Y daith sy’n bwysig, nid y gyrchfan.

Drwy bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Stena Line, gallwch chi fwynhau taith gyffrous i Iwerddon a gadael y car gartref.

Mae Rheilhwylio yn docyn cyfun y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer teithio ar drên ac ar fferi fel teithiwr ar droed.

Mae’r gwasanaeth ar gael o Gaergybi i Ddulyn ac o Abergwaun i Rosslare ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

 

A view from onboard the Stena Line ferry

Abergwaun i Rosslare

Fel rhan o’r tocyn Rheilhwylio, gall cwsmeriaid gysylltu â thrên i Harbwr Abergwaun o Abertawe am 10:58 (mae’n bosib y bydd yr amseroedd yn newid, felly gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio).

Mae modd prynu tocynnau mewn swyddfeydd tocynnau neu ar wefan TrC, a dewis “Rosslare Europort” fel eich cyrchfan.

Mae modd prynu tocynnau unffordd am gyn lleied â £42.70 (mae’n bosibl y bydd y pris yn newid).

Mae trenau’n cymryd tua 1.5 awr o Abertawe neu rhwng 2.5 a 3 awr os ydych chi’n teithio o Gaerdydd ac yn cysylltu.

Mae’r daith gychwynnol yn eich hebrwng drwy aberoedd godidog Llwchwr a Phorth Tywyn wrth i’r trên wneud ei ffordd drwy gefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac ar draws Sir Benfro tuag at yr arfordir er mwyn cyrraedd y gyrchfan erbyn tua 12:30 – mewn da bryd ar gyfer y fferi sy’n gadael 14:00.

I deithwyr sy’n chwilio am wyliau mwy egnïol, gallwch chi ddod â’ch beic ar y trên ac ar y fferi, ac mae’n syniad i chi archebu lle i’ch beic am ddim ymlaen llaw. Gallwch chi hefyd ddod ag anifeiliaid anwes gyda chi, sy’n golygu y gallwch chi arbed arian ar gostau teithio a mwynhau teithiau cerdded hyfryd yng nghefn gwlad Iwerddon gyda’ch ci.

Fel rheol, mae’r daith ar y fferi yn cymryd rhwng 3 awr 30 munud a 4 awr, gan ddibynnu ar y llanw.

Gan hwylio ar fferi gyfforddus, gallwch chi wylio arfordir Sir Benfro yn diflannu o’r golwg gyda diod yn eich llaw wrth i chi gychwyn ar eich antur Wyddelig.

Gyda nifer o fariau, bwyty, ardal chwarae meddal, sinema, lolfa deledu a siop ddi-doll, mae digon o bethau ar gael i’ch cadw chi’n brysur ar hyd y daith.

Mae mynd ar y fferi a gallu cerdded o gwmpas fel ag y dymunwch yn llawer iawn gwell na gorfod eistedd mewn awyren am oriau.

I’r rhai sy’n dymuno cael profiad mwy moethus, mae Stena hefyd yn cynnig sawl profiad gwahanol yn y Lolfa a gallwch chi hefyd archebu caban os hoffech chi orffwys cyn rhan nesaf eich antur.

O fis Gorffennaf 2023 ymlaen, Stena Nordica fydd yn gwasanaethu’r llwybr.

 

Pan fyddwch yn dod oddi ar y cwch

Ar ôl cyrraedd terfynfa Rosslare bydd teithwyr ar droed yn cael eu cludo ar fws gwennol i’r derfynfa lle gallwch chi ddal bysiau i drefi cyfagos sy’n cynnwys Wexford, Waterford, Corc a Limerick.

Mae bysiau’n costio tua £6.50 i Wexford ac £20 i Waterford.

Neu gallwch gerdded ychydig i ddal trên o orsaf Rosslare Europort i Wexford, Wicklow neu Ddulyn.

Mae taith ddwyffordd agored i Ddulyn yn costio tua £31.50.

 

Waterford centre on a sunny day

Gair am Waterford

Mae Waterford yn gyrchfan wych i deuluoedd dreulio penwythnos. Gallwch chi ddal bws yno o Rosslare a bydd y daith yn cymryd ychydig dros awr.

Mae’r dref fywiog ar lan afon hyfryd Suir ac mae’n llawn gwestai, bariau a bwytai i’w mwynhau. Dyma ddinas hynaf Iwerddon ac mae’r ardal yn gyforiog o hanes gydag amgueddfeydd ac orielau i’w crwydro, heb sôn am brofiad enwog Waterford Crystal. Ar bob stryd bron ceir plac glas sy’n adlewyrchu’r bobl a’r lleoedd sydd wedi ffurfio rhan o’i hunaniaeth.

Mae hi’n dref fodern hefyd, gyda cherddoriaeth fyw yn y rhan fwyaf o fariau ar benwythnosau. Mae waliau’r dref wedi cael eu gweddnewid dros y blynyddoedd diwethaf gyda murluniau hardd yn ychwanegu lliw i adlewyrchu naws gadarnhaol y lle.

A lake at Greenway

I’r rhai sy’n chwilio am brofiad mwy egnïol, mae modd llogi beiciau am ddim ond £25 y dydd. Gallwch wedyn grwydro Waterford Greenway, rhan o’r hen reilffordd i Gorc. Mae’r llwybr yn troelli ar odreon Mynyddoedd Comeragh ac yn mynd ymlaen i dref harbwr hyfryd Dungarvan. Gallwch chi gerdded rhan o’r ffordd, beicio i’r ddau gyfeiriad neu feicio un ffordd a chael y bws yn ôl i Waterford o Dungarvan.

Suir Valley heritage line

Dyma gartref Waterford Suir Valley Railway hefyd, sef trên stêm rheilffordd gul y bydd plant yn dotio arno.

Mae modd defnyddio Waterford fel canolfan ar gyfer gwyliau hirach hefyd gan fod bysiau yn cysylltu â Chorc a Limerick, a threnau’n cysylltu â Dulyn, Limerick a Tipperary ymysg llefydd eraill.

Felly, os ydych chi’n teithio draw am ychydig o nosweithiau neu am wyliau hirach, beth am adael y car gartref a gadael i’r trên, y fferi a’r bws wneud y gwaith ar eich rhan?

I’ch atgoffa, mae modd prynu tocynnau mewn swyddfeydd tocynnau neu ar wefan TrC, a dewis “Rosslare Europort” fel eich cyrchfan.