Telerau ac Amodau

Submitted by content-admin on

1 Telerau ac Amodau

Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio ein gwefan.
Croeso, a diolch am ddefnyddio ein gwefan  www.trc.cymru (y “Wefan”). Mae’r Wefan hon ar gael i chi yn unol â’r telerau a’r amodau canlynol (y "Telerau").
Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Wefan. Bob tro rydych chi’n defnyddio’r Wefan hon rydych chi’n cytuno â’r telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn, ni ddylech chi ddefnyddio ein Gwefan.
Efallai y byddwn ni’n diwygio’r telerau a’r amodau hyn o bryd i’w gilydd. Dylech chi wirio’r dudalen hon i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o’r telerau perthnasol ac yn eu deall.
Diweddarwyd y Telerau hyn ar 28/04/2021.

2 Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

2    Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru (“TrC”, “ni”, “ein”), cwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 09476013, gyda’i swyddfa gofrestredig yn 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH. 

Ar gyfer y telerau hyn, ystyr unrhyw gyfeiriad atoch “chi” neu “eich” yw chi, y defnyddiwr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Telerau hyn, cysylltwch â contact@tfw.wales

An English language version is available here https://tfw.wales/terms-and-conditions

3 Mae yna delerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi a’ch defnydd o’r wefan hon

Bydd y data personol rydych chi’n ei roi i ni ar y Wefan hon yn dod o dan ein Polisi Preifatrwydd. Dylech chi sicrhau eich bod chi’n darllen ein Polisi Preifatrwydd er mwyn deall ein harferion data personol a sut rydyn ni’n prosesu eich data personol.

Mae ein Gwefan hefyd yn defnyddio cwcis, i gael rhagor o wybodaeth am y cwcis sy’n cael eu defnyddio ar y Wefan hon ewch i’n Polisi Cwcis.

4 Archebion a thocynnau

Mae'r Safle yn cynnig gwasanaeth diduedd (y "Gwasanaeth Archebu") sy'n gwerthu pob amrywiad o docynnau sydd ar gael o amgylch Prydain Fawr yn cynrychioli pob Cwmni Gweithredu Trenau. Ar hyn o bryd nid ydym yn cefnogi gwerthu

  • Archebion angorfeydd ar y Gwasanaeth Cysgwyr Caledonian neu
  • Tocynnau Rangers a Rovers.

4.1    Gallwch archebu tocynnau trwy ein Gwefan ar rai tudalennau gan gynnwys https://tocynnau.trc.cymru/ (ar gael trwy hafan y Wefan) neu drwy ein ap sydd ar gael ar yr Apple Store a Google Play Store (y TfW App) (gyda'i gilydd, y “Transactional Pages”).

4.2    Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch prynu tocynnau o’r fath, ad-daliadau neu gansladau atom yn uniongyrchol drwy ein canolfan gymorth (https://tfw.wales/help-center/contact-us). I gael rhagor o wybodaeth am ad-daliadau, gweler ein tudalen ad-daliadau tocynnau (https://tfw.wales/help-centre/tocket-refunds), sy’n cynnwys gwybodaeth gyswllt yn dibynnu ar y math o docyn rydych yn hawlio ad-daliad amdano.

4.3    Mae’n bosibl y bydd telerau ac amodau ychwanegol yn berthnasol i bryniannau tocynnau trên sydd ar gael drwy Ap TrC, yn dibynnu ar y siop app a ddefnyddir i gyrchu Ap TrC. Yn ogystal, gall y ffyrdd y gallwch ddefnyddio ap TrC hefyd gael eu rheoli gan y rheolau a’r polisïau hyn, fel y’u diweddarir o bryd i’w gilydd.
Gellir dod o hyd i delerau ac amodau Apple App Store yma: https://www.apple.com/legal/internet-services/itunes/uk/terms.html
Mae telerau ac amodau siop Google Play i'w gweld yma: https://play.google.com/intl/en-GB_uk/about/play-terms/index.html.

5 Efallai y byddwn ni’n newid ein gwefan, yn gohirio ein gwefan neu’n tynnu ein gwefan yn ôl

Rydyn ni’n datblygu’n trwy’r adeg ynghyd â’n gwefan. Efallai y byddwn ni’n diweddaru, yn atal neu’n tynnu’r Wefan hon yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd i adlewyrchu newidiadau i’n gwasanaethau, anghenion ein defnyddwyr a’n blaenoriaethau o ran ein busnes. Byddwn ni’n ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw ataliad dros dro neu dynnu’n ôl.

