Mae ein tîm rheoli teithiau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer i annog ysgolion a cholegau i brynu Tocynnau Tymor ar ran eu myfyrwyr.

Rydyn ni'n cynnig y modd i brynu tocynnau Tymor Addysgol mewn swmp, sy'n galluogi sefydliadau addysgol i gael disgownt ar bris sydd eisoes wedi ei ostwng ar docyn Tymor Blynyddol, fel ei bod yn haws o lawer i fyfyrwyr fynd yn ôl ac ymlaen i'w Hysgol neu Goleg yn ystod y tymor.

Gellir archebu ein tocynnau Tymor Addysgol naill ai ar gyfer y flwyddyn academaidd, neu ar gyfer pob tymor unigol yn unol â gofynion eich sefydliad addysgol.

Gyda thocyn Tymor Addysgol, mae myfyrwyr yn cael:

  • Arbedion o hyd at 75% o’i gymharu â chost tocyn Diwrnod Unffordd Safonol i oedolion, o’i brynu drwy ein tîm rheoli teithiau
  • Gall myfyrwyr deithio faint bynnag a ddymunant rhwng y ddwy orsaf o’u dewis, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos - gan gynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a phenwythnosau
  • Ffordd fwy gwyrdd o deithio o’i gymharu â’r car

 

Gostyngiadau ar docynnau Tymor Addysgol

Cyfnod tocyn tymor Cyfyngiadau oedran Disgownt
Blynyddol O dan 18 oed 75% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol
Blynyddol 18 oed 25% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol
Blynyddol Dros 18 oed 5% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol
Bob tymor O dan 18 oed 55% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol
Bob tymor Dros 18 oed 5% oddi ar gost tocyn Tymor Blynyddol

Rhaid i archebion gael eu rhoi gan y sefydliad addysgol a fydd hefyd yn cael cais i ymrwymo i god ymddygiad TrC (a fydd yn caniatáu i’r cynnig gael ei dynnu’n ôl mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol).