Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o docynnau sy’n rhoi cyfle i dwristiaid neu ymwelwyr â Chymru deithio ar draws ein rhwydwaith dros gyfnod o amser am gost isel.

Mae ein Pasys Crwydro ar gael i’w harchebu a’u postio yn y Deyrnas Unedig ac yn Rhyngwladol drwy ein tîm pwrpasol. Mae angen o leiaf 7 diwrnod ar gyfer dosbarthu yn y Deyrnas Unedig cyn teithio, a 14 diwrnod ar gyfer dosbarthu i Ewrop ac ar draws y byd.


Pas Crwydro Cymru

Mae ein Pas Crwydro Cymru yn ddilys ar gyfer pedwar diwrnod o deithio o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar drenau Trafnidiaeth Cymru ac ar weithredwyr bysiau dethol.

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Pas Crwydro Cymru £104 £52 £68.60

Prisiau’n ddilys ar y dyddiad cyhoeddi, Tachwedd 2023. Cyn belled â bod tocynnau ar gael. Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol. Gallwch arbed mwy gyda Chardiau Rheilffordd i Bobl Anabl neu Bobl Hŷn, 16-25 oed neu Dau gyda’i Gilydd.

Rydyn ni hefyd yn cynnig pasys rhanbarthol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i trc.cymru/rover-a-rangers neu cysylltwch â’n tîm pwrpasol a gallant drafod y dewisiadau gorau i chi neu eich cleientiaid.

Angen cysylltu â ni?

08448 560 688

O gynllunio teithiau a gwybodaeth am docynnau, gallwn ni helpu.

tms@tfwrail.wales

Rydym yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00.