Oes gennych chi docyn dilys ar gyfer eich taith?

Mae Arolygwyr Diogelu Refeniw yn patrolio ein rhwydwaith yn rheolaidd yn gwirio ticedi. Mae’n rhaid i chi brynu tocyn dilys ar gyfer eich taith cyn mynd ar y trên - dyna’r gyfraith. Os nad ydych yn gwneud hynny, gallech chi gael eich erlyn a chael hyd at £1000 o ddirwy.

Nid yn unig ei bod yn deg i bawb, ond mae’r gyfraith yn mynnu bod rhaid i bawb gael tocyn dilys ar gyfer eu taith. Fel sefydliad nid-er-elw, mae Trafnidiaeth Cymru yn ail-fuddsoddi arian o refeniw tocynnau yn ôl i’n rhwydwaith, gan helpu i ariannu trenau newydd a gwella gorsafoedd ar gyfer ein cymunedau lleol.

Yn anffodus, nid yw pawb yn cadw at y rheolau. Felly, er mwyn diogelu ein refeniw tocynnau, rydyn ni’n cyflogi Transport Investigations Ltd (TIL) i reoli ein proses diogelu refeniw drwy ddarparu timau o Arolygwyr Diogelu Refeniw. Byddan nhw’n gwirio tocynnau mewn gorsafoedd ac ar drenau a gallan nhw fod mewn iwnifform neu mewn dillad arferol gyda dull adnabod.

 

Prynnu cyn teithio

Fel y rhan fwyaf o gwmnïau trenau ledled y DU, rydyn ni’n gweithredu polisi Prynu Cyn Teithio.

Pan fyddwch chi’n dechrau ar eich taith mewn gorsaf lle mae cyfleusterau prynu tocynnau ar gael, eich cyfrifoldeb chi yw prynu neu actifadu tocyn dilys ar gyfer eich taith cyn mynd ar y trên.

Os na fyddwch yn gwneud hynny heb reswm eithriadol, nid yn unig y gallech golli cyfle i gael tocynnau’n rhatach, ond gallech hefyd fod yn agored i gosb neu hyd yn oed gael eich erlyn, gyda dirwyon o hyd at £1000. Mae system tocynnau cosb ar waith ar gyfer teithiau rhwng gorsafoedd Amwythig a Birmingham International.

 

Mae yna lawer o ffyrdd i brynu'ch tocyn cyn mynd ar y trên

Gallwch weld manylion cyfleusterau prynu tocynnau, gan gynnwys oriau agor swyddfeydd tocynnau a pheiriannau tocynnau hunanwasanaeth yma.

 

 
  • Ein proses amddiffyn refeniw
    • Rydych chi wedi cael eich dal gan Arolygwr Diogelu Refeniw am deithio heb docyn dilys - beth sy’n digwydd nesaf?

      • Egwyddor sylfaenol ein Polisi Diogelu Refeniw yw gwahaniaethu rhwng cwsmeriaid sy’n gwneud camgymeriad diniwed a’r rheini sy’n mynd ati’n fwriadol i deithio heb docyn dilys.
      • Mae gennym ni broses amddiffyn refeniw sydd wedi ei chynllunio i ganfod y rhai sy’n troseddu’n rheolaidd neu’r rhai sydd wedi cyflawni twyll ar bwrpas.

       

      A gawsoch chi gyfle i brynu tocyn dilys?

      • Os nad ydych chi wedi cael cyfle i brynu tocyn yn ystod eich taith, mae disgwyl i chi dalu am eich taith o hyd cyn gynted â phosibl pan fyddwch yn cyrraedd eich cyrchfan.
      • Os byddwch yn gwrthod prynu tocyn dilys, dilynir cam nesaf ein proses amddiffyn refeniw.

      • Os cawsoch chi gyfle i brynu tocyn yn ystod eich taith neu os nad yw eich tocyn symudol wedi cael ei actifadu, bydd ein Arolygwr Diogelu Refeniw yn gofyn cwestiynau ynghylch pam nad oes gennych chi docyn dilys ar gyfer eich taith. Os oes gennych reswm dilys, ni chymerir unrhyw gamau pellach.

       

      Hysbysiad Methu Prynu

      • Os nad oes gennych reswm dilys neu os ydych wedi gwrthod prynu tocyn, bydd ein Arolygwr Diogelu Refeniw yn cofnodi eich enw a’ch cyfeiriad yn ein cronfa ddata diogelu refeniw ynghyd â’ch esboniad.
      • Cofiwch, mae rhoi manylion ffug yn debygol o arwain at achos troseddol.
      • Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd ein Arolygwyr Diogelu Refeniw yn eich atgoffa am ein polisi Prynu Cyn Teithio ac efallai y byddwch yn cael Hysbysiad Methu Prynu sy’n mynnu eich bod yn talu pris eich tocyn trên - y pris llawn ar gyfer eich taith - drwy ein system talu ar-lein. Bydd y taliad hwn yn cael ei gofnodi’n awtomatig yn erbyn eich enw yn ein cronfa ddata diogelu refeniw. Rhaid talu o fewn 21 diwrnod.

       

      Tocynnau Cosb

      • Os ydych chi’n teithio o fewn parth tocynnau cosb, rhwng Amwythig a Birminghan International ar hyn o bryd, byddwch yn cael Hysbysiad Tocyn Cosb y mae’n rhaid ei dalu’n llawn neu apelio yn ei erbyn o fewn21 diwrnod. Gall methu â gwneud hyn arwain at daliadau gweinyddol ychwanegol neu hyd yn oed erlyniad.

       

      Cosb Benodedig

      • Os bydd ein cronfa ddata yn rhoi gwybod i ni bod Hysbysiad Methu Prynu blaenorol wedi cael ei roi, efallai y byddwch yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig y gellir ei dalu drwy ein system dalu ar-lein. Bydd y taliad hwn yn cael ei gofnodi’n awtomatig yn erbyn eich enw yn ein cronfa ddata diogelu refeniw. Rhaid i chi wneud y taliad hwn o fewn 21 diwrnod neu gael eich erlyn am beidio â thalu

       

      Cyfeiriwyd ar gyfer Erlyn

      • Dan rai amgylchiadau fel troseddau sy’n digwydd dro ar ôl tro, dim cydymffurfio â Hysbysiad Methu Prynu neu fethu â rhoi’r manylion cywir, bydd asesiad achos unigol yn cael ei gynnal a allai arwain at gael eich gwysio i lys ynadon er mwyn cael eich erlyn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn pwyso am adennill yr holl gostau sy’n ddyledus ynghyd â chyfraniad tuag at gostau gweinyddol.

      • Dyma rai amgylchiadau lle mae erlyniad yn fwyaf tebygol:
        • ymgais i dwyllo
        • rhoi manylion personol ffug
        • mynd ati’n fwriadol i hawlio taith fyrrach na’r hyn a deithiwyd mewn gwirionedd
        • troseddu dro ar ôl tro - teithio heb docyn dilys ar fwy nag un achlysur.
      • Os yw’r asesiad achos yn argymell y dylid erlyn, anfonir yr achos am asesiad terfynol gan fwrdd adolygu achos Trafnidiaeth Cymru.
      • Yna byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr asesiad terfynol a byddwn bob amser yn egluro ac yn esbonio ein penderfyniad yn ysgrifenedig.
      • Yna byddwch yn derbyn gwŷs llys yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich achos yn y llys neu gyflwyno ple ysgrifenedig.
      • Mae ein proses yn unol â Chod Ymarfer y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd “Trefniadau ar gyfer Afreoleidd-dra Tocynnau Teithio” a chyhoeddiad Transport Focus “Ticket to Ride”.

       

      Diogelu Data

      • Drwy gydol y broses, caiff yr holl fanylion personol eu prosesu yn unol â Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR). Mewn achosion sy’n cynnwys oedolion dros 18 oed, nid ydyn ni’n gallu gohebu gydag unrhyw drydydd parti oni bai bod yr unigolyn hwnnw’n cael ei gynrychioli gan gyfreithiwr cymwys.

