Rydyn ni’n gwybod bod gwybodaeth am sut mae ein trenau’n rhedeg yn bwysig, yn enwedig yn ystod achosion o darfu.
Os ydyn ni’n darparu gwybodaeth o safon yn brydlon, gallwch chi fynd ati wedyn i ddewis sut rydych chi’n mynd i deithio.
Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cynhyrchu Cod Ymarfer Cymeradwy sy’n nodi canllawiau ac arfer da wrth ddarparu gwybodaeth yn ystod achosion o darfu. Rydyn ni’n defnyddio’r Cod Ymarfer hwn fel fframwaith i ddarparu gwybodaeth brydlon, gywir a chyson. Mae hefyd yn sail i’n Cynllun Lleol ar gyfer Gwybodaeth i Deithwyr Yn Ystod Achosion o Darfu .
Gwybodaeth am Achosion o Darfu
Rydyn ni’n gyson yn un o’r cwmnïau trenau sy’n perfformio orau ym Mhrydain Fawr am redeg trenau ar amser. Ond gall tywydd garw, gwaith ar y cledrau a’r signalau a gwaith cynnal a chadw trenau effeithio ar ba mor dda rydyn ni’n perfformio. Felly rydyn ni wedi datblygu canllaw ‘Y Cyntaf i Glywed’ i sicrhau eich bod chi bob amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Y Cyntaf i Glywed
Pum Ffordd o Wirio Amseroedd Trenau
- 1. Ewch i’n Gwefan
- a. Gallwch gael cipolwg o’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer pob un o’n rheilffyrdd ar ein hafan.
- b. Gallwch weld manylion y gwaith sydd ar y gweill i wella’r cledrau a’r signalau.
- c. Dylech gynllunio eich taith hyd at 12 wythnos ymlaen llaw gyda’n cynllunydd teithiau ar-lein.
- d. Defnyddiwch ein hadnodd Journey Check i gael statws eich trên yn fyw cyn cychwyn ar eich taith.
- e. Cofiwch lawrlwytho ein ap symudol defnyddiol i gael gwybodaeth fyw am drenau yn eich poced.
- 2. Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr
Mae ein cylchlythyr e-bost rheolaidd yn rhoi gwybodaeth am waith sydd ar y gweill i wella'r cledrau a’r signalau. - 3. Y diweddaraf yn fyw
Gallwch gael y diweddaraf am eich taith yn fyw drwy e-bost gyda’n Hadnodd Journey Check. - 4. Dilynwch ni ar Twitter
Dilynwch ein tîm yn fyw yn @TfWrail. - 5. Edrychwch ar bosteri yn yr orsaf
Edrychwch ar ein posteri gwybodaeth yn eich gorsaf leol am fanylion y newidiadau i amseroedd trenau a allai effeithio ar eich teithiau chi yn y dyfodol.
Os hoffech gael gwybodaeth am yr holl wasanaethau trenau ym Mhrydain Fawr, ffoniwch National Rail Enquiries ar 03457 48 49 50 neu ewch i’r wefan:nationalrail.co.uk.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Rhowch gynnig arni