Teithio ar y funud olaf

Mwynhewch ein tocynnau Advance pellter hir am bris isel, sydd nawr ar werth ar y dyddiad teithio

Fel arfer, y cyntaf i’r felin gaiff falu, ond nawr gall pawb fanteisio ar y fargen orau wrth brynu tocynnau. Rydym nawr yn cynnig ein tocynnau Advance pellter hir am bris isel ar y dyddiad teithio, felly nid oes angen archebu tocyn o flaen llaw i gael y fargen orau. Y tro nesaf i chi drefnu taith funud olaf, byddwch yn gwybod y byddwch yn cael y tocyn rhataf posib.

Mae tocynnau yn amodol ar faint sydd ar gael ac yn amrywio gyda phob gwasanaeth. Mae tocynnau ar gael hyd at 5 munud cyn i'ch trên dewisol adael ei orsaf darddiad. Ni ellir prynu tocynnau trwy Beiriannau Gwerthu Tocynnau nac ar ein trenau ond gellir eu prynu trwy ap neu wefan TrC yn ogystal â’u phrynu o’r swyddfeydd docynnau yn ein gorsafoedd.

Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi ledaenu taliadau dros 3 rhandaliad gyda Paypal Pay in 3 os ydych chi'n gwario dros £30. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar y sgrin talu.

 

Telerau ac Amodau

Tocynnau Advance sy’n cynnig y fargen orau ar gyfer teithiau hirach. Maent ar gael i’w prynu 12 wythnos o flaen llaw. Prynwch cyn y dyddiad teithio am y fargen orau. Tocynnau unffordd yw’r tocynnau Advance, ac maent ar gael ar gyfer gwasanaethau Safonol a gwasanaethau Dosbarth Cyntaf. Ewch i trc.cymru/advance am y telerau a’r amodau llawn ar docynnau Advance.