       

      Gaf i apelio yn erbyn penderfyniad?

      • Mae Transport Investigations Ltd yn annog teithwyr i gyflwyno unrhyw amgylchiadau lliniarol cyn penderfynu ar y cam nesaf a chaniatáu 21 diwrnod i ymateb.

      • Os cewch eich dyfarnu’n euog mewn llys ynadon, gallwch apelio yn unol â’r gyfraith ond fe’ch cynghorir i ofyn am gyngor cyfreithiol ar eich cost eich hun.

       

      Gyda phwy ddylwn i gysylltu os bydd gennyf unrhyw gwestiynau?

      • Cysylltwch â Transport Investigations Ltd ynghylch unrhyw achos parhaus yn y broses diogelu refeniw.
      • Transport Investigations Ltd, 1 Station Approach, March, PE15 8SJ
      • Ffôn: 01354 606988

       

      Cwynion

  • I roi eglurhad ychwanegol, dyma rai Cwestiynau Cyffredin am ein Polisi Prynu Cyn Teithio
    • Yn yr orsaf

      A allaf fynd ar y trên os yw ciw'r swyddfa docynnau / Peiriant Gwerthu Tocynnau yn rhy hir?

      • Eich cyfrifoldeb chi yw gadael digon o amser i brynu eich tocyn, gan ystyried bod ciwiau yn ystod amseroedd brig (07:00 - 09:30 a 15:30 - 18:00) yn debygol o fod yn hirach. Yn aml gall ciwiau fod yn hirach drwy gydol y dydd ar ddiwrnodau digwyddiadau prysur.
      • Os yw’n bosibl, ceisiwch gynllunio i brynu eich tocyn cyn eich taith a gallwch bob amser brynu tocyn y noson flaenorol o beiriant gwerthu tocynnau (o 1600 ymlaen) ar gyfer taith drannoeth.

      A allaf fynd yn syth ar y trên os yw’r trên yn yr orsaf ac ar fin gadael?

      • Eich cyfrifoldeb chi yw gadael digon o amser i brynu eich tocyn cyn i'r trên adael. Ni fydd y trên yn gadael yr orsaf nes ei bod i fod i wneud hynny. Bydd y drysau'n cau 40 eiliad cyn gadael.

      Oes rhaid i mi drafferthu prynu tocyn os mai dim ond un stop i lawr y lein yn unig yw pen draw fy nhaith?

      • Rhaid i chi brynu tocyn dilys ar gyfer eich taith, beth bynnag yw hyd eich taith.

      Beth os na alla i brynu tocyn cyn i mi fynd ar y trên oherwydd fy anabledd?

      • Os oes gennych chi anabledd sy’n eich rhwystro rhag prynu tocyn cyn mynd ar y trên; yna cewch brynu tocyn ar y trên. Byddwn yn cynnig y tocyn priodol ar gyfer eich taith ac yn rhoi disgownt os byddwch chi’n gymwys.

       

      Cardiau Rheilffordd

      Beth pe bawn i wedi prynu tocyn am bris is gyda Cherdyn Rheilffordd ymlaen llaw, ond wedi anghofio'r Cerdyn Rheilffordd cyn cychwyn ar fy siwrnai?

      • Os ydych chi'n teithio ar docyn gyda gostyngiad Cerdyn Rheilffordd, rhaid i chi gael eich Cerdyn Rheilffordd dilys gyda chi i fynd gyda'ch tocyn. Os byddwch chi wedi anghofio eich Cerdyn Rheilffordd, rhaid i chi brynu tocyn dilys pris llawn newydd ar gyfer eich taith cyn i chi fynd ar y trên. Os na allwch ddangos eich cerdyn rheilffordd os bydd ein tîm diogelu refeniw yn eich stopio, fe allech chi gael eich erlyn.
      • Os oes gennych Gerdyn Rheilffordd dilys, ond eich bod chi wedi ei anghofio cyn teithio, gallwch hawlio cost unrhyw bris ychwanegol yn ôl cyhyd â'i fod y tro cyntaf i chi hawlio.