Nid ydyn ni’n gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, ar gael bob amser nac yn ddi-dor. Ni fyddwn yn gyfrifol os nad yw’n gwefan ar gael am unrhyw reswm ar unrhyw adeg nac am unrhyw gyfnod o amser.

6 Efallai y byddwn ni’n trosglwyddo’r cytundeb hwn i rywun arall

Efallai y byddwn ni’n trosglwyddo ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y telerau hyn i sefydliad arall. Byddwn ni wastad yn rhoi gwybod i chi ar bapur os bydd hyn yn digwydd a byddwn ni’n sicrhau na fydd y trosglwyddiad yn effeithio ar eich hawliau o dan y telerau hyn.

7 Peidiwch â dibynnu ar yr wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon

Credwn fod popeth ar ein gwefan yn gywir, ond allwn ni ddim gwarantu hyn bob amser.
7.1    Mae’r wefan hon yn cael ei darparu ar sail "FEL AC Y MAE" a "BETH SYDD AR GAEL". Nid ydyn ni’n rhoi gwarant o unrhyw fath o ran gweithrediad y wefan hon na’r wybodaeth, y cynnwys neu’r deunyddiau y sydd wedi’u cynnwys arni.
7.2    Mae cynnwys ein Gwefan ar gael at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid ei fwriad yw rhoi cyngor y dylech chi ddibynnu arno.
7.3    Rydyn ni’n eich annog i wirio a dilysu’r holl amseroedd trenau yn yr orsaf. Er ein bod ni’n gwneud pob ymdrech i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, nid yw hyn bob amser yn bosib, ac nid ydym yn gwneud unrhyw warantau bod cynnwys ein gwefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.
7.4    Mae cyfrifoldeb arnoch chi i wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen er mwyn i chi gael mynediad at y Wefan hon.. Yn ogystal, mae cyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau bod pob unigolyn sy’n cael mynediad at ein gwefan trwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn ac unrhyw delerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

8 Mae ein gwefan ar gyfer defnyddwyr yn y DU yn unig

Nid ydyn ni’n gweithredu y tu allan i’r Deyrnas Unedig
8.1    Mae ein gwefan ar gyfer pobl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig. Nid yw’r cynnwys sydd ar gael ar y Wefan yn addas i’w ddefnyddio mewn lleoliadau eraill na fod ar gael mewn lleoliadau eraill.
8.2    Efallai y byddwn ni’n cyfyngu ar argaeledd y Wefan hon neu unrhyw wasanaeth neu gynnyrch sydd arni i unigolyn neu ardal ddaearyddol ar unrhyw adeg. Os byddwch chi yn dewis cael mynediad at ein gwefan o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, rydych chi’n gwneud hynny ar eich menter eich hun.

9 Mae’n rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel

Mae’n rhaid i chi gadw eich cyfrinair yn gyfrinachol a chi sy’n gyfrifol am unrhyw weithredoedd a gyflawnir o dan eich enw defnyddiwr chi.
9.1    Os dewiswch chi, neu os derbyniwch chi enw defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth arall fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech chi ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti.
9.2    Chi fydd yn gyfrifol am bob gweithgaredd a phob archeb o dan eich enw defnyddiwr a/neu eich cyfrinair.
9.3    Mae gennyn ni’r hawl i analluogi, canslo neu ofyn i chi newid eich enw defnyddiwr neu’ch cyfrinair, os cawson nhw eu dewis gennych chi neu eu rhoi i chi gennym ni, ar unrhyw adeg, os yw’n debygol o achosi tor-ddiogelwch neu gamddefnyddio ein gwefan, neu os ydych chi wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau hyn.
9.4    Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod unrhyw un yn gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu eich cyfrinair, mae’n rhaid i chi ein hysbysu ni’n brydlon trwy  contact@tfw.wales. Byddem ni hefyd yn awgrymu eich bod chi’n newid eich cyfrinair ar unwaith trwy ein gwefan.

