Gallwch arbed hyd yn oed mwy gyda cherdyn rheilffordd â gostyngiadau.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch ddewis gwahanol fathau o gardiau rheilffordd â gostyngiadau y gellir eu defnyddio ar ein gwasanaethau? Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru ar gyfer teithiau lleol, a cherdyn rheilffordd cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ymhlith cardiau eraill. Mae rhagor o wybodaeth am y cardiau rheilffordd ac am y prisiau ar gael isod.

  • Cardiau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru
    • Gallwch arbed llawer o arian gyda’n cardiau rheilffordd. Dyma sydd ar gael i chi:

      Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru

      Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn byw ar hyd llwybr rheilffordd Calon Cymru, rydych chi’n gymwys i gael y cerdyn rheilffordd hwn. Byddwch chi’n cael gostyngiad o 34% ar eich tocyn ar gyfer teithiau rhwng Abertawe/Llanelli ac Amwythig drwy Landrindod.

      Oes gennych chi’r cerdyn rheilffordd hwn ac yn teithio gyda phlant? Gallwch fynd â hyd at ddau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2 yr un. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim.

      Dim ond £13.50 fydd y tocyn yn ei gostio i chi. Prynwch eich cerdyn rheilffordd heddiw o un o’n swyddfeydd tocynnau yn Abertawe, Llanelli, Llandrindod neu Amwythig.

      Map o’r ardaloedd dilys

       

      Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn y Cymoedd

      Os ydych chi dros 60 oed, gallwch arbed 50% ar Docynnau Dwyffordd Unrhyw Bryd a Chyfnodau Tawelach am flwyddyn gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Hŷn Trafnidiaeth Cymru. Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer teithiau o amgylch Caerdydd a chymoedd de Cymru ar ôl 09:30.

      Dim ond £13.50 fydd y tocyn yn ei gostio i chi. Prynwch eich cerdyn rheilffordd heddiw o un o’n swyddfeydd tocynnau yn yr orsaf.

      Map o’r ardaloedd dilys

       

      Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr y Cymoedd a Llwybrau Lleol Caerdydd

      Dim ond £13.50 y flwyddyn yw cerdyn rheilffordd Myfyrwyr, ac mae’n rhoi gostyngiad o 34% oddi ar bob ticyn diwrnod a 10% oddi ar bob tocyn tymor ar gyfer teithiau rhwng Caerdydd a chymoedd de Cymru. Mae’r gostyngiadau hyn yn berthnasol y tu allan i'r tymor ac ar benwythnosau hefyd.

      Map o’r ardaloedd dilys

       

      Cerdyn Rheilffordd y Cambrian

      Dim ond £13.50 y flwyddyn yw cerdyn rheilffordd y Cambrian, a gallwch gael 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o docynnau Dosbarth Safonol ar reilffordd y Cambrian gyda’r cerdyn hwn. Gallwch hefyd fynd â hyd at ddau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2 yr un. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim.

      Mae rheilffordd y Cambrian yn rhedeg rhwng Pwllheli, Aberystwyth, Machynlleth, y Drenewydd, Amwythig a phob gorsaf rhwng y rhain.

       

      Cerdyn Rheilffordd Sir Benfro

      Ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn byw mewn cod post yn Sir Benfro? Dim ond £13.50 y flwyddyn yw cerdyn rheilffordd Sir Benfro, a gallwch chi fod yn gymwys i gael y cerdyn hwn. Gallwch gael gostyngiad o 34% ar rai teithiau trên yn Sir Benfro, gan ymestyn i Abertawe drwy Gaerfyrddin. Gallwch hefyd fynd â hyd at ddau blentyn rhwng 5 a 15 oed gyda chi am £2.00 yr un.

      Gallwch brynu eich cerdyn rheilffordd yn swyddfa docynnau Caerfyrddin neu Hwlffordd

      Dim ond i breswylwyr sy’n byw o fewn un o'r codau post isod y mae'r cerdyn rheilffordd ar gael: SA34 0; SA61 1; SA61 2; SA62 3; SA62 4; SA62 5; SA626; SA63 4; SA64 0; SA65 9; SA66 7; SA67 7; SA67 8; SA68 0; SA69 9; SA70 7; SA70 8; SA71 4; SA71 5; SA72 6; SA73 1; SA73 2; SA73 3.

