyn ni’n gwneud hyn drwy dynnu gwerth unrhyw docynnau eraill y gallech fod wedi’u defnyddio i deithio yn yr un cyfnod tan i chi roi’r gorau i ddefnyddio eich tocyn tymor.
  • Fel arfer gallwn roi ad-daliad i chi os oes:
    • Saith diwrnod (neu fwy) ar ôl ar eich tocyn Tymor sy'n ddilys am un i ddeg mis.
    • Tri diwrnod (neu fwy) ar ôl ar eich tocyn Tymor wythnosol.
    • Ar gyfer tocyn Tymor blynyddol, efallai na fydd gwerth ar ôl arno os yw’n cael ei ildio yn ystod y ddau fis olaf cyn iddo ddod i ben. Does dim gwerth ad-daliad i docynnau Tymor Blynyddol ar ôl 10 mis a 12 diwrnod, ond maen nhw’n dal yn ddilys i deithio nes daw’r dyddiad i ben, a gallwch barhau i fwynhau unrhyw fuddion Cerdyn Aur gyda nhw.
  • Bydd ein polisi ad-daliad am Docyn Tymor arferol yn parhau i fod yn berthnasol, ond mae'r ffi weinyddol o £10 wedi cael ei dileu oddi ar archebion ar-lein.
  • Rhaid i chi wneud cais am ad-daliad 28 diwrnod fan bellaf ar ôl i’ch tocyn ddod i ben.

 

Sut mae gwneud newidiadau neu hawlio ad-daliad:
Gallwch wneud newidiadau yn dibynnu ar ble wnaethoch chi brynu eich tocyn a pha opsiwn danfon roeddech chi wedi’i ddewis:

  • Prynais fy nhocyn ar-lein neu ar yr ap
    • Cerdyn clyfar
      Anfonwch neges e-bost at customersupport@tfwrail.wales a dywedwch wrthym:

      • Rhif eich Cerdyn Clyfar.

      • Yr enw a'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar eich cyfrif gwe.

      • Y daith sy’n cael ei dangos ar eich tocyn Tymor.

      • Dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf.

    • Ffoniwch Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 2.

    • Tocynnau papur
      Os ydych chi wedi casglu eich tocynnau yn barod, postiwch nhw gyda’ch enw, cyfeiriad a manylion y dyddiad teithio diwethaf i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

  • Prynais fy nhocyn o beiriant tocynnau yn yr orsaf drenau neu o swyddfa docynnau
    • Tocynnau papur
      Ewch i un o’n swyddfa docynnau neu
      Postiwch eich tocyn gyda’ch enw, cyfeiriad a manylion y dyddiad teithio diwethaf i:
      Rhadbost
      CAIS AM AD-DALIAD - RHEILFFYRDD TrC

    • Cerdyn clyfar
      Anfonwch neges e-bost at customersupport@tfwrail.wales a dywedwch wrthym:

      • Eich enw a’ch cyfeiriad post llawn.

      • Yr enw a’r rhif ar eich cerdyn clyfar.

      • Y daith y mae eich tocyn yn ddilys ar ei chyfer.

      • Dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf. 

 

Teithiau corfforaethol

Os ydych chi wedi prynu tocyn ac yn dewis peidio â theithio, gallwch hawlio ad-daliad gan y manwerthwr neu’r cwmni trên y gwnaethoch chi brynu’r tocyn ganddo, oni bai fod telerau ac amodau eich tocyn (tocynnau Advance er enghraifft) yn dangos nad oes modd ei ad-dalu. Rhaid i chi wneud hyn 28 diwrnod fan bellaf ar ôl i’r tocyn ddod i ben.

Os ydych chi wedi archebu eich tocyn drwy ein Gwasanaethau Rheoli Teithio, cysylltwch â nhw yn tms@tfwrail.wales. Peidiwch â thorri eich tocyn tymor corfforaethol.

 

Talebau teithio National Rail

Gellir defnyddio talebau teithio National Rail tuag at gost tocynnau trên yn ein swyddfeydd tocynnau.

 

Cardiau Rheilffordd

Ni cheir ad-daliad am gardiau rheilffordd.

 

Prynais fy nhocyn gan fanwerthwr Payzone ac rydw i am gael ad-daliad

Os byddwch yn dychwelyd at y manwerthwr Payzone cyn pen 30 munud o brynu eich tocyn, gallwch gael ad-daliad llawn heb dalu ffi weinyddol.

Os oes mwy na 30 munud wedi mynd heibio ers i chi brynu’r tocyn, bydd rhaid i chi dalu isafswm o £10 beth bynnag fo gwerth y tocyn.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad os yw gwerth eich tocyn yn llai na £10.

Dim ond mewn siopau Payzone y gellir cael ad-daliadau ar gyfer tocynnau Payzone. Does dim uchafswm ar werth tocyn y gellir cael ad-daliad ar ei gyfer.