10 Sut gallwch chi ddefnyddio’r deunyddiau ar ein gwefan

Mae’r adran hon yn esbonio’r hawliau’n gysylltiedig â’r lluniau, y dyluniadau a’r cynnwys arall ar ein gwefan
10.1    Ni sy’n berchen neu’n drwyddedai ar bob hawl eiddo deallusol a’r deunydd a gyhoeddir ar ein Gwefan. Mae’r gweithiau hynny wedi’u diogelu gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint o amgylch y byd. Cedwir pob hawl.
10.2    Ni chewch addasu, newid, cyfieithu, paratoi gweithiau, dadgrynhoi, gwrthgynllunio, dadosod neu geisio codi cod ffynhonnell o’n Gwefan.
10.3    Fe gewch chi argraffu un copi, a llwytho darnau i lawr, o unrhyw dudalen ar ein Gwefan at eich defnydd personol ac fe gewch chi dynnu sylw pobl eraill yn eich sefydliad at gynnwys a bostiwyd ar ein Gwefan.
10.4    Ni chewch chi addasu copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu llwytho i lawr mewn unrhyw ffordd, ac ni chewch chi ddefnyddio unrhyw ddarluniadau, ffotograffau, fideos neu sain nac unrhyw graffeg ar wahân i’r testun.
10.5    Mae’n rhaid rhoi cydnabyddiaeth i’n statws (a statws unrhyw gyfranwyr eraill) fel awduron y cynnwys ar ein gwefan bob amser.
10.6    Ni chewch chi ddefnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb dderbyn trwydded i wneud hynny gennym ni neu gan ein trwyddedwyr.
10.7    Rydyn ni yn parchu hawliau eiddo deallusol pobl eraill a gofynnwn i’n defnyddwyr wneud yr un peth. Os ydych chi’n ymwybodol bod unrhyw hawliau eiddo deallusol wedi’u torri ar ein gwefan, cysylltwch â ni i adrodd eich pryder.

11 Mae ein nodau masnach wedi’u cofrestru

Peidiwch â defnyddio’r nodau masnach a ddefnyddir ar y wefan heb ofyn.
11.1    Efallai y bydd y Wefan yn cynnwys nodau masnach cofrestredig Trafnidiaeth Cymru yn y DU, yn ogystal â nodau masnach y mae trydydd partïon wedi rhoi trwydded i ni eu defnyddio. 
11.2    Mae’r nodau masnach hyn yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i) yr enw “Trafnidiaeth Cymru” a logo Trafnidiaeth Cymru. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein caniatâd ni, neu ganiatâd perchennog y nod masnach, oni bai eu bod yn rhan o ddeunydd rydych yn ei ddefnyddio o dan adran 10 uchod. 

12 Ein cyfrifoldeb dros golled neu ddifrod a achosit i chi

Nid oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol dros unrhyw beth sy’n codi o ganlyniad i ddefnyddio ein gwefan lle y mae’n gyfreithlon i chi wneud hynny.
12.1    Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein cyfrifoldeb i chi lle y byddai’n anghyfreithlon i ni wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am farwolaeth neu anaf personol a achoswyd o ganlyniad i’n hesgeulustod ni neu esgeulustod ein cyflogwyr, ein hasiantwyr neu ein hisgontractwyr ac am dwyll neu gamliwiad twyllodrus.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr busnes:
12.2    Rydyn ni’n eithrio pob amod, gwarantiad, cynrychiolaeth neu dermau goblygedig eraill a allai fod yn berthnasol i’n gwefan neu i unrhyw gynnwys sydd arni.
12.3    Ni fyddwn ni’n cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol nac unrhyw ddifrod arall o unrhyw fath boed yn seiliedig ar warantiad, contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), hyd yn oed os yn rhagweladwy, sy’n codi o ganlyniad i, neu sy’n gysylltiedig â:
(a)    defnyddio, neu anallu i ddefnyddio, ein gwefan; neu
(b)    defnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys sydd ar ein gwefan.
(c)    Yn benodol, ni fyddwn ni’n gyfrifol am:
(i)    colli elw, gwerthiant, busnes, neu refeniw;
(ii)    torri ar draws busnes;
(iii)    colli arbedion a ragwelir; neu
(iv)    colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr:
12.4    Sylwch mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat y byddwn yn darparu ein gwefan i chi. Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac ni fyddwn ni’n gyfrifol am unrhyw golled o ran elw, colli busnes, torri ar draws busnes na cholli cyfle busnes, fel y disgrifir uchod.
12.5    Os bydd cynnwys digidol diffygiol rydyn ni wedi’i ddarparu yn difrodi dyfais neu gynnwys digidol sy’n eiddo i chi a bod hyn yn cael ei achosi gan ein methiant i ddefnyddio sgiliau a gofal rhesymol, byddwn ni naill ai’n atgyweirio’r difrod neu’n talu iawndal i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn ni’n gyfrifol am unrhyw ddifrod y gallech chi fod wedi’i osgoi drwy ddilyn y cyngor a nodir yn y Telerau hyn neu mewn mannau eraill ar y Wefan, fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) bod yn ofalus  wrth ddefnyddio dolenni trydydd parti.