       

      Cerdyn Rheilffordd 18 Saver

      Mae Cerdyn Rheilffordd 18 Saver Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gostyngiad o 50% ar docynnau Dosbarth Safonol, a hynny ar wasanaethau rheilffyrdd TrC yn unig. Edrychwch ar yr ardaloedd dilys isod.

      Rhaid i chi fod yn 18 oed, a bydd angen i chi ddarparu prawf oedran pan fyddwch yn prynu eich cerdyn rheilffordd. £22 yw’r gost.

      Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys am flwyddyn ar ôl y dyddiad y bydd yn cael ei roi. Cofiwch mai dim ond ar wasanaethau rheilffyrdd TrC y gellir defnyddio’r cerdyn hwn.

      Gallwch brynu’r cerdyn rheilffordd yn ein swyddfeydd tocynnau yn yr orsaf neu gan ein hasiantwyr adwerthu. 

      Caiff pob tocyn ei roi yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.

      Does dim modd newid cardiau rheilffordd sydd wedi cael eu colli neu eu difrodi, felly cadwch nhw’n ddiogel.

      Cofiwch lofnodi eich cerdyn rheilffordd gan na fydd yn ddilys fel arall. Does dim modd ei drosglwyddo i rywun arall, a dim ond chi sy’n gallu defnyddio tocynnau sydd wedi cael eu prynu gyda’ch cerdyn rheilffordd.

      Mae’r cerdyn rheilffordd hwn yn dal yn eiddo i Trafnidiaeth Cymru, a rhaid i chi ei ddychwelyd atom os gofynnir amdano.

      Cyflwynwch eich cerdyn rheilffordd i’w archwilio os bydd un o’n staff yn gofyn i chi wneud hynny. Fel arall, bydd angen i chi dalu pris safonol llawn.

      Dilysrwydd tocynnau cerdyn rheilffordd â gostyngiad

      Gallwch deithio rhwng y cyrchfannau a ddangosir ar y tocyn rydych chi wedi’i brynu gyda’ch cerdyn rheilffordd. Cofiwch, bydd angen i chi gyflwyno eich cerdyn rheilffordd i’w archwilio os gofynnir i chi wneud hynny.

      Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau trên sy’n cael eu gweithredu gan TrC y mae tocynnau rhatach yn ddilys, ac ni fyddant yn ddilys mwyach ar ôl eu dyddiad dod i ben. 

      Mae tocynnau yn amodol ar Amodau Teithio National Rail a’r amodau hynny sydd wedi’u rhestru yn y daflen hon.

      Os bydd achos o wrthdaro, bydd yr amodau hyn yn berthnasol.

      Gall y telerau ac amodau hyn newid. Cadwch lygad ar y dudalen hon neu holwch yn swyddfa docynnau eich gorsaf TrC agosaf os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

      Edrychwch ar ein gostyngiad o 50% sydd ar gael i bobl ifanc 18 oed

      Dim ond £22 y flwyddyn yw cerdyn rheilffordd 18 Saver, a gallwch gael gostyngiad o 50% oddi ar docynnau Dosbarth Safonol ar deithiau perthnasol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn unig (edrychwch ar y map i weld yr ardaloedd dilys).

      Sut mae cael eich Cerdyn Rheilffordd 18 Saver

      Dim ond o swyddfeydd tocynnau gorsafoedd TrC a gan ein hasiantwyr adwerthu y mae ein cerdyn rheilffordd 18 Saver ar gael. Gellir talu gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn debyd/credyd. Bydd angen i chi gyflwyno prawf oedran, felly cofiwch ddod â hwn gyda chi.

      Map o’r ardaloedd dilys

       

      Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr

      Mae Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr Trafnidiaeth Cymru’n rhoi gostyngiad o 34% ar docynnau Dosbarth Safonol, a gostyngiad o 10% ar Docynnau Tymor Dosbarth Safonol. Dim ond ar wasanaethau rheilffyrdd TrC y gellir defnyddio’r cerdyn hwn, a hynny o fewn yr ardal ddilys (gweler y map isod).

      Rhaid i chi fod mewn addysg amser llawn neu ran amser i fod yn gymwys ar gyfer y cerdyn hwn, a bydd angen i chi ddarparu prawf o hyn pan fyddwch yn ei brynu. Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys am flwyddyn ar ôl y dyddiad y bydd yn cael ei roi.