      Pam na roddodd y goruchwyliwr fy ngostyngiadau Cerdyn Rheilffordd i mi?

      • Os ydych chi wedi mynd ar y trên o orsaf lle mae cyfleusterau prynu tocynnau ar gael, bydd yn rhaid i chi dalu'r pris sengl neu ddwyffordd llawn, heb ddisgownt, ar gyfer eich taith (ni fydd gostyngiadau, gan gynnwys Cardiau Rheilffordd, ar gael) wrth brynu gan aelod o staff ar y trên.

       

      Prynu tocyn ar y trên

      Pam fod gennych chi giard/goruchwyliwr ar y trên os na all werthu tocyn i mi?

      • Mae'r goruchwyliwr ar y trên er eich diogelwch chi ac mae ganddo lawer o rolau i'w cyflawni yn ystod y daith, fel agor a chau'r drysau, darparu gwasanaethau i gwsmeriaid, gwirio tocynnau a gwneud cyhoeddiadau ar y trên. Mae'n rôl brysur ac ni fyddai gan y giard yr amser i werthu tocynnau i bawb ar y trên yn ogystal â chyflawni'r dyletswyddau hyn.
      • Fodd bynnag, mae gan oruchwylwyr y gallu i werthu tocynnau i gwsmeriaid sy'n mynd o orsafoedd lle nad oes cyfleusterau prynu tocynnau ar gael. Pan fydd trenau'n brysur, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i gwsmeriaid sydd angen tocyn chwilio am y goruchwyliwr ar y trên oherwydd gallai fod yn anodd i'r goruchwyliwr fynd o un pen y trên i'r llall.

       

      Tocynnau symudol

      Beth fydd yn digwydd os oes gen i docyn symudol ond bod batri fy ffôn wedi diffodd?

      • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod digon o fatri ar eich ffôn symudol. Mae gan rai o'n trenau mwy newydd socedi trydan ar gyfer gwefryddion ffonau.

      A all fy ffrind actifadu tocyn symudol i mi ei ddefnyddio?

      • Gall, ond mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n teithio gyda'ch gilydd am y siwrnai gyfan.

      Pam mae'r goruchwyliwr eisiau sganio fy nhocyn?

      • Bydd goruchwylwyr yn sganio eich e-docyn neu docyn symudol i atal y tocyn rhag cael ei ailddefnyddio - yn debyg i pan fydd goruchwyliwr yn tocio tocyn papur. Os oes gennych chi docyn symudol mewn app symudol, bydd angen i chi ei actifadu cyn i chi fynd ar y trên fel bod modd darllen y cod bar.

       

      Swyddfeydd tocynnau

      Sut mae modd i mi weld amseroedd agor fy swyddfa docynnau leol?

      • Dylai amseroedd agor fod wedi eu nodi y tu allan i'r swyddfa docynnau ei hun, a gellir eu gweld ar-lein hefyd.

      Roedd y swyddfa docynnau wedi cau ar adeg pan oedd i fod ar agor

      • Weithiau, am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth, fel salwch ymysg y staff, efallai y bydd angen newid amseroedd agor swyddfa docynnau. Cyfeirir at gau swyddfeydd yn adran diweddariadau gorsafoedd Gwirio Taith. Mae gan bob gorsaf sydd â swyddfa docynnau beiriannau gwerthu tocynnau hefyd.

       

      Peiriannau Gwerthu Tocynnau

      Beth pe na bai'r Peiriant Gwerthu Tocynnau yn gweithio?

      • Rhoddir gwybod i'n tîm rheoli am ddiffygion peiriannau gwerthu tocynnau, ac mae modd gweld manylion yn adran diweddariadau gorsafoedd Gwirio Taith www.journeycheck.com/tfwrail a'u cyfleu i'n goruchwylwyr a'n tîm diogelu refeniw. Mae bob amser yn syniad da tynnu llun o'r sgrin fel tystiolaeth

      Rwyf am dalu gydag arian parod ond dim ond cardiau sy’n cael eu derbyn gan y Peiriant Gwerthu Tocynnau yn fy ngorsaf

      • Siaradwch ag aelod o staff ar y cyfle cyntaf a/neu sicrhewch Awdurdod i Deithio yn gyfnewid am docyn - Yna gallwch dalu gydag arian parod heb orfod talu'n ychwanegol.