13 Rheolau ynglŷn â chysylltu â’n gwefan

Ychydig o reolau ar gyfer cysylltu â’n gwefan.
13.1    Fe gewch chi gysylltu â’n gwefan (ond nid ei hatgynhyrchu mewn unrhyw ffordd) ar yr amod eich bod chi’n gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon sydd ddim yn difrodi ein henw da neu’n cymryd mantais ohono. Mae cysylltu â’n gwefan yn dangos eich bod yn derbyn y telerau hyn. Peidiwch â chysylltu â’n gwefan os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau hyn nac yn eu derbyn.
13.2    Chewch chi ddim sefydlu cysylltiad mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gyswllt neu gymeradwyaeth gennym ni pan nad yw’n bodoli.
13.3    Chewch chi ddim sefydlu cysylltiad â’n gwefan ar unrhyw wefan arall nad ydych chi’n berchen arni.
13.4    Chewch chi ddim fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, a chewch chi ddim creu dolen i unrhyw ran o’n gwefan ar wahân i’r dudalen hafan.
13.5    Rydyn ni’n cadw pob hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.
13.6    Os hoffech chi greu dolen neu ddefnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefan, ac eithrio’r hyn a nodwyd uchod, cysylltwch â ni ar:  contact@tfw.wales.

14 Nid ydym yn gyfrifol am y gwefannau rydym yn cysylltu â nhw

Efallai y byddwn ni’n cysylltu â gwefannau eraill, ond nid oes gennym unrhyw reolaeth dros yr hyn y maen nhw’n ei wneud.
14.1 Pan fydd ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sy’n cael eu darparu gan drydydd partïon, bydd y dolenni hyn yn cael eu darparu er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli’r dolenni hyn fel cymeradwyaeth o’r gwefannau hynny na’r wybodaeth sydd i’w chael arnynt. Rydyn ni’n eich annog i adolygu telerau ac amodau a pholisi preifatrwydd unrhyw wefannau trydydd parti y byddwch chi’n cysylltu â nhw trwy’r wefan hon.

15 Nid ydym yn gyfrifol am firysau

Mae gan bawb gyfrifoldeb dros seiberddiogelwch
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel neu ei fod heb fygiau neu firysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan i gael mynediad at ein Gwefan. Dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd gwarchod rhag firysau eich hun.
15.2    Chewch chi ddim camddefnyddio ein Gwefan trwy gyflwyno firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Chewch chi ddim ceisio cael mynediad anawdurdodedig at ein Gwefan, at y gweinydd y mae ein gwefan wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Chewch chi ddim ymosod ar ein Gwefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth nac ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig. Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech chi’n cyflawni troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni’n riportio unrhyw dor-cyfraith i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithio â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Yn achos unrhyw doriad, caiff eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan ei dileu ar unwaith.

16 Cyfraith lywodraethol

Clywir unrhyw anghydfodau rhyngom ni a defnyddiwr busnes yng Nghymru a Lloegr 
Efallai y bydd unrhyw anghydfod rhyngom ni a defnyddiwr yn y DU gael ei glywed yn y wlad lle mae’r defnyddiwr yn byw (naill ai yng Nghymru a Lloegr, yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon).

16.1    Mae eich defnydd o’r Wefan, y Telerau hyn ac unrhyw anghydfod sy’n codi mewn cysylltiad â hwy yn destun i gyfreithiau Cymru a Lloegr. Os bydd unrhyw anghydfod, rydych chi’n cytuno i ildio i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr (oni bai eich bod yn ddefnyddiwr sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, ac os felly cewch ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr Alban yn y drefn honno).

17 Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Telerau hyn, cysylltwch â ni ar: contact@tfw.wales.