      Dim ond yn swyddfeydd tocynnau TrC a gan asiantwyr adwerthu y mae modd prynu’r cerdyn. Caiff pob tocyn ei roi yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.

      Cofiwch lofnodi eich cerdyn rheilffordd gan na fydd yn ddilys fel arall. Does dim modd ei drosglwyddo i rywun arall, a dim ond chi sy’n gallu defnyddio tocynnau sydd wedi cael eu prynu gyda’ch cerdyn rheilffordd.

      Does dim modd newid cardiau rheilffordd sydd wedi cael eu colli neu eu difrodi, felly cadwch nhw’n ddiogel.

      Mae’r cerdyn rheilffordd hwn yn dal yn eiddo i Trafnidiaeth Cymru, a rhaid i chi ei ddychwelyd atom os gofynnir amdano.

      Cyflwynwch eich cerdyn rheilffordd i’w archwilio os bydd un o’n staff yn gofyn i chi wneud hynny. Fel arall, bydd angen i chi dalu pris safonol llawn.

      Dilysrwydd tocynnau cerdyn rheilffordd â gostyngiad

      Gallwch deithio rhwng y cyrchfannau a ddangosir ar y tocyn rydych chi wedi’i brynu gyda’ch cerdyn rheilffordd. Cofiwch, bydd angen i chi gyflwyno eich cerdyn rheilffordd i’w archwilio os gofynnir i chi wneud hynny.

      Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau trên sy’n cael eu gweithredu gan TrC y mae tocynnau rhatach yn ddilys, ac ni fyddant yn ddilys mwyach ar ôl eu dyddiad dod i ben. 

      Mae tocynnau yn amodol ar Amodau Teithio National Rail a’r amodau hynny sydd wedi’u rhestru yn y daflen hon. Os bydd achos o wrthdaro, bydd yr amodau hyn yn berthnasol.

      Gall y telerau ac amodau hyn newid. Cadwch lygad ar y dudalen hon neu holwch yn swyddfa docynnau eich gorsaf TrC agosaf os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

      Gallwch gael gostyngiad o hyd at 34% gyda Cherdyn Rheilffordd Myfyrwyr

      Dim ond £22 y flwyddyn yw cerdyn rheilffordd Myfyrwyr TrC, a gallwch gael gostyngiad o 34% oddi ar docynnau Dosbarth Safonol a 10% oddi ar docynnau tymor Dosbarth Safonol. Dim ond ar gyfer teithiau perthnasol ar wasanaethau rheilffyrdd TrC y gellir defnyddio’r cerdyn (edrychwch ar y map i weld yr ardal ddilys).

      Sut mae cael eich Cerdyn Rheilffordd Myfyrwyr TrC

      Mae’r cerdyn hwn ar gael yn ein swyddfeydd tocynnau yn yr orsaf a gan ein hasiantwyr adwerthu. Gellir talu gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn debyd/credyd. Cofiwch ddod â’ch cerdyn adnabod myfyriwr gyda chi i brofi eich bod yn gymwys.

  • Cardiau Rheilffordd Cenedlaethol
    • Cerdyn Rheilffordd i Ddau Berson (Two Together)

      Teithiwch gyda pherson arall drwy’r cerdyn rheilffordd i ddau berson. Bydd y ddau ohonoch yn arbed 1/3 ar eich tocynnau. Ewch i twotogether-railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

       

      Cerdyn Rheilffordd 16-17 Saver

      Mae’r 16-17 Saver yn rhoi gostyngiad o 50% oddi ar docynnau Tymor Safonol, Cyfnodau Tawelach, Advance ac Unrhyw Bryd os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed.

       

      Cerdyn rheilffordd 16-25

      Ydych chi rhwng 16 a 25 oed? Gallwch gael 1/3 oddi ar bris eich tocynnau. Mae’r cerdyn hyd yn oed yn rhoi gostyngiadau ar ein tocynnau Advance Dosbarth Cyntaf a Dosbarth Safonol. Ewch i 16-25railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

       

      Cerdyn rheilffordd 26-30

      Os ydych chi rhwng 26 a 30 oed, gallwch gael 1/3 oddi ar bris tocynnau trên ledled Prydain. Ewch i 26-30railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

       

      Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau

      Gall Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau roi 1/3 i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau ledled Prydain. Ewch i familyandfriends-railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i weld faint o arian y gallwch ei arbed.

