Llwybrau trên a bws

Edrychwch ar bob cyrchfan y gallwn ni fynd â chi, boed yn daith leol neu ymhellach i ffwrdd.

Edrychwch ar ein mapiau rhwydwaith, eu llwytho i lawr a’u hargraffu i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw a dewis llwybr sy’n gweithio i chi.

 

Map rhwydwaith cenedlaethol 

Mae’r map isod yn dangos yr holl brif orsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Fel y pwynt cyswllt cyntaf o ran teithio ar drenau yng Nghymru, mae ein rhwydwaith yn cwmpasu’r holl brif ardaloedd. Gallwn ni fynd â chi o A i B, p’un ai ydych chi’n byw yng Nghymru neu’n ymweld â hi.

Mae’r map yn ddelfrydol os ydych chi’n awyddus i weld popeth sydd gan Gymru i’w gynnig. Gallwch chi gael popeth sydd ei angen arnoch chi o’n map rhwydwaith i gynllunio eich taith bersonol.

Map o rwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gydag allwedd

Map rhwydwaith cenedlaethol | Agor ar ffurf PDF

 

Map rhwydwaith Llinellau’r Cymoedd

Gall ein map o rwydwaith Llinellau’r Cymoedd eich helpu i gynllunio eich taith yng nghymoedd hardd De Cymru. Mae’r rhanbarth glofaol hanesyddol hwn bellach yn hafan i fyd natur gyda golygfeydd godidog a chysylltiadau rheilffordd rhagorol. O’r trên, beth am barhau â’ch taith ar feic neu ar droed?

Ddim yn siŵr ble rydych chi eisiau mynd yng Nghymru a’r cyffiniau? Gallwn ni helpu - cynlluniwch eich taith o’r dechrau i’r diwedd ar ein gwefan. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cychwyn ar eich antur Gymreig ar y trên.

Map o reilffyrdd y cymoedd Trafnidiaeth Cymru (TrC)

Map rhwydwaith Llinellau’r Cymoedd | Agor ar ffurf PDF