Gwaith Trawsnewid y Metro: newidiadau i wasanaethau trên
Sut mae hyn yn effeithio ar eich teithiau
Tra byddwn yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwell dros y blynyddoedd nesaf, fe all olygu newid dros dro i’ch teithiau. Lle bo'n bosibl rydyn ni’n trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ac rydym yn cynnig cysylltiadau didrafferth rhwng y gwasanaethau trên a bysiau.
Mae amserlenni’n cael eu diweddaru’n wythnosol oherwydd y coronafeirws. Gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio.
Diweddarwyd ddiwethaf: 06 Ionawr 2021
Gwaith trawsnewid y Metro: Cam un
Gwaith ar Fetro De Cymru i fynd rhagddo yn y flwyddyn newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau gweddnewidiol ar gyfer Metro De Cymru ddechrau 2021.
03 Awst – Mai 2021
Bydd rhan enfawr o’r cam hwn yn dechrau ddydd Llun 3 Awst 2020 gyda gwaith gwella ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr o orsaf Radur ymlaen.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn hwyr y nos a dros nos rhwng nos Sul a nos Iau yn ystod y cyfnod hwn, a byddwn yn cau’r rhan hon o’r rhwydwaith rhwng 2000 a 0500.
- Bydd bysiau yn rhedeg yn lle'r trenau i’n cyfnewidfa fysiau / trenau yng ngorsaf Radur ac oddi yno.
- Bydd yr amserlen trenau arferol yn parhau i redeg rhwng Caerdydd Canolog a Radur tan ddiwedd y gwasanaeth.
- Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau trenau cynnar yn y bore a bydd y rhain yn rhedeg fel arfer.
Teithio – Cwestiynau Cyffredin
Pa waith fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?
Y bwriad yw ymgymryd â phecyn cyfan o waith, gan gynnwys gwaith ar y cledrau a’r signalau yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol.
Gwybodaeth am y Metro yma.
Pryd fydd yr amserlenni diwygiedig ar gael ar y systemau archebu ar-lein?
Yn sgil y Coronafeirws, rydym yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd a bydd amserlenni trenau yn cael eu llwytho i fyny i’r systemau archebu tocynnau ar-lein wythnos ymlaen llaw. Cofiwch fwrw golwg ar eich taith cyn teithio. Bydd amserlenni bysiau diwygiedig yn cael eu harddangos yn eich gorsaf leol o ddechrau mis Gorffennaf.
Cofiwch fod ein holl wasanaethau trên ar gyfer gweithwyr allweddol a theithio hanfodol yn unig ar hyn o bryd. Mae ein cyngor diweddaraf ynghylch teithio ar drenau yma
Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd cyfnewidfa gorsaf Radur?
Bydd gorsaf Radur yn gweithredu fel y brif gyfnewidfa rhwng y gwasanaethau trenau a bysiau. Bydd timau gwasanaeth cwsmeriaid ar gael yng ngorsaf Radur i gyfeirio'r cwsmeriaid i’r gyfnewidfa ac ohoni yn y maes parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth ffordd wedi cael ei threfnu i gyd-fynd â'r gwasanaethau trên fel nad oes yn rhaid i chi ddisgwyl yn rhy hir.
Ble fyddaf i’n cael fy nghasglu neu fy ngollwng yn fy ngorsaf leol?
Mae’r rhan fwyaf o bwyntiau casglu / gollwng y gwasanaethau bysiau y tu allan i’r orsaf. Bydd digon o arwyddion ond gallwch ddod o hyd i’r lle i chi fynd i ddal y bysiau fydd yn rhedeg yn lle'r trenau yma (dewiswch eich gorsaf yna Gwybodaeth Maes Parcio) neu ar y Poster Gwybodaeth Ddefnyddiol yn eich gorsaf.
Fel arfer rwy'n mynd â beic ar y trên am fy mod ei angen i barhau â'm taith – oes modd i mi fynd â’m beic ar y bws?
Fel arfer ni chaniateir mynd â beic ar wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ond lle bo modd gellir mynd â’ch beic yn ddibynnol ar ddisgresiwn y gyrrwr a’r lle sydd ar gael. Chi fydd yn gyfrifol am eich beic ar ein gwasanaethau bysiau, ac ni all Trafnidiaeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod.
Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?
Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.
Alla’ i fynd â phram ar y gwasanaeth bysiau?
Caniateir pramiau, ond gofynnwn i chi eu plygu cyn mynd ar y bws
Faint o amser ychwanegol fydd mynd ar y bws yn ychwanegu at fy nhaith?
I gael yr union amseroedd, bydd yn rhaid i chi edrych ar eich teithiau penodol, ond dyma ganllaw ar gyfer rhai teithiau allweddol. Mae’r rhain yn seiliedig ar amseroedd ar gyfartaledd ar gyfer yr adeg y teithir gyda’r nos.
Llwybr | Amcan o amseroedd gwasanaethu bysiau |
Radur - Pontypridd | 00:35 awr |
Radur - Merthyr Tudful | 01:20 awr |
Radur - Aberdâr | 01:20 awr |
Radur – Treherbert | 01:25 awr |
Alla’ i brynu tocyn ar y bws?
Nid oes cyfleusterau i brynu tocynnau ar y bysiau. Mae’n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y bws o’ch swyddfa docynnau lleol, peiriannau tocynnau, ar-lein gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau neu ein ap.
Rwy’n defnyddio cadair olwyn, alla’ i ddefnyddio'r gwasanaeth bws sy'n rhedeg yn lle'r trenau?
Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn am fod lloriau llwytho isel. I gael cyngor ac i drefnu cymorth ymlaen llaw, ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501
Gwaith Gwella yn y Dyfodol
I gael gwybod am y gwaith gwella ar draws ein rhwydwaith a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Rhowch gynnig arni