       

      Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn

      Gall Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn roi 1/3 i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau trên ledled Prydain. Ewch i senior-railcard.co.uk i gael rhagor o wybodaeth. Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch wneud cais a gweld faint o arian y gallech ei arbed.

       

      Cerdyn Rheilffordd Pobl Anabl

      Gallwch gael 1/3 oddi ar bris tocynnau trên ledled Prydain i chi a ffrind sydd â Cherdyn Rheilffordd Pobl Anabl. Ewch i disabledpersons-railcard.co.uk i weld a ydych chi’n gymwys ac i weld sut gallwch chi wneud cais. 

       

      Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith

      Gallwch gael 50% oddi ar docynnau trên gyda Cherdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith. Mae’r cerdyn yn rhad ac am ddim ac mae wedi’i gynllunio i helpu pobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd i deithio i gyfweliadau swyddi am gost fforddiadwy. Bydd y cerdyn yn dod i ben ar ôl tri mis.

      Gallwch arbed 50% ar y canlynol:

      • Tocynnau Diwrnod Unrhyw Bryd
      • Tocynnau Diwrnod Cyfnodau Tawelach
      • Tocynnau tymor (hyd at dri mis)

      I fod yn gymwys i gael Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith, mae’n rhaid eich bod chi’n hawlio’r canlynol:

      • Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 3 a 9 mis, os ydych chi’n 18-24 oed
      • Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 3 a 12 mis, os ydych chi’n 25 oed neu drosodd

      Gallwch wneud cais am gerdyn yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Siaradwch ag ymgynghorydd i gael rhagor o wybodaeth.
      Sylwch fod cardiau’n cael eu rhoi fesul achos unigol.

       

      Cerdyn Trên i Gyn-filwyr

      Gallwch chi arbed 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o docynnau trên Safonol a Dosbarth Cyntaf ledled Prydain gyda Cherdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr. Ewch i veterans-railcard.co.uk/ i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael y cerdyn hwn.

       

Oes gennych chi gerdyn rheilffordd yn barod? Prynwch eich tocynnau ar-lein heddiw, a manteisiwch ar y gostyngiadau gwych sydd ar gael, yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Gwaith trawsnewid y Metro

50% oddi ar bris tocyn Trafnidiaeth Cymru yn ystod gwaith trawsnewid y Metro:

  • Tudalen Tocyn Trên Rhondda
    • Ymestyn gostyngiad 50% tocyn trên Rhondda

      Er mwyn diolch i’n cwsmeriaid a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu hamynedd drwy gydol y gwaith trawsnewid, byddwn yn ehangu’r cynllun gostyngiad ar docyn Rhondda am 3 mis yn dilyn ail-agor y llinell ym mis Chwefror 2024. Mae’r gostyngiad yn caniatáu i bob teithiwr sy’n teithio ar linell Treherbert dderbyn gostyngiad o 50% ar gost eu tocyn a bydd y gostyngiad ar gael tan ddiwedd mis Mai 2024.

      I gael gostyngiad, bydd angen i deithwyr ddangos eu tocyn Rhondda i oruchwylwr y trên ynghyd â’u tocyn trên.

      Amodau defnyddio

      • Mae Tocyn Trên Rhondda yn cynnig 50% oddi ar Bris Tocyn Safonol gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar deithiau o orsafoedd gan gynnwys Treherbert a Threhafod a rhyngddynt.
      • Rhaid bod gorsafoedd gwreiddiol cwsmeriaid rhwng ac yn cynnwys Treherbert a Threhafod, ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu prawf o gyfeiriad i ddilysu tocynnau.
      • Mae’r tocyn trên yn ddilys tan ddiwedd mis Mai 2024 o’r dyddiad y caiff ei brosesu a dim ond ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar lwybrau lleol y gellir ei ddefnyddio.
      • Mae'r tocyn trên hwn yn berthnasol ar deithiau sy'n gyfan gwbl ar reilffordd Treherbert a theithiau rhwng gorsafoedd ar y rheilffordd a gorsafoedd yr holl ffordd i Gaerdydd Canolog.  Nid yw'r tocyn yn ddilys i deithio o orsafoedd y tu allan i ardal llwybr Treherbert a Threhafod.
      • Rhoddir pob tocyn yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.
      • Ni ellir newid tocyn trên sydd wedi'i golli neu ei ddifrodi.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn ddilys oni bai ei fod wedi'i lofnodi gan y deiliad, ac nid yw ychwaith yn drosglwyddadwy i unrhyw un arall.  Mae tocynnau a brynir gyda cherdyn rheilffordd at ddefnydd deiliad y cerdyn rheilffordd yn unig.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn eiddo i chi ac os gofynnir amdano rhaid ei roi i Trafnidiaeth Cymru.