       

      Tocynnau Tymor

      Beth ddylwn i ei wneud os wyf eisiau adnewyddu fy nhocyn tymor ac nad oes swyddfa docynnau ar gael?

      • Os oes gennych chi gerdyn â llun, gallwch brynu tocyn tymor wythnosol o beiriant gwerthu tocynnau. Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau ar gael yn eich gorsaf ymadael, prynwch docyn unffordd ar gyfer eich cyrchfan o'r peiriant gwerthu tocynnau ac yna prynwch eich Tocyn Tymor yng ngorsaf eich cyrchfan. Bydd cost eich tocyn sengl yn cael ei dynnu o’ch tocyn tymor. Rhaid i chi gael tocyn dilys i deithio cyn mynd ar y trên.

      Beth os ydw i wedi anghofio dod â fy nhocyn tymor?

      • Bydd angen i chi brynu tocyn dilys i deithio cyn mynd ar y trên. Yna gallwch wneud cais am ad-daliad am y tocyn yn eich swyddfa docynnau leol. Gallwch wneud cais am ad-daliad ddwywaith mewn blwyddyn.

      Beth os bydd fy nghynlluniau'n newid a bod angen i mi deithio ymhellach na'r gyrchfan ar fy nhocyn?

      • Rydym yn deall y gall cynlluniau newid. Os byddant yn newid cyn i chi gychwyn ar eich taith, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn estyniad ar gyfer eich taith cyn i chi fynd ar y trên.
      • Os bydd eich sefyllfa'n newid unwaith y bydd eich taith wedi cychwyn, rhowch wybod i'r goruchwyliwr ar y cyfle cyntaf a phrynu estyniad ar gyfer eich tocyn neu ei brynu drwy app Trafnidiaeth Cymru.
      • Mae'n bosibl y cewch eich erlyn os profir eich bod yn fwriadol wedi bwriadu teithio ymhellach na’r gyrchfan sydd ar eich tocyn, heb dalu'r pris cywir.

       

      Timau Diogelu Refeniw

      Pam mae'n ymddangos bod y Timau Diogelu Refeniw bob amser yn fy ngorsaf?

      • Mae timau Diogelu Refeniw yn gweithredu o gwmpas ein rhwydwaith cyfan ond rydym yn defnyddio data teithio heb docynnau a refeniw i helpu i dargedu ardaloedd sy'n peri pryder penodol.

      A yw'r Arolygwyr Diogelu Refeniw yn cael eu cyflogi gan Trafnidiaeth Cymru?

      • Cyflogir Arolygwyr Diogelu Refeniw gan Transport Investigations Ltd (TIL), yr ydym yn cydweithio'n agos â nhw drwy bartneriaeth i reoli ein gweithrediadau Diogelu Refeniw. Mae'r holl Arolygwyr Diogelu Refeniw wedi eu hyfforddi'n llawn gan TIL o ran deddfwriaeth gwasanaethau cwsmeriaid a diogelu refeniw.

      A oes rhaid i mi roi fy manylion cyswllt personol i'r Arolygydd Diogelu Refeniw?

      • Oes. Dim ond at ddibenion dilyn eich achos os na fyddwch wedi gallu cyflwyno tocyn dilys ar gais y bydd eich manylion personol yn cael eu defnyddio. Mae'n drosedd ddifrifol darparu gwybodaeth ffug ac ni fydd hyn yn helpu eich achos pe bai'n symud ymlaen i erlyniad.

      Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn hapus â’r ffordd y cefais fy nhrin gan y tîm diogelu refeniw?

      • Gallwch gysylltu â'n hadran gwasanaethau cwsmeriaid naill ai ar-lein neu godi ffurflen adborth cwsmeriaid yn eich swyddfa docynnau leol.