      Dilysrwydd tocynnau gostyngol

      • Caniateir teithio o fewn dilysrwydd arferol y tocynnau a roddir ar yr amod y cedwir cerdyn rheilffordd dilys ac y gellir ei ddangos ar gais.
      • Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Treherbert yn unig y mae tocynnau gostyngol yn ddilys ac nid ydynt yn ddilys pan ddaw'r cerdyn rheilffordd i ben.
      • Yn ogystal ag amodau'r Cerdyn Rheilffordd, mae Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn berthnasol i unrhyw daith ar rwydwaith y rheilffyrdd.  Lle mae’r NRCoT yn gwrthdaro ag amodau’r Cerdyn Rheilffordd, bydd NRCoT yn diystyru Amodau’r Cerdyn Rheilffordd.  Mae copïau o’r NRCoT ar gael ar-lein yn nationalrail.co.uk/nrcot neu gan staff yn ein gorsafoedd.

      I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Ble i brynu eich cerdyn rheilffordd Trafnidiaeth Cymru

Rydym yn cynnig dewis eang o gardiau rheilffordd disgownt y gellir eu defnyddio ar ein gwasanaethau. Gellir prynu'r rhain o swyddfeydd tocynnau ein gorsafoedd.

Fel arall gallwch brynu eich cerdyn rheilffordd gan ein tîm Rheoli Teithio. Gallwch wneud hyn dros y ffôn gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Rydym hefyd yn derbyn sieciau, ac dylid eu hanfon ynghyd â’ch cais cerdyn rheilffordd, prawf o gyfeiriad ac unrhyw ddogfennau ategol at:

Tîm Rheoli Teithio
Trafnidiaeth Cymru
3 Llys Cadwyn
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y Telerau ac Amodau cyn archebu.

 

Beth os ydw i wedi gadael fy Ngherdyn Rheilffordd gartref?

  • Os nad ydych chi’n gallu dangos Cerdyn Rheilffordd pan fyddwch chi’n prynu tocyn neu pan fydd eich tocyn yn cael ei archwilio, bydd y pris heb ostyngiad yn daladwy fel pe na bai gennych chi docyn neu Gerdyn Rheilffordd.
  • O ganlyniad, ni ellir ad-dalu’r tocynnau hyn heb ostyngiad ond gellir ad-dalu’r rhan heb ei defnyddio o’r tocyn(nau) pris gostyngol - ar ôl tynnu'r ffi am weinyddu’r ad-daliad. Ni ellir ystyried unrhyw geisiadau dilynol neu ychwanegol am ad-daliadau.
  • Ni fydd Cerdyn Rheilffordd yn ddilys os bydd deiliad y cerdyn yn mynd ar unrhyw drên heb docyn pan oedd y swyddfa docynnau ar agor. Yn y sefyllfa hon, dim ond y tocyn Unffordd neu Ddwyffordd Unrhyw Bryd llawn y gall y cwsmer ei brynu ar y trên heb ostyngiad. Bydd plant sy’n teithio gyda chi yn talu am docyn plentyn arferol. Ar drenau talu ar y pryd neu pan fydd y swyddfa docynnau wedi cau, gall cwsmeriaid brynu tocynnau ar y trên am y pris gostyngol priodol. Mewn ardaloedd Tocynnau Cosb, dylai cwsmeriaid brynu trwydded i deithio cyn mynd ar y trên.
  • Rhaid i gwsmeriaid â thocynnau dwyffordd dros gyfnod ddal Cerdyn Rheilffordd dilys drwy gydol y daith yno ac yn ôl.